Food Cardiff loading now

Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd 2023 – Rhaglen yr Ŵyl

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn gyda rhaglen o ddigwyddiadau bwyd wedi’u trefnu ar draws y ddinas y mis hwn i arddangos y mudiad bwyd da yn y ddinas.

Y thema eleni yw dathlu’r cyfoeth o fwyd a ddaw gyda’r cynhaeaf a gofyn i bobl ailgysylltu â’r tymhorau o ran yr hyn maent yn ei dyfu, yn ei goginio ac yn ei fwyta.

9th & 10th Medi

Gŵyl Hydref Amgueddfa Cymru

Digwyddiad blynyddol yw Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru a gynhelir yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Mae’n un o hoff ddigwyddiadau’r calendr bwyd yng Nghymru, gan ddod â Sain Ffagan yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefftau ymhlith yr adeiladau hanesyddol.

Yn ardal Bwyd Da Caerdydd bydd gweithgareddau llawn hwyl ar gael i’r teulu cyfan i’w dysgu am fwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned. Wedi’i arwain gan Bwyd Caerdydd a Beca Lyne-Pirkis (Cogydd, Cyflwynydd, Awdur a Seren Great British Bake Off), cynhelir gweithdai, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau i ddathlu bwyd lleol yn yr ardal.

Gŵyl Hydref Amgueddfa Cymru

9 – 30 Medi

Operation Vegetable – Ysgol Gynradd Ton Yr Ywen

Hyrwyddo iechyd a lles plant yw bwriad Operation Vegtable a hynny drwy fod yn yr awyr agored a thyfu llysiau ar ein rhandir.

Bydd cyfle i blant Blwyddyn 4 ddysgu sut i dyfu eu llysiau eu hun. Bydd y plant yn ymchwilio i ba lysiau y gallant eu tyfu yn yr hydref ac yn cynllunio’r rhandir yn unol â hynny. Bydd cyfle iddynt hefyd gynaeafu’r llysiau sy’n barod a’u gwerthu i gymuned yr ysgol.

9 Medi

Digwyddiad Codi Arian Cymry Swdan

Ymunwch â’r digwyddiad codi arian i brynu meddyginiaeth i bobl Swdan sy’n dioddef effeithiau’r rhyfel. Byddwn yn gweini bwyd traddodiadol o Swdan, a bydd dawnsio, cerddoriaeth, paentio wynebau, henna, castell gwynt, celf a byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r caledi y mae pobl Swdan yn ei wynebu mewn gwlad sydd wedi’i dinistrio gan ryfel ar hyn o bryd.

Cwis a Noson Gyrri i Godi Arian – Gwirfoddolwyr Cymunedol Y Sblot

Dewch i’n Cwis a Noson Gyrri i godi arian a mwynhau swper sef dewis o gyrri llysiau neu gyw iâr a seigiau ochr. Mae croeso i blant 12+ oed fynychu. Drysau’n agor am 7pm. Dewch â’ch diodydd eich hun. (£6 y pen, £3 y plentyn 12+ oed). (£6 y pen, £3 y plentyn 12+ oed). Gallwch archebu lle drwy gysylltu â joe@splottcommunityvolunteers.co.uk

10 Medi

Pen-blwydd Marchnad Glan-yr-afon yn 25 oed

Hoffem wahodd pawb, ein cefnogwyr selog a’r rhai sy’n ymweld am y tro cyntaf, i ddathlu ein pen-blwydd yn 25 oed. Mae’r achlysur hwn yn gyfle perffaith i ddathlu’r effaith gadarnhaol mae cynyrchwyr a chrefftwyr bwyd lleol wedi’i chael ar y ddinas

The 25th Anniversary of Riverside Market

12 Medi

Digwyddiad y Cynhaeaf i Ddathlu Treftadaeth Fyd-eang

Ym mis Mai edrychodd y rhwydwaith newydd Back to Our Roots ar yr heriau a’r llwyddiannau a geir yn sgil tyfu ffrwythau a llysiau sy’n cynrychioli ein cymunedau amrywiol yma yn y DU. Bydd y sesiwn ddilynol hon yn dathlu cynaeafu llawer o’r gwahanol hadau byd-eang rydym wedi’u plannu ar hyd a lled y DU.

