Food Cardiff loading now

24 Medi 2022 – Twmpath yr Hydref yn Hen Lyfrgell y Sblot

Chwiliwch am eich dillad denim, eich hetiau a’ch esgidiau cowboi am Hoe-Down Hydrefol yn Hen Lyfrgell Y Sblot, Singleton Road, ar 24 Medi 2022.

Noson o Ganu Gwlad Byw gyda’r grŵp gwych, Blue Evolution, Dawnsio Llinell a Swper Poeth yn cynnwys Rholyn Porc Poeth neu Gawl Cig Eidion y Cowbois. Bydd Lluniaeth ar gael ond mae croeso i chi ddod â’ch diod eich hun. Mae’r digwyddiad ar agor i’r cyhoedd ond mae nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael ac mae archebu’n hanfodol. Mynediad £5 y pen. I archebu e-bostiwch splottcommvols@hotmail.com