Food Cardiff loading now

Ryseitiau: gwnewch lysiau wedi’u heplesu gartref

Fel rhan o’n rhaglen yn Ardal Bwyd Da, Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, cynhaliodd Laure Boutrais arddangosiad o lysiau wedi’u heplesu ar gyfer Bwyd Caerdydd.

Mae Laure yn rhedeg y cwmni Absorb, sy’n gwneud dŵr kefir a sauerkraut i’w gwerthu mewn marchnadoedd a siopau annibynnol o amgylch y ddinas a thu hwnt.

Ystyrir bod bwyd wedi’i eplesu yn llesol i iechyd y perfedd ac yn ffordd wych o gynnwys mwy o lysiau yn eich deiet – neu i gwtogi ar wastraff llysiau.

Yma, mae Laure yn rhannu tri o’r ryseitiau y gwnaeth eu harddangos yn ystod Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd er mwyn i chi roi cynnig arnynt gartref.

Kraut Amrwd

Cynhwysion

1 kg o fresych gwyn neu goch

10 g o halen môr heb ei brosesu

Hanner llwy de o’ch hoff hadau megis carwa, ffenigl neu gwmin.

Dull

  1. Tynnwch y dail meddal o amgylch y bresych a’u cadw tan y diwedd.
  2. Torrwch eich bresychen yn ei hanner a thynnu’r canol (a’i gadw i’w ddefnyddio ar ôl gorffen). Torrwch y bresych mor denau ag y dymunwch, a hynny ar ei ochr (bydd yr halen yn treiddio’n gynt i’w eplesu os yw’n denau, ond mae’n well gen i ddarnau mwy trwchus gan eu bod yn fwy crensiog).
  3. Rhowch y cyfan mewn powlen fawr a gwasgaru’r halen drosto.
  4. Ychwanegwch yr hadau a dechreuwch dylino’r bresych, gan wasgu’r dail tan y bydd sudd yn dechrau dod allan a bod y darnau yn llawn sudd bresych. Gall hyn gymryd tua 10 munud a dylai haneru o ran maint. Dylech ei flasu wrth wneud hyn i weld os yw’n ddigon hallt. Mae’n well ychwanegu mwy o halen yn hytrach na’i wneud yn rhy hallt i ddechrau!
  5. Yna rhowch y bresych mewn jar wedi’i diheintio, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw swigod aer a bod y bresych wedi’u gorchuddio â sudd. Rhowch y dail meddal fel gorchudd ar ei ben a defnyddio’r coesyn i wthio’r bresych i’r hylif a chau’r jar.
  6. Gallwch eu cadw ar dymheredd ystafell am o leiaf 5 diwrnod, yn dibynnu pa mor grensiog a sur rydych yn eu hoffi. Efallai y bydd rhaid i chi gael gwared ar rywfaint o’r sudd wrth i’r bresych ddechrau eplesu yn y jar.
  7. Gallwch drosglwyddo’r kraut i botiau llai neu ei roi yn yr oergell a’i fwyta o fewn tri mis.

Llysiau wedi’u lacto-eplesu

Y cyfan sydd ei angen yw dŵr a halen. Toddwch 30g o halen mewn 1 litr o ddŵr berwedig a gadael iddo oeri (cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn oer cyn ei ddefnyddio neu bydd y llysiau’n meddalu!)

Torrwch eich llysiau’n ddarnau. Rwy’n hoffi ciwbiau moron a betys. Gallwch hefyd ddefnyddio pen blodfresych neu dafelli o gennin. Gellir lacto-eplesu ciwcymbr a courgette hefyd, drwy dorri ar eu hyd – a gyda madarch mae’n dda eu berwi am bum munud, ac yna’u golchi a gadael iddyn nhw oeri cyn eu defnyddio. Gallwch hefyd ddefnyddio tomatos gwyrdd neu eirin Mair – drwy lenwi jar gydag un math neu gymysgedd ohonynt .

Mae’n dda ychwanegu blasau gwahanol at y llysiau. Mae hadau pupur, ffenigrig, merywen neu berlysiau ffres neu sych fel rhosmari, saets, cennin sifi neu hyd yn oed ddarnau o sinsir neu arlleg yn ychwanegu blas at eich llysiau.

