Food Cardiff loading now

Bwyd Caerdydd yn cynnig cymorth i ddathlu cyfoeth yr hydref

Mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn ym mis Medi, ac mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol ddathlu cyfoeth yr hydref a hyrwyddo bwyd tymhorol sy’n gyfeillgar i’r blaned.

Rhaglen o ddigwyddiadau bwyd yw’r ŵyl sy’n cael ei chynnal ledled y ddinas i arddangos mudiad bwyd da y ddinas drwy gysylltu pobl drwy fwyd, o 9 i 30 Medi. Yn nhair Gŵyl Hydref ddiwethaf Bwyd Da Caerdydd mae grwpiau cymunedol, gerddi, busnesau lleol ac ysgolion wedi cynnal 100 o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan ddenu dros 5,000 o fynychwyr, dosbarthu mwy na 5,000 o blanhigion llysiau a rhannu cannoedd o brydau.

Er bod gwyliau blaenorol wedi canolbwyntio ar gefnogi cymunedau i adeiladu gwydnwch ar ôl covid a mynd i’r afael ag unigrwydd, eleni, y thema yw dathlu cyfoeth y cynhaeaf a galw ar bobl ailgysylltu â’r tymhorau wrth ystyried yr hyn y maent yn ei dyfu, yn ei goginio ac yn ei fwyta

Mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau bach hyd at £150 i alluogi grwpiau dielw i gynnal digwyddiadau neu weithgareddau fel rhan o’r ŵyl. Gall unrhyw un wneud cais cyn belled â bod y digwyddiad yn hyrwyddo 5 Nod Bwyd Da Bwyd Caerdydd sy’n cefnogi cais y ddinas i ddod yn un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy’r DU.

Mae gan y mudiad ddiddordeb arbennig mewn digwyddiadau neu weithgareddau sy’n dod â chymunedau, cymdogaethau neu aelwydydd ynghyd drwy fwyd, a ddatblygir mewn partneriaeth â’r bobl a fydd yn elwa a’r rhai sy’n cynnwys ystod amrywiol o gymunedau ledled Caerdydd.

Eglurodd Cydlynydd Bwyd Caerdydd, Pearl Costello:

“Mae Gŵyl yr Hydref yn dathlu 5 Nod Bwyd Da Caerdydd, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â 2,500 o bobl yn y ddinas.

“Yn fyd-eang, mae ein bwyd yn cynhyrchu rhwng 21-37% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. eang, mae ein bwyd yn cynhyrchu rhwng 21-37% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r Ŵyl eleni yn annog pobl i ddathlu digonedd yr hydref a’r pleser – a chynaliadwyedd – a ddaw o fwyta yn unol â’r tymhorau.

“Ar lefel fwy personol, mae bwyta’n dda yn helpu ein llesiant meddyliol, yn lleihau’r risg o glefydau a gall gadw ein systemau imiwnedd yn iach – ond mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y bwyd da sydd ei angen arnynt.

“Bydd yr Ŵyl yn rhannu ysbrydoliaeth a’r sgiliau a’r cyfarpar sydd eu hangen ar bobl i fwyta deiet cytbwys, tymhorol a chynaliadwy”, meddai.

Gall unrhyw sefydliad, p’un a yw’n gwneud cais am grant ai peidio, gyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiad perthnasol drwy wefan Bwyd Caerdydd i’w gynnwys yn yr ŵyl. Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau dielw wneud cais am raglen grantiau bach Bwyd Caerdydd cyn 23Awst drwy’r wefan.

Bydd rhestr lawn o ddigwyddiadau Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd ar gael ar foodcardiff.com.