Food Cardiff loading now

Lleihau Gwastraff yn yr Heathcock, Llandaf

Gan Sarah Watts-Jones, cyd-berchennog y Grŵp Hare & Hounds: Yr Heathcock yng Nghaerdydd, Hare & Hounds, Aberthin, Hare & Hounds Bakery, Y Bont-faen, a The Clifton, Bryste.

“Mae ein tafarn yng Nghaerdydd (yr Heathcock) yn gyrchfan leol ffyniannus sydd wedi bod yn rhan o’r gymuned ers dros 100 mlynedd; rydym yn gweini cwrw gwych, gwinoedd diddorol, diodydd tymhorol cartref a byrbrydau bar blasus.

Ochr yn ochr â’r bar, rydym yn cynnig bwydlen dymhorol sy’n newid yn ddyddiol yn ein hystafelloedd bwyta. Rydym yn defnyddio’r cynnyrch lleol gorau sydd gan Fro Morgannwg a Chaerdydd i’w cynnig – yn y Fro mae gennym y pridd mwyaf cynhyrchiol yn y DU; mae hyn yn rhoi cig, llysiau a helgig o’r ansawdd uchaf i ni. Mae ein gardd gegin a’n tyddyn hefyd yn darparu ffrwythau a llysiau cartref i ni sydd wedi’u cynnwys yn ein bwydlenni yn yr Heathcock, ac yn ein tafarn wreiddiol, yr Hare & Hounds, yn ogystal ag yn The Clifton.

Mae ardal leol a natur dymhorol yn allweddol i ni, ac mae pob bwydlen yn adlewyrchu’r gorau o gynnyrch lleol y dydd; mae ein bwydlenni i gyd yn newid ddwywaith y dydd gyda’r tymhorau. Mae platiaau i’w rhannu yn rhan fawr o’r llawenydd o fwyta gyda ni; o basteiod mawr, i ysgwyddau cig oen Cymru wedi’u coginio’n araf neu ddraenogiad y môr o Gymru wedi’i bobi. Mae popeth yn cael ei wneud o’r dechrau’n deg yn ein cegin, o’n bara surdoes a’n menyn wedi’i feithrin ein hunain, i basta ffres. Rydym yn ceisio cadw ein hôl troed carbon yn isel, trwy ein defnydd o gyflenwyr a ffermwyr lleol, a thrwy brynu cynnyrch pan fydd yn dymhorol yn unig.

Rydym yn ceisio bod yn gynaliadwy a lleihau gwastraff mewn ffyrdd eraill hefyd, ar wahân i fwyd yn unig. Mae ailgylchu’n bwysig iawn i ni – ond mae lleihau faint o wastraff rydyn ni’n ei greu yn y lle cyntaf hefyd yn eithriadol o bwysig i ni. Mae gan bob busnes finiau gwastraff cyffredinol cyfyngedig – yna biniau ar gyfer gwydr, biniau ailgylchu cymysg a biniau gwastraff bwyd; rydym yn lwcus hefyd o gael ein tyddyn yn y Fro, sydd y tu ôl i’r Hare & Hounds, gan ein bod yn gallu anfon ein gwaddodion coffi a’n gwastraff bwyd at ein system gompostio – felly ychydig iawn sy’n mynd yn wastraff.

Mae gwahanu ein gwastraff ar gyfer ailgylchu yn gorfodi’r staff i feddwl am yr hyn maen nhw’n ei roi ac ymhle.

Rydym hefyd yn swmpbrynu lle bynnag y gallwn – boed hynny’n gnau ar gyfer y tafarndai neu’n greision ar gyfer y siop fara, mae’r cyfan yn helpu i gyfyngu ein dibyniaeth ar gynhyrchion plastig untro Daw ein holl siampŵau, sebonau ac ati sydd yn ein Gwely a Brecwast o Fill (brand ail-lenwi cynaliadwy) sy’n golygu nad oes cynhyrchion plastig untro, dim gwastraff ac mae ein gwesteion ond yn defnyddio’r hyn sydd ei angen arnynt. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried cael cynhyrchion glanhau diwastraff, a gymeradwywir gan EHO, yng ngheginau ein tafarndai fel y gallwn barhau â’r ymagwedd honno drwy’r busnes.

Fel busnes, mae cynaliadwyedd, yr ardal leol a’r blaned mor bwysig i ni; ein nod bob amser yw gwneud cyn lleied o niwed i’r amgylchedd o’n cwmpas ag y bo modd ac rydym bob amser yn ymdrechu i wneud mwy lle bynnag y gallwn.”