Food Cardiff loading now
Cardiff Farmers Market

GALW AM ADDEWIDION I WNEUD CAERDYDD YN UN O’R LLEOEDD BWYD MWYAF CYNALIADWY YN Y DU

Mae ymgyrch newydd yn gobeithio rhoi Caerdydd ar y trywydd i fod yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Mae Bwyd Caerdydd, partneriaeth dinas gyfan sy’n cynnwys mwy na 200 o unigolion a sefydliadau – yn gofyn i bobl o bob cefndir ‘wneud addewid’ a gweithredu, i helpu Caerdydd i gyflawni statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur erbyn 2024.

Y gobaith yw y bydd yr addewidion yn grymuso pobl Caerdydd i greu economi fwyd leol ffyniannus, lle mae pawb yn gallu cael gafael ar fwyd sy’n iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Lle Bwyd Cynaliadwy

Y llynedd, dyfarnwyd statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Arian i Gaerdydd – ac felly daeth y lle cyntaf yng Nghymru (ac un o ddim ond chwe lle yn y DU) i gyflawni’r anrhydedd fawreddog; mae’r cynllun yn seiliedig ar gyflawniadau efydd, arian ac aur ar draws chwe mater bwyd cynaliadwy allweddol.

Mae busnesau annibynnol, cwmnïau cydweithredol, sefydliadau’r trydydd sector, a sefydliadau mawr (fel Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) bellach am weld Caerdydd yn ymdrechu i gyflawni’r safon aur, i ddod yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

I gefnogi hyn, maent yn ymddangos mewn cyfres o ffilmiau sy’n tynnu sylw at rai o’r addewidion ar waith; mae’r cyntaf yn edrych ar fudd siopa a bwyta gyda chynaliadwyedd mewn golwg.

Bydd mwy o fideos astudiaeth achos yn tynnu sylw at y ffyrdd y gall pobl addo gwneud sîn fwyd Caerdydd yn iachach, yn fwy cysylltiedig ac yn fwy grymus gyda ffocws mwy lleol.

Ynglyn ag ymgyrch #BwydDaCaerdydd

Mae’r ymgyrch i wneud Caerdydd yn ddinas fwyd fwy cynaliadwy yn cael ei chydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd y ddinas sy’n tyfu’n gyflym ac sydd wedi esblygu’n rhwydwaith dinas gyfan deinamig a chynhwysol.

Esboniodd Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd, Pearl Costello,

“Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn effeithio’n enfawr ar fywyd yng Nghaerdydd — nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Mae bwyd da’n creu cymunedau cryf, iach a gwydn sy’n ffynnu. Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r ymgyrch hon i roi cyfle i bob person – a sefydliad – yng Nghaerdydd wneud addewid – neu sawl addewid – a rhoi Caerdydd ar y trywydd i fod yn un o’r dinasoedd mwyaf cynaliadwy yn y DU.”

Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n ceisio dylanwadu ar sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a ffyniannus.

Mae bwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd hefyd yn cynnwys deg aelod gwirfoddol o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Marchnadoedd Ffermwyr Glan-yr-Afon, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn ogystal â llawer o rai eraill.

Drwy’r rhwydwaith hwn, mae Bwyd Caerdydd yn sbarduno newid ar lefel dinas ac mae’n gweithio i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf heddiw.