Food Cardiff loading now

Bwyd Caerdydd ac Food Power yn cydweithio er mwyn helpu i gefnogi teuluoedd yng Nghaerdydd

Bwydd Caerdydd a Bydd grŵp Bwyd a Thlodi Bwyd Caerdydd yn cael cyllid gwerth £17,000 i gefnogi plant a theuluoedd sy’n wynebu perygl ansicrwydd bwyd yn ystod pandemig y coronafeirws.

‘Food Power for Generation Covid’ yn fenter ar y cyd â Sustain: cyd â Sustain: a fydd yn helpu i ddarparu bwyd ar gyfer plant agored i niwed a’u teuluoedd, trwy roi grantiau i brosiectau cymunedol yn y Deyrnas Unedig, fel Grŵp Bwyd a Thlodi Bwyd Caerdydd.

Pandemig y coronafeirws yw’r argyfwng o’r pwys mwyaf i effeithio ar blant ers yr Ail Ryfel Byd, gan droi bywydau plant wyneb i waered o gwmpas y byd ac yn y Deyrnas Unedig. Cyn i’r pandemig ddechrau, amcangyfrifwyd bod 2.4 miliwn o blant yn y Deyrnas Unedig eisoes yn tyfu i fyny mewn cartrefi lle’r oedd ansicrwydd bwyd ac er Mawrth 2020, mae teuluoedd wedi wynebu caledi ac wedi cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd a chael mynediad at fwyd, wrth i’r economi ddioddef ac wrth i swyddi gael eu colli. Mae hyn wedi golygu bod mwy o bwysau wedi’i roi, ar draws y Deyrnas Unedig, ar wasanaethau cymorth cymunedol fel y rhai a gynigir gan rai o aelodau grŵp Bwyd a Thlodi Bwyd Caerdydd, sef ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái); SRCDC (Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon) ayn bennaf, yn ogystal â phrosiectau tyfu lleol fel Global Gardens.

Bydd yr arian a gafwyd, gwerth £17,000, yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi gwirfoddolwyr cymunedol a’u helpu i baratoi a dosbarthu prydau maethlon wedi’u coginio i deuluoedd agored i niwed yng Nghaerdydd – gan gynnwys ciniawau Nadolig. Bydd 100 o becynnau o fwyd wedi’i goginio’n cael eu paratoi a’u dosbarthu bob wythnos, gan helpu cyfanswm o 200 o deuluoedd yn ystod y tri mis nesaf.

“Rydym yn falch iawn bod Bwyd Caerdydd wedi cael y grant hwn a fydd yn galluogi partneriaid lleol i fwydo rhagor o deuluoedd ar draws y ddinas yn ystod misoedd anodd y gaeaf hwn,” medd Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd.

“Bydd creu gwasanaeth prydau wedi’u coginio yn fodd i ni ddefnyddio’r bwyd dros ben o Fareshare ac o’r prosiectau bwyd a thyfu yn fwy effeithiol. Caiff y cynllun treialu hwn ei ddatblygu gan ACE, SRCDC ac aelodau eraill o’r Gynghrair, a bydd yn cynnwys gwella ceginau dan do ac awyr agored, i alluogi gwirfoddolwyr i ddod i sesiynau coginio a hyfforddi mewn modd diogel.”

Adeiladu ar Ymateb Bwyd Da Caerdydd

Mae’r prosiect hwn a’r cyllid dilynol wedi tyfu o’r gwaith y bu Bwyd Caerdydd yn ei wneud oddi ar fis Mawrth. Ar ddechrau’r pandemig, galwodd Bwyd Caerdydd Grŵp Gorchwyl Ymateb Bwyd COVID-19 ynghyd i gydlynu ymateb sefydliadau ar draws y ddinas, a oedd wedi rhoi gwybod bod graddfa a natur y cymorth a ddarperid ganddynt wedi newid yn gyflym.

Aeth Bwyd Caerdydd ymlaen i sefydlu rhwydwaith o Sefydliadau Angori i gydlynu ymatebion yn y gwahanol ardaloedd daearyddol gyda’r nod o gefnogi sefydliadau a grwpiau lleol. Roedd hyn yn cynnwys dosbarthu bwyd yn yr ardaloedd hynny; helpu i atgyfeirio pobl yr oedd angen bwyd arnynt, a derbyn a chadw bwyd i’w ddosbarthu gan sefydliadau eraill.

