Food Cardiff loading now

Dathlu cyfoeth bwyd yr hydref yng ngŵyl Bwyd Da Caerdydd

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn gyda rhaglen o ddigwyddiadau bwyd wedi’u trefnu ar draws y ddinas y mis hwn i arddangos y mudiad bwyd da yn y ddinas.

Lansiwyd yr ŵyl dros y penwythnos (9-10 Medi) drwy gynnal digwyddiadau yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru (Sain Ffagan) a dathlu Pen-blwydd Marchnad Ffermwyr Glan-yr-Afon yn 25 oed, ac mae’n parhau tan 30 Medi.

Y thema eleni yw dathlu’r cyfoeth o fwyd a ddaw gyda’r cynhaeaf a gofyn i bobl ailgysylltu â’r tymhorau o ran yr hyn maent yn ei dyfu, yn ei goginio ac yn ei fwyta.

Bydd grwpiau cymunedol ar draws y ddinas yn dod â phobl ynghyd drwy fwyd, gan gynnwys digwyddiad codi arian Sgwrs Menywod ar gyfer Swdan, noson gyrri a chwis i’r teulu gan Wirfoddolwyr Cymunedol Y Sblot a digwyddiad gan Back to Our Roots a Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes i ddathlu amrywiaeth o gnydau byd-eang y gellir eu tyfu yn y DU.

Gan fod yr ŵyl yn cyd-fynd â thymor y cynhaeaf, bydd nifer o erddi cymunedol y ddinas yn cynnal digwyddiadau tyfu bwyd gan gynnwys dathlu’r tomato yn Global Gardens, gweithdy garddio’r hydref yng Ngardd Gymunedol Tyfu gyda’n Gilydd, Treganna, gweithgareddau tyfu bwyd yng Ngardd Gymunedol San Pedr a dathlu’r cynhaeaf yng Nghlwb Garddio Gerddi Rheilffordd, Y Sblot.

Bydd ysgolion a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn digwyddiadau megis Operation Vegetable yn Ysgol Gynradd Ton Yr Ywen, cinio cynhaeaf Gardd Cegin Grangetown yn Ysgol Feithrin Grangetown a bydd Fforwm Ieuenctid Grangetown yn dathlu bwyd da o bob cwr o’r byd.

Cynhelir dau ddigwyddiad ar benwythnos olaf yr ŵyl i ddathlu tyfu ffrwythau yn y ddinas, sef gwahoddiad gan Berllan Gymunedol Parc Bute i ‘ddod i gynllunio perllan’ a dathlu cynaeafu’r afal gydag Orchard Cardiff yn Global Gardens.

Esboniodd Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Caerdydd:

“Bu gwyliau’r blynyddoedd blaenorol yn canolbwyntio ar greu cadernid ar ôl Covid a mynd i’r afael ag ynysigrwydd, ond mae’r Ŵyl eleni yn annog pobl i ddathlu cyfoeth yr hydref ac i fwynhau’r pleser a ddaw yn sgil bwyta bwyd yn ei dymor.

“Bwyd yw un o’r prif bethau sy’n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr ond un ffordd o sicrhau bod llawer o bobl yn bwyta’n fwy cynaliadwy yw dewis siopa’n fwy tymhorol, a chan fod bwyta amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau yn gwneud lles i’n hiechyd, mae bwyta cynnyrch tymhorol yn ffordd wych o fwynhau blasau gwahanol drwy gydol y flwyddyn.

“Ond mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at y bwyd da sydd ei angen arnyn nhw. Bydd yr Ŵyl yn rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth, ac yn rhoi cyfle i bobl gyfnewid gwybodaeth a sgiliau er mwyn helpu ei gilydd i siopa, tyfu, coginio a bwyta deiet mwy cytbwys, tymhorol a chynaliadwy,” meddai.

Dros y tair blynedd diwethaf cynhaliodd grwpiau cymunedol, gerddi, busnesau lleol ac ysgolion 100 o ddigwyddiadau a gweithgareddau fel rhan o Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd, gan ddenu dros 5,000 o fynychwyr, dosbarthu mwy na 5,000 o blanhigion llysiau a rhannu cannoedd o brydau bwyd.

Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd gan gynnwys amser a dyddiadau ar gael yma.