Food Cardiff loading now

Ymunwch â ni ar gyfer Cynulliad Mis Mehefin Bwyd Caerdydd

Ymunwch â’r rhwydwaith sy’n gyrru chwyldro bwyd da Caerdydd yn ein cynulliad haf ar 25 Mehefin.

Mae’n gyfle i gysylltu â’r bobl a’r prosiectau y tu ôl i’r mudiad bwyd da yn y ddinas. Mae cynulliadau’r rhwydwaith yn gyfle i rannu syniadau ac ysbrydoliaeth ynghylch sut y gallwn oll gydweithio i wneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Mae hwn yn ddigwyddiad agored – os oes gennych ddiddordeb mewn helpu pobl Caerdydd i gael mynediad at fwyd iach, cynaliadwy a fforddiadwy – mae croeso i chi ymuno â’r rhwydwaith. Gallwch ddod ar ran sefydliad neu fusnes, neu fel unigolyn – nid oes angen i chi adnabod rhywun sydd eisoes yn y rhwydwaith ac mae croeso cynnes bob tro.

Dyddiad: 25 Mehefin 2025

Amser: 13:00 – 15:00

Lleoliad: Y Deml Heddwch, Rhodfa Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3AP

Archebwch eich lle ar ein tudalen eventbrite yma.

Er gwybodaeth, mae’r digwyddiad Y Tu Hwnt i’r Aur: Dyfodol Bwyd yng Nghaerdydd wedi’i symud i 23 Hydref. Cofrestrwch eich diddordeb yma (os ydych eisoes wedi cofrestru, nid oes angen i chi ailgofrestru ar gyfer y dyddiad newydd).