Mae grwpiau cymunedol, gerddi, cymdogaethau, marchnadoedd a mentrau cymdeithasol yn dod at ei gilydd y mis hwn i greu gŵyl bwyd a thyfu newydd diogel rhag Covid.
Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn rhaglen mis o hyd o ddigwyddiadau yn y cnawd a rhithwir fydd yn anelu at gynnwys miloedd o bobl mewn gweithgareddau tyfu, coginio a rhannu bwyd ledled y ddinas.
Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 12 Medi a 18 Hydref, ac yn dod i benllanw gyda dathliadau Diwrnod Bwyd y Byd ar 16 Hydref.
Becyn cymorth am ddim
Gall unrhyw un yn y ddinas gynnal ei ddigwyddiad ei hun yn rhan o’r ŵyl ac mae pecyn cymorth am ddim ar gael i helpu gyda chynllunio digwyddiadau, hyrwyddo a mesurau diogelwch covid. Bydd digwyddiadau’n cael eu rhestru yn www.bwyddcaerdydd.comar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #BwydDaCaderdydd.
Mae Bwyd Caerdydd wedi lansio’r ŵyl i adeiladu ar lwyddiant rhaglen Tyfu Gyda’n Gilydd Caerdydd dros yr haf pan gafodd dros 14,000 o blanhigion, hadau a phecynnau tyfu eu dosbarthu yn ystod y cyfnod cloi i annog pobl i dyfu eu llysiau eu hunain.
Pearl Costello yw trefnydd yr ŵyl a chydgysylltydd Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd. Eglurodd: Eglurodd:
“Mae problemau ansicrwydd bwyd, unigrwydd ac unigedd wedi’u dwysau gan Covid-19 felly rydyn ni’n parhau â’n gwaith yn dod â chymunedau at ei gilydd drwy dyfu, coginio a rhannu bwyd.
“Mae gormod o bobl Caerdydd yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r bwyd sydd ei angen arnynt. Mae tyfu eich bwyd eich hun gartref yn ffordd wych o hybu diddordeb mewn coginio, annog teuluoedd i fod yn fwy anturus yn yr hyn y maen nhw’n ei fwyta ac, wrth gwrs, o ddarparu cynnyrch cost isel i ategu’r siop wythnosol.
“Mae’r Ŵyl hefyd yn gobeithio mynd i’r afael â phroblemau unigrwydd ac unigedd. Mae tyfu yn y gymuned yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau oes yn yr ardal leol,” dywedodd.
Gŵyl fwyd covid-ddiogel ar gyfer tyfu, bwyta a rhannu
Bydd yr Ŵyl yn dechrau gyda Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ar 12-13 Medi – fersiwn ddigidol newydd o’r digwyddiad blynyddol fydd yn cynnwys ryseitiau coginio ar y cyd, gweithdai i helpu gyda phopeth o arddio i leihau gwastraff a marchnadoedd cynnyrch rhithwir. Mae gwyliau bwyd lleol eraill sy’n digwydd fel rhan o’r rhaglen yn cynnwys Canolfan Dusty Forge Trelái ar 10 Hydref mewn partneriaeth â Tyfu Caerdydd.
Ym Mae Caerdydd, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal diwrnod o loddestau bychain ar 20 Medi gydag adloniant gan Garnifal Butetown ac yng Glan-yr-afon, mae Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon yn cynllunio picnic cymunedol yn y parc.
Bydd digwyddiadau ar-lein yn rhan bwysig o’r rhaglen, gyda’r Green Squirrel yn cynnal sesiwn tyfu ar y cyd ar 14 Hydref, gyda’r Cynhaeaf yn thema iddi. Byddan nhw’n edrych ar ffyrdd o ddefnyddio a chadw’r hyn sydd wedi’i dyfu ac yn rhannu awgrymiadau a thriciau ar gyfer arbed hadau. Ar ddiwedd yr ŵyl ar benwythnos 17 Hydref, byddan nhw hefyd yn cynnig planhigion am ddim, gyda Phlanhigfeydd Parc Bute, gan gynnwys cnydau gaeaf fel winwns, sbigoglys, ffa llydan a phys.
Hefyd yn cymryd rhan bydd sefydliadau o wahanol rannau o’r ddinas, gan gynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Gerddi Byd-eang Cathays, Gardd Salad Caerdydd ym Mharc Bute, marchnadoedd ffermwyr Glan-yr-afon yn Rhiwbeina, y Rhath a Glan yr Afon, The Boneyard yn Nhreganna, Caerdydd Fwytadwy, EggSeeds a Chyngor Caerdydd.
Diwrnod Bwyd y Byd
Bydd y mis yn arwain at ddathliadau rhyngwladol Diwrnod Bwyd y Byd. Mae Bwyd Caerdydd yn annog grwpiau i ddathlu Diwrnod Bwyd y Byd drwy gefnogi Sesiynau Ymgynnull Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd – ymgyrch genedlaethol i ddod â phobl at ei gilydd drwy rym bwyd da.
Aeth Pearl yn ei blaen i ddweud:
“Bydd yr ŵyl hefyd yn gyfle i ddathlu’r holl waith gwych mae grwpiau cymunedol wedi’i wneud i fwydo’r ddinas a dod â ni at ein gilydd yn ystod y cyfnod cloi.
“Trwy wneud pobl yn fwy ymwybodol o’r grwpiau a’r cymorth yn eu hardal leol a rhoi cyfleoedd i gysylltu â’u cymdogion, gallwn hefyd helpu i greu cymunedau mwy gwydn ledled y ddinas,” dywedodd.