Food Cardiff loading now

Grantiau ar agor ar gyfer Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd

Bydd trydedd Gŵyl Bwyd Da flynyddol yr Hydref Caerdydd yn digwydd rhwng 10 Medi a 16 Hydref 2022. Mae Bwyd Caerdydd a Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn cynnig grantiau bach o £50 i £150 i alluogi grwpiau nid-er-elw i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn rhan o’r ŵyl..

Mae’r Ŵyl yn rhaglen o ddigwyddiadau bwyd ledled y ddinas i ddathlu’r mudiad bwyd da drwy gysylltu drwy fwyd.

Gall unrhyw un gymryd rhan yn y rhaglen drwy gynnal digwyddiad neu weithgaredd.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn adeiladu ar lwyddiant y ddwy Ŵyl yr Hydref ddiwethaf lle trefnodd grwpiau cymunedol, gerddi, busnesau lleol ac ysgolion 68 o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan ddenu dros 5,000 o fynychwyr, dosbarthu mwy na 5,000 o blanhigion llysiau a rhannu 100oedd o brydau bwyd.

FFURFLEN: https://forms.office.com/r/JHFgjKBxFk

  • Gallwch weld y cwestiynau cyn llenwi’r ffurflen drwy glicio yma.
  • Gellir cyflwyno rhan o’r cais fel fideo.
  • Rydym yn derbyn ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg (mae gan y ffurflen ar-lein newidydd iaith).
  • Os oes angen unrhyw fformat arall neu unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â foodsensewales@wales.nhs.uk.
  • Rydym yn cynnal dwy sesiwn holi ac ateb: 21 Gorffennaf 5-6pm (cofrestrwch yma) a 24 Gorffennaf 12-1pm (cofrestrwch yma)

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am grant yw 10 Awst 2022. Os hoffech fod yn rhan o raglen yr ŵyl ond nad oes angen i chi wneud cais am grant, cysylltwch â ni gyda manylion eich digwyddiad/gweithgaredd