Food Cardiff loading now

Prosiect Gardd Salad Caerdydd yn blodeuo

Heddiw (ddydd Iau, 3 Mehefin)(June 3rd), Cardiff Salad Garden /Gardd Bydd Salad Caerdydd yn agor ei gweithdy symudol 6 metr gwych ac ysbrydoledig sy’n llawn salad byw, yn swatio yng nghanol Parc Bute Caerdydd. Bydd ar agor tan 8 Mehefin a bydd yn croesawu mwy na 150 o gyfranogwyr i ddysgu mwy am blannu, tyfu, cynaeafu a choginio dail salad.

Comisiynwyd y Bottega Project The Bottega Project gan Ardd Salad Caerdydd i greu’r cylch salad byw, sef strwythur symudol sy’n cynnwys sawl wal dyfu fodiwlaidd lle mae planhigion â gwreiddiau bas wedi’u plannu o’r llawr i’r nenfwd, yn cynnwys salad ac amrywiaeth o berlysiau a blodau bwytadwy eraill. Bydd y waliau byw yn rhyngweithiol, bydd modd eu newid a bydd cyfranogwyr y gweithdy yn cael cyfle i gynaeafu planhigion yn ogystal â’u plannu.

Food For Life Get-Togethers Mae’r prosiect hwn yn cael grant gwerth £10,000 gan Dewch at eich Gilydd Bwyd Am Oes fel rhan o’i waith i brofi dulliau arloesol a datblygu ymhellach ei fentrau presennol sy’n dod â phobl o wahanol genedlaethau a chefndiroedd ynghyd drwy gyfrwng bwyd.

Rhaglen o weithgareddau cymunedol rheolaidd yw Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da. Mae’n rhaglen 4 blynedd sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a ddechreuodd ym mis Mehefin 2019 ac sy’n cael ei harwain gan elusen Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd, a chaiff ei darparu yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru Food Sense Wales.

Diolch i wybodaeth helaeth Cardiff Salad Garden’s/Gardd Salad Caerdydd am blanhigion a pherlysiau deiliog, amrywiol a bwytadwy sy’n tyfu’n gyflym, mae dros 20 o wahanol ddail salad yn amrywio o letys i ddail berwr y gerddi, mwstard, sbigoglys bach, coriander a suran wedi’u plannu ar y waliau, gan gynnwys planhigion sy’n gyfarwydd i wahanol gymunedau.

“The structure becomes a garden and we aim to provide a welcoming and practical place to bring cardiff and surrounding communities together by promoting the growing and sharing of healthy food locally,” says Sophie Bolton of Cardiff Salad Garden.

“Bydd hwn yn ofod hygyrch i bobl o bob oed a gallu a’r bwriad yw defnyddio’r gweithdy symudol fel prif arf fydd yn caniatáu i ni ddarparu cymorth i grwpiau cymunedol sydd am dyfu a rhannu bwyd.

“Drwy gydol cyfnod preswyl y gweithdy symudol ym Mharc Bute, byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau wedi’u hamserlennu ar gyfer grwpiau ac unigolion a wahoddwyd yn ogystal â sesiynau ‘galw heibio’ i’r cyhoedd sy’n dymuno darganfod mwy am y prosiect,” medd Sophie. “Byddwn yn cynnal cyfanswm o bedair sesiwn ar ddeg ar y themâu Plannu, Cynaeafu a Blasu; Creu a Phlannu Cynwysyddion Tyfu Gartref a Cynllunio ac Adeiladu’ch Gofod Tyfu neu Wal Werdd eich hun. Ein gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn helpu i gynyddu cyfalaf cymdeithasol ac yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i bobl. Byddwn hefyd yn cyflwyno grwpiau i sefyllfaoedd cymdeithasol newydd.

Yng Nghaerdydd mae gennym doreth o wybodaeth a phrofiad o bob cwr o’r byd am dyfu a choginio bwyd,” ychwanega Sophie. “Rydyn ni eisiau creu gofod lle y gall pobl gael eu hysbrydoli gan fwyd a chan blanhigion byw. Rydyn ni eisiau creu cyffro a diddordeb am darddiad bwyd a sut mae’n cael ei dyfu ac rydyn ni eisiau helpu pobl i deimlo’n llai ynysig.

“Rydym hefyd yn credu y bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddathlu ein gwahaniaethau a’n profiadau gwahanol. Bydd rhannu bwyd da, straeon, gwybodaeth a syniadau yn helpu i bontio bylchau rhwng y cenedlaethau ac yn arwain at gymuned fwy goddefgar, bywiog a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd llawer mwy o grwpiau cymunedol yn cael eu hysbrydoli i dyfu a rhannu bwyd ffres gyda’i gilydd drwy’r prosiect hwn.”

Mae rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn falch iawn o gefnogi prosiect mor ddiddorol ac uchelgeisiol yng Nghaerdydd ac yn edrych ymlaen at weld y strwythur ym Mharc Bute.

“Nod Bwyd am Oes yw gwneud bwyd da yn ddewis hawdd i bawb – gwneud prydau iach, blasus a chynaliadwy yn beth arferol i bawb eu mwynhau, gwneud pobl yn fwy ymwybodol o darddiad eu bwyd, addysgu pobl ynglŷn â sut mae’n cael ei dyfu a’i goginio, a hyrwyddo pwysigrwydd cynhwysion o ffynonellau da,” medd Louise Shute, Rheolwr Rhaglen Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yng Nghymru.

“Yn seiliedig ar bartneriaethau â grwpiau o ysgolion, meithrinfeydd, sefydliadau a grwpiau cymunedol, mae Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn addas ar gyfer pobl o bob oed a chefndir. Gall y cyfle i ddod ynghyd a chymdeithasu, wrth rannu bwyd iach a ffres, neu drwy dyfu neu goginio bwyd gyda’ch gilydd, newid bywydau pobl o ddydd i ddydd er gwell. Mae’r prosiect hwn gan Ardd Salad Caerdydd yn enghraifft wych o sut y gall yr holl elfennau hyn ddod ynghyd, a chreu ffordd wirioneddol arloesol o rannu gwybodaeth, profiadau a sgiliau.”

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Gardd Salad Caerdydd a’r gweithdy salad symudol, ewch i cardiffsaladgarden.co.uk neu dilynwch @cardiffsalad ar Twitter.t

I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Bottega ewch i www.bottegaproject.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, ewch i Dewch at eich Gilydd – Bwyd am Oes Food for Life Get Togethers – Food for Life