Food Cardiff loading now

Small BusiCanllaw ar Gynaliadwyedd i Fusnesau Bach – Y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy a Belu yn lansio canllaw newydd

Mae Belu, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy (CBC), wedi lansio canllaw newydd ar gynaliadwyedd i fusnesau bach

Yn seiliedig ar Fframwaith cynhwysfawr Food Made Good y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy, mae’r canllaw yn cynnwys camau ymarferol, astudiaethau achos ac adnoddau i gefnogi busnesau llai ar eu taith tuag at gynaliadwyedd, waeth beth fo’u man cychwyn. Drwy sicrhau bod yr adnodd hwn ar gael yn gyfleus, am ddim, gobaith Belu a’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yw lleihau effaith amgylcheddol y sector lletygarwch. 

O ran bwytai, caffis, bariau, gwestai a busnesau bwyd a diod bach eraill, mae’r Canllaw yn cwmpasu popeth o asesu eu man cychwyn a sut i gymryd camau ar gynaliadwyedd i gydnabod gwaith caled staff a chwsmeriaid a chreu rhwydwaith cydweithredol o fusnesau o’r un anian. Drwy gyfuno cyngor a barn arbenigol gydag enghreifftiau go iawn, nod y canllaw yw bod yn adnodd ymarferol i fusnesau bach yn y maes lletygarwch.

Mae rhwydwaith Bwyd Caerdydd yn gweithio tuag at y nod o ddod yn un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU ac ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Gobaith Bwyd Caerdydd yw y gall busnesau lletygarwch ddefnyddio’r canllaw newydd i wneud un Adduned neu fwy sy’n benodol i’w busnes i gefnogi’r uchelgais o ennill y wobr Aur.

Mae astudiaethau achos am fusnesau sydd wedi llwyddo i integreiddio cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar ei weithrediadau yn cynnig ysbrydoliaeth drwy’r Canllaw cyfan, gan ddangos sut y gellir rhoi’r cyngor a rennir ar waith. 

Ymysg rhai o’r straeon yn y canllaw mae:

  • system fwyd dolen gaeedig arbennig a gynlluniwyd i ddileu gwastraff bwyd,
  • cogyddion sy’n anrhydeddu cynhwysion unigryw drwy ddefnyddio ffynonellau o’r dirwedd sydd o’u hamgylch,
  • newid i ddefnyddio dŵr wedi’i hidlo gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon,
  • y polisi ffynonellau bwyd sy’n rhoi blaenoriaeth i gynhyrchwyr bach sy’n defnyddio sgiliau traddodiadol,
  • ymrwymiad dyddiol i lunio bwydlen 25 milltir 
  • cegin heb unrhyw gling ffilm!

 Meddai Jan Roberts, cyfarwyddwr masnachol a chysylltiadau cwsmeriaid Belu:

“Mae’r nifer o hyrwyddwyr cynaliadwyedd ymysg ein cwsmeriaid lletygarwch, boed yn fwytai, bariau neu’n gaffis a chaffis Americanaidd – busnesau o bob maint, yn llwyddo i’n hysbrydoli a’n hysgogi bob amser. Rydym yn gweld eu hymrwymiad i fod yn amgylcheddol gyfrifol, nid yn unig er mwyn bod yn llwyddiannus, ond er mwyn creu newid cadarnhaol yn eu cymunedau hefyd. Mae’n bleser gennym ddathlu a rhannu eu straeon yn y canllaw hwn, a gobeithio y bydd hynny’n llwyddo i ysbrydoli eraill i fabwysiadu dull gweithredu mwy cynaliadwy.”

Meddai Juliane Caillouette Noble, Rheolwr gyfarwyddwr y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy: 

“Fel rhan o’n cenhadaeth i gefnogi’r diwydiant lletygarwch i greu dyfodol mwy cynaliadwy, mae’r Gymdeithas yn ymrwymedig i ddarparu adnoddau ymarferol sy’n datrys problemau’r byd go iawn i fusnesau bwyd a diod. Rydym yn hynod falch o lansio’r Canllaw hwn ar gynaliadwyedd i fusnesau bach hwn, ac yn gobeithio bydd yn ddefnyddiol i sefydliadau llai sy’n awyddus i weithredu mewn ffordd fwy cyfeillgar i’r blaned, ond nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau”.

Mae’r canllaw ar gynaliadwyedd i fusnesau bach ar gael i’w lawrlwytho YMA.

I gael gwybod mwy am Pasture, a gafodd sgôr tair seren gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ac i ddysgu mwy am y gwaith y mae’n ei wneud ar yr amgylchedd, ffynonellau a’r gymdeithas, edrychwch ar ein blog a’r fideo.

To find out more about Cardiff’s recent SRA three-star award winner, Pasture, and learn more about the work they’re doing on environment, sourcing and society check out our blog and video.