Bydd Catrina sy’n gyfrifol am y llyfrgell hadau yn Garden Organic yn ymuno â Carol Adams. Bydd yn datgelu’r cyfoeth o wahanol hadau gwerthfawr sydd ar gael yn ystod y sesiwn. Mae’r digwyddiad ar agor i bawb, felly cofiwch ymuno i arddangos eich cynnyrch ac i ddysgu am gadw hadau.

Digwyddiad y Cynhaeaf i Ddathlu Treftadaeth Fyd-eang 12 Medi 2023 12:00 | Eventbrite

16 Medi 2023 neu 23 Medi 2023 (yn dibynnol ar y tywydd)

Digwyddiad Rhannu Pryd a Chysylltu Teuluoedd – Ymddiriedolaeth Gymunedol Alhusna

Gwahoddiad yn Unig

Bwriad y digwyddiad hwn yw cysylltu drwy fwyd a chefnogi teuluoedd i fynd i’r afael ag unigrwydd. Daw pobl at ei gilydd i rannu gwahanol brydau bwyd ethnig ac i gyfnewid ryseitiau, gan gysylltu â phobl leol i ddathlu gwyliau bwyd Caerdydd yr hydref drwy goginio a bwyta.

23 Medi

Y Pridd a’r Cynnyrch: Tyfu gyda’n Gilydd ar gyfer yr Hydref

Dewch i fwynhau ein gardd gymunedol llawn llysiau yn Nhreganna ac i baratoi’r pridd ar gyfer y gaeaf a’r gwanwyn. Rydym yn falch bod Louise Gray a Pat Gregory am arwain y gweithgareddau garddio ymarferol. Cewch ddysgu sut i wneud eich compost eich hun, plannu bylbiau, rhoi eginblanhigion mewn potiau a hau llysiau’r gaeaf. Bydd cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan fynd â phethau adref – toriad mewn potyn, tusw o berlysiau ac unrhyw lysiau sy’n barod i’w cynaeafu.

10.30-12.30 Eglwys Gyfanol Treganna, CF5 1LQ

Dathlu Cynaeafu Gardd Cegin Grangetown

Gwahoddiad yn Unig

Bydd CIC Urban-Vertical yn dathlu’r holl waith gwych y mae cymuned Grangetown yn ei wneud i sicrhau bod Gardd Cegin Grangetown yn cael ei chynnal mor llwyddiannus â phosibl. Ers mis Ebrill, mae CIC Urban-Vertical wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu gardd i dyfu bwyd, marchnad wythnosol ar gyfer bwyd dros ben, cyrsiau coginio, maetheg a chreadigol am ddim, ac wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol.

Mae ein rhaglen wirfoddoli yn allweddol er mwyn iddo lwyddo, a hoffem gydnabod a dathlu help a chymorth ein gwirfoddolwyr. Fel rhan o ddathlu’r cynhaeaf cymunedol bydd arddangosiadau coginio yn yr awyr agored gyda’r bwyd tymhorol a bwyd dros ben gan gogyddion lleol, gemau gardd hwyliog, cystadleuaeth aros-barod-coginio, cinio tymhorol am ddim, a cherddoriaeth fyw. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd hyd yma i nodi’r garreg filltir bwysig hon fel rhan o Raglen Gŵyl Fwyd Caerdydd yr Hydref.

24 Medi

O’r Hedyn i’r Bwrdd yn Neuadd a Gardd Gymunedol San Pedr

Dewch i ymuno â ni am brynhawn hwyliog ac i ddysgu am daith arddio San Pedr.

