Food Cardiff loading now

#GoodFoodCardiff stories/straeon: Emma ar bwyta’n dda mewn cegin fach

Emma ydw i a rwyf wedi bod yn ddeietegydd ers 24 mlynedd. Rwy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn credu bod gan bawb yr hawl i ddeiet cytbwys iach. Rwy’n rhan o dîm gwych o ddeietegwyr a gweithwyr cymorth iechyd y cyhoedd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaeth Bwyd Caerdydd i helpu aelodau i ddarparu cyrsiau coginio a maeth ymarferol yn rhan o’r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ac rydym yn un o’r prif bartneriaid sy’n cyflwyno Bwydd a Hwyl / Food and Fun. Rydw i hefyd yn fam i dair o ferched, felly fel y gallwch ddychmygu, gall bywyd fod yn brysur iawn!

Weithiau, gall deimlo’n anodd bwyta’n dda os nad oes gennych lawer o offer coginio, ond mae llawer o opsiynau i fwynhau bwyd da.

Rwyf wedi llunio ambell brif bryd rhad a syniadau am brydau ysgafn y gellir eu gwneud pan mai dim ond hob, tostiwr a microdon sydd ar gael. I gadw’n iach dylai prydau gynnwys, yn ddelfrydol, fwyd o’r grŵp ‘ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill’, ffynhonnell carbohydrad startslyd a rhai ffrwythau neu lysiau. Mae hefyd yn bwysig bod gennym rai bwydydd llawn calsiwm trwy gydol y dydd. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar y dudalen Coginio Gartref. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar y dudalen Coginio Gartref Coginio Gartref /Cooking at Home

Gallwch hefyd ddilyn #GoodFoodCardiff i gael ysbrydoliaeth, a defnyddio’r hashnod hwnnw i rannu eich awgrymiadau a’ch llwyddiannau eich hun.

Coginio yn y Ficrodon ac ar yr Hob

Yn y ficrodon …

  • Prydau parod. Dewiswch rai â llai o halen a braster dirlawn os yw’n bosibl, a gweinwch gyda llysiau ychwanegol e.e. pys wedi’u rhewi neu foron.
  • Wy wedi’i sgramblo gyda ffa pob a bara pita wedi’i dostio.
  • • Ffa pob neu gylchoedd spaghetti/spaghetti ar dost.
  • Bacwn a thomato mewn rhôl fara wedi’i thostio.
  • Bacwn, wy wedi’i sgramblo, madarch, tomatos tun wedi’u cynhesu a thost.
  • Pysgod plaen wedi’u stemio (ychwanegwch ychydig o ddŵr neu laeth, gorchuddiwch y ddysgl â glynlen a rhowch dwll ynddi, yna coginiwch am ryw 3 munud). Gweinwch gyda llysiau wedi’u rhewi a thost/bara a thaeniad.
  • Taten bob gyda thiwna ac india-corn, ffa pob, caws hufen neu gaws cheddar a phîn-afal tun, tiwna ac afal, eog tun a winwnsyn wedi’i dorri’n fân.

Ar yr hob …

  • Cawl a rhôl fara.
  • Stwnsh corn-bîff a llysiau.
  • Pasta a jar o saws tomato. chwanegwch lysiau ychwanegol e.e. madarch, india-corn a ffacbys, neu gig neu bysgod. Gellir gwneud saws pasta cartref yn hawdd gan ddefnyddio winwns, tomatos tun, perlysiau cymysg a garlleg.
  • • Tsili llysiau neu gig gyda reis.
  • Spaghetti bolognese.
  • Omled gyda bara/tost a thaeniad – ychwanegwch lenwadau sydd ar gael e.e. llysiau, tomatos wedi’u torri’n fân, winwns, ham, caws, tiwna, tatws sy’n weddill o bryd arall.
  • • Pysgodyn ‘berwi yn y bag’ mewn saws gyda reis a llysiau.
  • Caws blodfresych wedi’i weini gyda thost.
  • • Caserol a stiw mewn un pot (e.e. cyw iâr, selsig, ffa cymysg, ffacbys) gyda thatws ac unrhyw gymysgedd o lysiau.
  • Cacennau pysgod neu ‘fysedd pysgod’ a llysiau cymysg. Ar gyfer cacennau pysgod cartref – ychwanegwch diwna tun at datws stwnsh, gyda pherlysiau, sesnin a winwns wedi’u torri’n fân. Ffurfiwch yn siap cacennau a’u ffrio (gydag ychydig bach o olew annirlawn) ar y naill ochr a’r llall nes eu bod yn frown euraid.
  • Briwgig, tatws wedi’u berwi a llysiau.
  • • Ravioli tun gyda thost ac india-corn.
  • Salad tiwna, pasta ac india-corn.
  • Cyri a reis e.e. cyw iâr a llysiau.
  • Bwyd wedi’i dro-ffrio e.e. cyw iâr gyda winwns, garlleg, moron, courgette neu fadarch wedi’u gweini â nwdls.
  • Risotto llysiau.
  • Corn-bîff, Smash a llysiau tun (mewn dŵr heb ei halltu os yw ar gael).
  • Stiw tun gyda thaten bob a llysiau cymysg.
  • Selsig frankfurter, ffa pob a thatws tun.

Prydau ysgafn ‘dim coginio’…

Gallech baratoi’r prydau ysgafn canlynol heb goginio o gwbl:

  • Cracers neu gacennau ceirch gyda chaws a thomato.
  • Brechdanau e.e. corn-bîff a salad, tiwna a winwns neu fetys, ham a thomato, eog a chiwcymbr. Rhowch gynnig ar roliau, bara a bara pita i gael ychydig o amrywiaeth.
  • Tinned tuna or salmon, bread and margarine and tinned sweetcorn.
  • Corn-bîff, Smash a thafelli tomato.
  • Iogwrt wedi’i gymysgu â grawnfwyd a ffrwythau tun neu ffrwyth sych.
  • Crympedi wedi’u tostio gyda menyn cnau, ac wedyn ffrwythau tun a chwstard.
  • Salad ham a thatws (tatws tun wedi’u malu gydag ychydig o mayonnaise a winwns wedi’u torri) a thomato.
  • Salad tiwna, ffa gwyrdd a darnau o datws (i gyd o dun – dim halen ychwanegol os yw ar gael). Ychwanegwch finegr a phupur du os ydyn nhw ar gael.
  • Cig oer e.e. ham, twrci, tafelli cyw iâr, bara menyn gyda salad, india-corn tun neu ffa gwynion tun.
  • Cwscws (dim ond angen ychwanegu dŵr berw), ciwcymbr wedi’i dorri a macrell wedi ei fygu neu ham wedi’i rwygo.