Mae Caerdydd wedi cael ei henwi’n un o’r dinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU. Yn 2024, daeth yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
Mae’r wobr yn cydnabod llwyddiant dull cydgysylltiedig y ddinas o greu system fwyd gynaliadwy ac iach. Un ffordd y gallwch gefnogi’r rhwydwaith cydgysylltiedig hwn – boed fel unigolyn, grŵp neu fusnes – yw drwy wneud adduned i gefnogi ein cenhadaeth. Cliciwch ar bob adduned isod i ddysgu mwy am y camau y gallwch eu cymryd. P’un a ydych yn gwneud rhywbeth bach, neu rywbeth mawr, mae’r cyfan yn cyfrif.

Addunedu
Register now - you must be signed in to make your pledge.
Register now
Byddaf yn cefnogi busnesau bwyd lleol
Mae siopa gyda busnesau lleol yn sicrhau bod yr arian rydych chi’n ei wario yn parhau i gylchredeg yn eich cymuned leol. Mae’n ffordd dda o gefnogi’r economi o’ch cwmpas, i helpu busnesau bach annibynnol ac i ddod o hyd i fwyd sy’n cael ei dyfu neu ei gynhyrchu’n lleol.