Mae angen Comisiwn System Fwyd i drawsnewid iechyd y cyhoedd, ffermio a’r amgylchedd yn ôl cynghrair polisi newydd.
Ddydd Iau, Rhagfyr 3ydd/3rd, Food Policy Alliance Cymru/bydd Cynghrair Polisi Bwyd Cymru– cyfuniad o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n meithrin ac yn hyrwyddo gweledigaeth gyfunol ar gyfer system fwyd Cymru – yn cyflwyno ei Maniffesto i Grŵp Trawsbleidiol ar FwydCross Party Group on Food.,Senedd Cymru.
Bydd y cyflwyniad i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Fwydemotion for debateyn dilyn dadl a gyflwynir gan Blaid Cymru ynghylch polisi bwyd cenedlaethol. Trafodir y ddadl yn ystod sesiwn lawn y Senedd ddydd Mercher, Rhagfyr 2il/December 2nd bydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried rhai o’r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Gynghrair yn ei Maniffesto.
Yn ôl Cynghrair Polisi Bwyd Cymru/ Policy Alliance Cymru, Wales . Polisi Bwyd Cymru, mae angen trawsnewidiad mawr ar Gymru yn ei system fwyd er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, adfer yr amgylchedd a datblygu ein heconomi wledig.
Mae’r grŵp yn argymell y dylid creu’r Comisiwn o fewn blwyddyn i ethol y Senedd newydd yn 2021 gan edrych ar y chwe maes blaenoriaeth ganlynol:
- Bwyd i bawb: Cymru fydd y genedl gyntaf i ddileu’r angen ar gyfer banciau bwyd erbyn 2025. Bydd gan bawb yng Nghymru fynediad at y bwyd sydd ei angen arnynt mewn ffordd urddasol, er mwyn byw bywyd iach
- Food for public health: Three-quarters of our recommended daily vegetable consumption is produced sustainably in Wales by 2030.
- System fwyd Sero Net: System fwyd Sero Net: Datblygu cynllun erbyn 2022 i gyflenwi system fwyd sero net i sicrhau asesu a gweithredu camau cyflym ar gyfer Cymru. Y targed yw i Gymru gael System Fwyd Sero Net erbyn 2035.
- Ffermio er budd natur a’r hinsawdd:Llunio rhaglen fapio erbyn 2022 i fabwysiadu egwyddorion amaethecolegol ar draws yr holl system fwyd gan gynnwys 100% o gynhyrchiant amaethecolegol erbyn 2030 ar bob fferm, er mwyn atal a gwyrdroi’r natur a gollir ac i gynyddu cydnerthedd o safbwynt yr hinsawdd.
- Bwyd Môr Cynaliadwy: Gosod cyfyngiadau dalfeydd (heb unrhyw oedi pellach) sy’n galluogi adfer a chynnal stociau pysgod uwchben lefelau biomas sy’n arwain at Uchafswm Cnwd Cynaliadwy.
- Swyddi a bywoliaethau cynaliadwy yn y sector fwyd: Bydd pawb sy’n ennill bywoliaeth yn y system fwyd yn derbyn, neu’n gallu derbyn, o leiaf cyflog byw neu gyflog teg am eu gwaith. Bydd y gwaith, boed ar y tir neu’r môr, yn rhydd rhag arferion o gamddefnyddio, ac yn amrywiol, yn ddiddorol ac yn rymusol.
Read the full Manifesto in English and in Welsh.Darllenwch y Maniffesto yma yn Gymraeg a Saesneg
Dywedodd Katie Palmer, Rheolwr rhaglentSynnwr Bwyd Cymru/Food Sense Wales ac aelod o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru:
“Mae bwyd yn un o hanfodion sylfaenol bywyd, ac yn hollbwysig o ran cael bywyd da. Credwn y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad ag urddas, i ddigon o fwyd maethlon, a gynhyrchir mewn ffordd gynaliadwy, trwy’r amser. Hefyd, dylwn fod yn gallu sicrhau incwm teg ar gyfer ffermwyr ac holl weithwyr y sector fwyd.
“Gyda phandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at fregusrwydd ein system fwyd presennol, dyma gyfnod hanfodol inni adeiladu ar gyfer y dyfodol. Mae wedi tynnu sylw at y cysylltiad agos rhwng iechyd natur a dynoliaeth ar lefel fyd eang. Mae ailadeiladu system fwyd mwy cydnerth a chynaliadwy’n rhan hanfodol er mwyn atal argyfyngau yn y dyfodol, ac yn un o brif elfennau ein llwybr tuag at adferiad ‘gwyrdd a chyfiawn’,” atega Katie
“Dyma gyfle euraidd i Gymru ddatblygu system fwyd sy’n deg, yn iach, yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus o ran yr economi.”
Ychwanegodd Rhys Evans, Swyddog Polisi RSPB Cymru a chyd-aelod o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru:
“Gan ystyried bod dros 80% o Gymru’n cael ei ffermio, mae ein bwyd a’n ffermio yn allweddol i fynd i’r afael â’n colled o natur a newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac economaidd ehangach.
“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi amaethyddol a rheoli tir cynaliadwy blaengar sy’n helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn sbarduno adferiad natur. Dylai hwyluso dulliau amaeth-ecolegol natur-gyfeillgar a gwobrwyo ffermwyr yn llawn am y buddion y mae’r systemau hyn yn eu darparu e.e. atafaelu carbon, cynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt, peillwyr, ansawdd aer a dŵr – pob un ohonynt wrth gwrs yn cynnig seilwaith i ddiogelwch bwyd.
“Mae pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig ar symudedd cyhoeddus hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y system fwyd i’n bywydau bob dydd, a’r breuder y mae wedi’i adeiladu ynddo ar hyn o bryd,” meddai Rhys.
“Mae angen dull arnom sy’n integreiddio cynhyrchu a bwyta yng Nghymru yn well, gan roi mwy o ffocws ar yr economïau sylfaenol a chylchol, ailgysylltu pobl â bwyd a gynhyrchir yn lleol a galluogi ymatebion a ddatblygwyd gan y gymuned a all siapio system fwyd gynaliadwy yn y pen draw.”
Mae’r system fwyd yng Nghymru yn cwmpasu’r holl actorion a chysylltiadau sy’n rhan o dyfu, cynhyrchu, gweithgynhyrchu, cyflenwi a defnyddio bwyd. Mae’n cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, gweithgynhyrchu bwyd, manwerthu, gwasanaethau bwyd, defnydd a gwastraff. Mae’n cynnwys ysgogwyr cymdeithasol ac economaidd dewisiadau a dynameg o fewn y system, ac yn torri ar draws pob graddfa ac agwedd ar bolisi, gan gynnwys yr economi, yr amgylchedd, busnes, addysg, lles, iechyd, trafnidiaeth, masnachu, cynllunio a llywodraeth leol