Food Cardiff loading now

Straeon Bwyd Da Caerdydd: Megan Mehnert

Since launching #GoodFoodCardiff to celebrate the positive things happening around food during this pandemic, we’ve been overwhelmed with the response and wanted to share some of the stories here. Os hoffech rannu eich stori gallwchei chyflwyno yma submit it here.

Daw’r stori #BwydDaCaerdydd ddiweddaraf #GoodFoodCardiff story gan Megan, sy’n rhan o gymdeithas Enactus ac sy’n astudio Maeth a Dieteteg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae cymdeithas Enactus ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi bod yn gweithio ar brosiectau mentrau cymdeithasol cyffrous sy’n cefnogi gweithredu cymdeithasol yng nghymuned Caerdydd. Mae’r hyn a ddechreuodd yn dîm newydd sbon o bump yn 2019 wedi treblu yn ei faint erbyn hyn. Mae’r tîm wedi sicrhau nifer o grantiau cenedlaethol gwerth bron i £8000 ac wedi ennill nifer o wobrau a bu hefyd ymhlith y 10 cystadleuydd gorau yng nghystadleuaeth genedlaethol Enactus!

Mae’r ddau brosiect sydd gennym wedi’u creu a’u harwain gan fyfyrwyr ac yn deillio o angen neu broblem a nodwyd yn y gymuned ac ateb creadigol er mwyn helpu i’w datrys.

Mae Hero’s Haven, sydd ond yn 2 oed, eisoes yn un o’n prosiectau arobryn, gydag arian wedi’i sicrhau gan BIC a Ford i’w fuddsoddi mewn gwaith datblygu prosiect. Dechreuodd gyda safle rhandir gwag a roddwyd ar gampws Llandaf y brifysgol. Fe’i crëwyd yn wreiddiol i helpu cyn-filwyr Cymru i integreiddio i’r gymuned drwy weithgareddau natur ond mae wedi ehangu i weithio gyda phobl ifanc sy’n agored i niwed yn Llandaf gyda gweithdai o fath ysgol goedwig a phlannu yn ein gardd goedwig. Rydym eisoes wedi plannu dros 60 o goed, a fydd, gobeithio, yn tyfu digon o ffrwythau blasus i’w rhoi yn ôl i’r gymuned.

Met Zero yw ein prosiect mwyaf newydd ar ôl lansio ganol 2020. Siop dim gwastraff dan arweiniad myfyrwyr yw hon, a ariannwyd i ddechrau gan NUS Student Eats, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd. Er bod y siop ar gampws Cyncoed, rydym yn croesawu’r gymuned leol ehangach! Mae mentrau cyffrous yn cael eu datblygu i roi bwyd i deuluoedd lleol mewn trafferthion.

Mae cymdeithas Enactus Met Caerdydd yn cael cefnogaeth gan ymgynghorwyr prifysgol brwdfrydig, yn ogystal â chan Enactus UK – sefydliad sy’n dwyn ynghyd fyfyrwyr entrepreneuraidd y mae gweithredu cymdeithasol hefyd yn bwysig iddyn nhw. Ceir llawer o gefnogaeth gan gwmnïau corfforaethol cydnabyddedig ar ffurf ymgynghorwyr busnes a chyfleoedd arian grant. Mae digon o gyfleoedd rhwydweithio hefyd drwy gyfarfodydd bwrdd a chystadlaethau cenedlaethol a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn. Ceir llawer o gefnogaeth gan gwmnïau corfforaethol cydnabyddedig ar ffurf ymgynghorwyr busnes a chyfleoedd arian grant. Mae digon o gyfleoedd rhwydweithio hefyd drwy gyfarfodydd bwrdd a chystadlaethau cenedlaethol a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn.

Rydym hefyd yn derbyn mentora un i un ar gyfer rolau tîm penodol ac yn cael cynnig cynllun graddedigion carlam i’r rheiny sy’n chwilio am brofiad gwaith mewn cwmnïau partner. Ond, nid yw ein cymdeithas yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn profiad corfforaethol yn unig, rydym yn addas iawn ar gyfer y rheiny sy’n dymuno gweithio mewn busnesau bach neu’r sector elusennol hefyd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fireinio sgiliau penodol fel marchnata, cyfryngau cymdeithasol, rheoli prosiectau neu dimau ac wrth gwrs ddatblygiad personol. Bydd hyn yn edrych yn wych ar CV ac mae’n ffordd dda o gael profiad ymarferol ar gyfer y byd gwaith.

Mae ymuno â’r tîm yn agor drysau i gynifer o gyfleoedd a (efallai fy mod yn rhagfarnllyd) chewch wneud hyn tra’n gweithio’n rhan o dîm gwych! Er y gallai hyn ymddangos fel cymysgedd anarferol o fyfyrwyr, yr hyn sy’n dod â ni ynghyd yw ein hawydd i wneud gwahaniaeth!

Os ydych yn fyfyriwr Met Caerdydd ac yr hoffech wirfoddoli yn rhan o’n diwrnodau gweithgareddau neu os hoffech ymuno â’r tîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!. Os ydych yn sefydliad lleol ac yr hoffech gefnogi ein prosiect neu os hoffech gael gwybod mwy am yr hyn a wnawn, cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni yn: enactus.cmet@gmail.com