Food Cardiff loading now
Food Cardiff's Pearl Costello with Patrick Hogan, general manager of Clayton Hotel Cardiff and Faith Attwell, founder of the Hangar Human Performance Centre

Mae Gwesty Clayton yn cefnogi rhwydweithiau bwyd cymunedol Bwyd Caerdydd

Mae Gwesty Clayton, Caerdydd yn ymuno â Bwyd Caerdydd i helpu i ariannu ei Rwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol, sy’n cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar fwyd neu sydd dan bwysau oherwydd costau byw.

Llwyddodd y gwesty i gael dros £3,000 gan Gronfa Gymunedol M&G plc, a bydd Bwyd Caerdydd yn defnyddio’r arian i gynorthwyo’r 2,000+ o fuddiolwyr sy’n rhan o’r Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol.

Elusen neu fenter gymdeithasol nid-er-elw sy’n rhan annatod o’r gymuned leol yw’r prosiectau Manwerthu Bwyd Cymunedol a chanddo genhadaeth cymdeithasol gref, sef mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â bwyd. Cymysgedd o asiantaethau a phrosiectau yw Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol Caerdydd sy’n darparu mynediad at fwyd ar adegau pan fydd ei angen, a chynorthwyo pobl i ddod o hyd i atebion hirdymor er mwyn goresgyn caledi ariannol a’u helpu i gadw’n iach.

Yn ogystal, mae staff Bwyd Caerdydd, gyda chymorth y cyllid, hefyd yn helpu i weithio ar 20 o brosiectau sy’n darparu mynediad gydag urddas at fwyd iach, sy’n briodol yn ddiwylliannol, yn ogystal â gwasanaethau cofleidiol megis cyngor ariannol, awgrymiadau ar faeth a chymorth gyda dyledion i 2,400 o gartrefi.

Meddai Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd:

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael effaith gadarnhaol hirdymor a chynaliadwy ar bobl sy’n wynebu tlodi yn ystod y cyfnod anodd hwn yn economaidd. Gallwn gydlynu ymateb ar draws y ddinas i gefnogi pobl mewn amgylchiadau pan fydd yn anodd iddyn nhw gael mynediad at fwyd, drwy ein Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol. Drwy’r rhwydwaith a’r bobl eraill rydym yn eu cyrraedd drwy ein sianeli eraill, byddwn yn llwyddo i helpu ymhell dros 3,000 o bobl drwy’r gweithgaredd hwn.

Meddai “Mae’n dangos un o’r amryfal ffyrdd y gall busnesau helpu’r mudiad Bwyd Caerdydd, sy’n cynnwys amrywiaeth o addunedau sy’n seiliedig ar ein Pum Nod ar gyfer Bwyd Da yn y ddinas – bod pobl yn iach; bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn amgylcheddol gynaliadwy; bod cymunedau’n gallu helpu i ddylanwadu ar eu systemau bwyd; bod ein heconomi fwyd yn gadarn; a bod ein system fwyd yn deg a bod polisïau wedi’u cydgysylltu.”

Daeth Gwesty Clayton yn un o gefnogwyr Bwyd Caerdydd mewn ymateb i’w ymgyrch ddiweddar i ymgysylltu â busnesau yng nghanol y ddinas drwy addunedu i sicrhau mai Caerdydd yw un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU – ymgyrch a wireddwyd gyda chymorth Cronfa Uchelgais Dinas Caerdydd AM BYTH.

Patrick Hogan yw rheolwr cyffredinol Gwesty Clayton, Caerdydd a chadeirydd Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd. Meddai:

“Fel gwesty rydym yn ymrwymedig i wella ein perfformiad o ran cynaliadwyedd yn barhaus – rydym yn aelod o’r grŵp Twristiaeth Werdd ac yn meddu ar Wobr Aur Twristiaeth Werdd ers 2021.
Meddai “Gwelsom gyfle i gefnogi Bwyd Caerdydd gyda’i nod o sicrhau mai’r ddinas yw un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU, drwy wneud cyfraniad sy’n helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen ac sy’n creu cadernid a diogelwch bwyd yn y tymor hwy. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas â Bwyd Caerdydd ymhellach eleni.”

Carolyn Brownell yw cyfarwyddwr cyswllt Rhanbarth Gwella Busnes y ddinas Caerdydd AM BYTH:

Meddai “Rydym yn falch o allu defnyddio ein Cronfa Uchelgais y Ddinas i gynorthwyo Bwyd Caerdydd i ymgysylltu â mwy o fusnesau drwy’r ymgyrch addunedau Bwyd Da. Gall rhannu syniadau arloesol ynglŷn â’r camau gweithredu y gall busnesau eu cymryd i gefnogi system fwyd fwy cynaliadwy gyd-fynd â’n nod i helpu cwmnïau’r ddinas i newid i economi fwy gwyrdd. Mae’n wych gweld enghraifft arall o effaith gadarnhaol Cronfa Uchelgais y Ddinas.”

Gwesty 4 seren yw Gwesty Clayton wedi’i leoli’n agos at orsaf drenau Caerdydd Canolog nid nepell o ganolfannau siopa a busnes y ddinas. Mae’n darparu llety yn bennaf ar gyfer pobl ar wyliau byr yn y ddinas, y rhai sy’n ymweld â’r ddinas ar gyfer digwyddiadau a’r rhai sy’n teithio ar fusnes.

The Community Food Retail Network meets at the Hangar Human Performance Centre