Ar ôl trefnu eich llysiau’n haenau yn y jariau ac ychwanegu blas, defnyddiwch y dŵr heli i sicrhau bod yr holl lysiau wedi’u gorchuddio â’r dŵr halen – gallwch eu gwasgu i lawr gyda chwpan wydr neu rywbeth trwm ac yna cau’r jar. Gallwch hefyd ychwanegu dŵr kefir neu miso at y dŵr heli i’w heplesu a rhoi blas ychwanegol. Defnyddiwch eich dychymyg ac arbrofwch!

Rhowch y jar yng nghefn y cwpwrdd am o leiaf 10-14 diwrnod. Yna gallwch ei flasu – dylai flasu’n sur a bydd yn barod i’w fwyta. Gallwch ei adael yn y cwpwrdd am ychydig bach hirach neu ei roi yn yr oergell.

Kimchi Syml

Cynhwysion

1 kg o fresych Tsieineaidd

80g halen môr neu halen kosher (gweler isod)

Dŵr, wedi’i ddistyllu neu ei hidlo os yn bosibl

1 llwy fwrdd o arlleg wedi’i gratio (5 i 6 darn)

1 llwy de o sinsir ffres wedi’i blicio a’i gratio

1 llwy de o siwgr (granulated)

2 llwy fwrdd o saws pysgod neu 3 llwy fwrdd o ddŵr (rwy’n defnyddio Tamari)

1 i 5 llwy fwrdd o ddarnau pupur coch Koreaidd (gochugaru)

200g o ruddygl neu daikon, wedi’u plicio a’u torri ar ffurf matsys

4 winwns maint canolig, wedi’u torri’n ddarnau 1 fodfedd o faint

Dull

  1. Torrwch y bresych yn chwarteri ar ei hyd drwy’r coesyn. Tynnwch y canol. Torrwch bob chwarter ar draws yn stribedi 2 fodfedd o led. Rhowch halen ar y bresych, eu rhoi mewn powlen fawr a gwasgaru’r halen dros y cyfan.
  2. Gan ddefnyddio eich dwylo, tylinwch yr halen i’r bresych nes bydd yn dechrau meddalu. Ychwanegwch ddigon o ddŵr i orchuddio’r bresych. Rhowch blât ar ben y bresych a rhoi rhywbeth trwm ar ei phen, fel jar neu dun o ffa pob. Gadewch iddo sefyll am awr neu ddwy.
  3. Golchwch y bresych an ddŵr oer 3 gwaith a’u rhoi i un ochr i sychu mewn hidlydd am 15 i 20 munud.
  4. Yn y cyfamser, gwnewch y past sbeislyd: Golchwch y bowlen a ddefnyddiwyd ar gyfer y broses halltu a’i sychu. Ychwanegwch y garlleg, sinsir, siwgr a saws pysgod, past perdys, neu ddŵr a’i gymysgu’n bast llyfn. Ychwanegwch y gochugaru, gan ddefnyddio 1 llwy fwrdd i greu blas eithaf poeth a hyd at 5 llwyd fwrdd i greu blas poeth iawn (rwy’n hoffi tua 3 1/2 llwy fwrdd); a’i roi i un ochr tan bod y bresych yn barod.
  5. Cymysgwch y llysiau a’r past sbeislyd: Gwasgwch unrhyw ddŵr ychwanegol sy’n dod allan o’r bresych yn ofalus a’i ychwanegu i’r past sbeislyd. Ychwanegwch y rhuddygl a’r sibols a’u cymysgu’n dda. Gan ddefnyddio eich dwylo (defnyddiwch fenig), rhowch y past ar y llysiau a’u gorchuddio’n dda.
  6. Rhowch y kimchi yn y jar: Rhowch y kimchi mewn jar 1 litr. Gwasgwch y kimchi tan bod y dŵr heli yn gorchuddio’r llysiau, a gadael o leiaf modfedd o le ar y top. Caewch y jar.
  7. Gadewch i’r llysiau eplesu am un i bump diwrnod: Rhowch bowlen neu blât o dan y jar i ddal unrhyw hylif. Gadewch i’r jar sefyll ar dymheredd ystafell oer, allan o lygad yr haul, am rhwng un a phum diwrnod. Efallai y bydd swigod i’w gweld yn y jar a gall y dŵr heli ddod drwy’r caead. Edrychwch arno’n ddyddiol a’i roi yn yr oergell pan fydd yn barod.
  8. Pan fydd y kimchi yn blasu’n barod i’w fwyta, rhowch y jar yn yr oergell. Gallwch ei fwyta ar unwaith, ond mae’n well ar ôl wythnos neu ddwy.