Tua diwedd y mis, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob cwr o’r ddinas ar gyfer cyfarfod olaf rhwydwaith Bwyd Caerdydd eleni!
Cynhelir y cyfarfod rhwng 5.30 a 8pm ar 20 Rhagfyr, a gallwch gofrestru yma i archebu eich tocyn am £3*. Cofiwch, nid oes rhaid i chi fod wedi bod i unrhyw gyfarfod blaenorol i ymuno; mae ein cyfarfodydd ar agor i unrhyw un ac i bawb sydd â diddordeb mewn mudiad bwyd da yn y ddinas.
Y tro hwn, Tafarn yr Heathcock yn Llandaf sy’n ein croesawu, ac wedi cadw lle i ni yn y bar clyd i fyny’r grisiau. Bydd ychydig o gaws Cymreig ar gael fel rhan o bris y tocyn, a bydd y bar ar agor i brynu amrywiaeth o ddiodydd (gan gynnwys diodydd Nadoligaidd a diodydd heb alcohol).
Rydym wedi creu blog gwestai ar dîm yr Heathcock yn ddiweddar, felly gallwch ddod i wybod mwy am y dafarn fwyd annibynnol hon drwy glicio yma.
Cyn cyfarfod mis Rhagfyr Bwyd Caerdydd, beth am fanteisio ar y cyfle i ddarllen Strategaeth Bwyd Da Caerdydd 21-24, er mwyn dysgu mwy am ein gwaith hyd yma? Dros y naw mlynedd diwethaf rydym wedi tyfu i gael effaith amlwg ar y ddinas, ac yn 2021, llwyddodd y ddinas i ennill statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (y lle cyntaf yng Nghymru a dim ond un o chwe lle yn y DU). Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy glicio yma.
*Mae’r pris mynediad o £3 yn helpu i dalu costau ac yn lleihau’r niferoedd na fydd yn dod ar y noson ar ôl dweud y byddant yno, ond nid ydym am i’r gost rwystro unrhyw un rhag cymryd rhan. Cysylltwch â ni yma os hoffech gael tocyn am ddim.