Bu SRCDC ac ACE, sy’n aelodau o’r Gynghrair, yn rhedeg dau gynllun “Eich Pantri Lleol” i gynorthwyo aelwydydd â chynllun dosbarthu bwyd fforddiadwy sydd ar gael trwy aelodaeth am ddim neu trwy dalu £5 yr wythnos. Roedd hyn yn cynnwys ystod eang o fwydydd wedi’u hoeri ac ar dymheredd amgylchol yn ogystal â ffrwythau a llysiau gan Fareshare. Dosbarthwyd 1400 o becynnau i 200 o deuluoedd yn ystod 3 mis cyntaf y cyfyngiadau symud, gan sicrhau bod y rhai a oedd mewn trafferth yn dal i fedru cael mynediad at fwyd mewn modd urddasol.

Bydd cymorth UNICEF yn cyllido pecynnau o fwydydd wedi’u coginio a gaiff eu darparu fel rhan o’r cymorth a gynigir trwy’r ddau brosiect Eich Pantri Lleol yng Nghaerdydd, a luniwyd i gynnal urddas a dileu’r stigma sy’n gysylltiedig â chymorth bwyd mewn argyfwng. Bydd aelodau’r Pantri yn cael dewis o brydau ac yn gwneud cyfraniad ariannol trwy eu ffi aelodaeth wythnosol. Bydd cynnig bwyd o safon uchel sydd wedi’i baratoi ymlaen llaw yn ehangu’r dewis a’r budd i’r aelodau Bydd hyn hefyd yn cynnwys dosbarthu ciniawau Nadolig.

“Mae’n bleser gennym gael gweithio gyda Bwyd Caerdydd ar y prosiect hwn ac rydym yn falch iawn o gael yr arian hwn i ehangu mynediad at fwyd i deuluoedd. Bydd y cyllid yn fodd i ni roi pecynnau o fwyd wedi’i goginio i aelodau Pantri Dusty Forge a Phantri Stryd Wyndham, y bydd modd iddyn nhw eu casglu o siopau’r Pantri neu eu cael trwy ein gwasanaeth dosbarthu,” meddai Sam Froud-Powell, Cydlynydd Cymorth Cymunedol, ACE.

“Mae sawl teulu yn defnyddio ein Pantrïau ni yn barod ac yn cael cymorth parhaus a bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni gynnig cymorth ychwanegol i bobl sy’n fwy bregus ac yn wynebu rhwystrau ychwanegol rhag coginio. Byddwn yn gweithio gyda’n cyd-aelodau o Fwyd Caerdydd i gydlynu atgyfeiriadau ar gyfer pobl sy’n wynebu ansicrwydd bwyd, gan sicrhau bod hynny’n ategu gwasanaethau eraill sy’n cynnig cymorth mewn argyfwng.”

Mae Sarah Way o Ganolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon yn ychwanegu: “Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni ateb anghenion nifer cynyddol o deuluoedd ac aelwydydd yn ardal De Glanyrafon. Rydym yn dosbarthu bwyd trwy system aelodaeth ac felly rydym ni’n dod i adnabod y teuluoedd sy’n cael bwyd, eu dewisiadau a’u hanghenion deietegol a gallwn ddarparu bwyd addas yn unol â hynny.”

“Mae’r prosiect hefyd yn fodd i gynlluniau Eich Pantri Lleol yng Nghaerdydd weithio’n agos gyda Deietegwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael yr hyfforddiant, yr adnoddau a’r cymorth angenrheidiol fel bod yr holl becynnau prydau wedi’u coginio yn bodloni’r gofynion maethol. Bydd hyn yn cynnwys darparu cwrs Lefel 2 mewn Sgiliau Bwyd a Maeth yn y Gymuned i bob gwirfoddolwr, naill ai ar-lein neu mewn man cynnal hyfforddiant awyr agored, ynghyd â chwrs Lefel 2 mewn Diogelwch a Hylendid Bwyd gan yr Awdurdod Lleol.”