Gallwch ddysgu sut i dyfu bwyd syml, maethlon ac iach yn eich gardd, iard gefn neu ar silff y ffenestr hyd yn oed – hadau, eginblanhigion, perlysiau ac ati

Mae’r taflenni gweithgareddau yn canolbwyntio ar helpu bywyd gwyllt dros y gaeaf. Bydd cyfle i wneud roliau bara. Bydd gwobr am y model clai gorau o anifail coetir. A chyfle i ennill 5 bocs ar gyfer y ffenestr!

https://www.facebook.com/people/St-Peters-Community-Hall-Gardens/100071455733510/

25 Medi

Cynnyrch Gardd Organig – Prosiect Gardd Gymunedol Glan-yr-Afon

Gallwch fwynhau cynnyrch cartref o’n gardd organig, wedi’i goginio yn y popty pitsa. Edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd a byddwn yn rhoi taith o amgylch ein gardd hyfryd hefyd. (Gwerthfawrogir rhoddion ar gyfer yr ardd)

Rhandiroedd Parhaol Pontcanna, CF5 2YB

https://www.facebook.com/groups/27075907877/

29 Medi

Bwydydd Da y Byd – Fforwm Ieuenctid Grangetown

Gwahoddiad yn Unig

Daw pobl ifanc 13-25 oed at ei gilydd i rannu, i gysylltu ac i brofi bwydydd o bob cwr o’r byd i ddathlu diwylliant ac i siarad am gynaliadwyedd a bwyta’n iach.

30 Medi

Digwyddiad Dathiu’r Cynhaeaf a Gwneud Bara y Clwb Garddio – Gerddi Rheilffordd

Ymunwch â’r Grŵp Tyfu Gerddi Rheilffordd i ddathlu’r cynhaeaf! Cymerwch ran mewn gweithgareddau garddio, raffl, stondin gacennau a dydd Sadwrn Rhannu Bwyd arbennig gyda Molly a fydd yn ein dysgu sut i wneud bara. Rhagor o fanylion yn fuan!

Cofiwch roi gwybod i ni os gallwch gynnig gwobr ar gyfer y raffl, pobi cacen neu fara ar gyfer y stondin gacennau, neu wirfoddoli ar y diwrnod.

Gerddi Rheilffordd, CF24 2BH

Digwyddiad Dathiu’r Cynhaeaf a Gwneud Bara y Clwb Garddio, 30 Medi 2023 10:30 | Eventbrite

Dewch i Ddylunio Perllan – Perllan Gymunedol Parc Bute

Dewch i gynllunio perllan.

Mae perllan gymunedol Parc Bute i bawb, ac wedi’i lleoli ar y tir a roddodd yr Iarll Bute i drigolion Caerdydd. Bydd yn lle i bawb, yn groesawgar ac yn agored, ac wedi’i ddylunio gennych chi.

Ymunwch â ni drwy ein helpu i ddylunio coedwig fwytadwy anhygoel. Dewch i sgwrsio, i ofyn cwestiynau, i gyflwyno syniadau neu ddim ond cofrestru i gymryd rhan. Hoffem eich gweld.
Bydd y sesiwn yn un hamddenol, anffurfiol a hwyliog.

Darperir lluniaeth a rhai gweithgareddau ymarferol. Mae croeso i bob oedran.

Bydd y sesiwn yn yr awyr agored felly cofiwch ddod â digon o ddillad.

Parc Biwt, CF10 3DR

https://www.facebook.com/ButeParkCommunityOrchard/

Prosiect Dathlu’r Tomato @Global Gardens

Ymunwch â ni am brynhawn o ddathlu’r gwahanol domatos sy’n tyfu yn Global Gardens. Byddwn yn cynnal gweithdai blasu a sut i gadw hadau ac yn cynnal arddangosiad coginio.

Global Gardens, Rhandir Flaxland, CF14 3NE

Prosiect Dathlu’r Tomato, 30 Medi 2023 11:00 | Eventbrite

Diwrnod yr Afal – Orchard Cardiff

Ymunwch â ni i ddathlu diwrnod yr Afal – cewch wasgu eich gwydryn o sudd afal, rhoi cynnig ar gwis yr afal a dod ar daith o amgylch perllan!

Global Gardens, Rhandir Flaxland, CF14 3NE

Diwrnod yr Afal, 30 Medi 2023 13:00 | Eventbrite