Bydd y cyllid hwn hefyd yn caniatáu i SRCDC ac ACE weithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o’r Gynghrair i ddarparu ystod o gymorth ychwanegol i deuluoedd, gan gynnwys darparu dillad i deuluoedd trwy gyfnewid gwisgoedd ysgol; creu bwndeli ar gyfer plant a darparu meithrinfeydd symudol a dosbarthiadau i rieni a phlant dan 5 oed. Byddant hefyd yn dangos y ffordd at wasanaethau cynghori, yn darparu cymorth iechyd meddwl, yn ogystal â chynnig cymorth â grantiau; cynnig llechi am ddim i bobl sy’n wynebu allgáu digidol a darparu gweithgareddau ymarfer corff a llesiant. Bydd grwpiau cymorth cymheiriaid; gwasanaethau cyfeillion ffôn a phrosiectau garddio a thyfu yn cael eu cynnig a bydd ystod o weithgareddau eraill, sy’n cynnwys grwpiau dysgu creadigol fel teulu a chaffis iaith, yn cael eu darparu hefyd.

Miloedd o blant yn colli allan ar i prydau am ddim

Bu’n flwyddyn eithriadol o heriol i filoedd o deuluoedd yng Nghymru ac er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau am ddim yn ystod gwyliau’r Nadolig i’r 90,000 o deuluoedd sy’n gymwys i’w derbyn, ni fydd rhyw 70,000 o blant eraill sy’n byw o dan y llinell dlodi yn gallu manteisio ar y cymorth hwn y mae mawr ei angen, boed yn ystod y gwyliau neu ar ôl dychwelyd i’r ysgol ym mis Ionawr. Am nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a bennwyd gan y Llywodraeth.

“Mae COVID wedi dwysáu ac amlygu dwy her gysylltiedig, sef annigonolrwydd rhwydi diogelwch y wladwriaeth, a gwaith am gyflog isel. Mae Brexit hefyd yn debygol o effeithio ar fforddiadwyedd bwyd yn y Deyrnas Unedig ac mae ein biliau cartref yn sicr o gynyddu yn y tymor byr,”medd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglenni, Synnwyr Bwyd Cymru, y sefydliad sy’n gweithio i greu systemau bwyd a ffermio sy’n llesol i bobl ac yn llesol i’r blaned.

“Cafodd y modd y mae plant yn derbyn eu hawl i fwyd da sylw haeddiannol trwy ymgyrchoedd fel yr un gan Marcus Rashford, pan welwyd mwy na miliwn o bobl yn llofnodi deiseb / more than 1 million people signed a petition yn galw ar lywodraethu’r Deyrnas Unedig i ehangu prydau ysgol am ddim i gynnwys yr holl blant a phobl ifanc o dan 16 oed y mae eu rhiant neu warcheidwad yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol welwyd mwy na miliwn o bobl

“Mae rhai teuluoedd incwm isel yn ymdopi heb y cymorth hwn. Mae llawer o rieni yn cyfyngu ar eu bwyd eu hunain er mwyn sicrhau bod eu plant yn cael digon. Bydd eraill yn troi at fanciau bwyd. Bydd rhai yn cael cymorth trwy ddarpariaeth gymunedol fel y Pantrïau a bydd eraill yn dibynnu ar ffrindiau a theulu. Ond mae llawer yn dioddef afiechyd corfforol a/neu feddyliol am eu bod yn methu cael mynediad at fwyd digonol mewn modd urddasol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhieni hyn yn gweithio ac ar incwm isel. Mae llawer ohonynt yn rhieni sengl.

“Nid yw’r sefyllfa ofidus hon yn newydd,” medd Katie. “Ond mae hi wedi gwaethygu oherwydd COVID.”

Food Power for Generation Covid

Dywedodd Simon Shaw, Pennaeth Rhaglen Tlodi Bwyd Sustain: “Ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, bu cynghreiriau lleol tlodi bwyd fel Food Cardiff yn cymryd camau i sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at fwyd yn ystod pandemig COVID-19.

“Mae’r bartneriaeth hon gydag Unicef UK yn dod ar adeg allweddol ynghanol rhagor o gyfyngiadau oherwydd COVID pan fydd adnoddau llawer o unigolion yn brin iawn. Mae cynghreiriau lleol fel Partneriaeth Bwyd Caerdydd mewn sefyllfa dda i helpu eu cymunedau dros y misoedd nesaf a chyrraedd y rhai sydd wedi’i chael hi waethaf.”