Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd.Food Cardiff believes that the food we eat has a huge impact on life in Cardiff – not just on people’s health, but on communities and businesses, farmers and food producers, and the environment too. Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn.
Rydym wedi gweithio gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled y ddinas i ddatblygu Strategaeth Bwyd Da – y map a arweiniodd at sicrhau bod Caerdydd yn ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024, un o blith dim ond pedwar lle yn y DU i ennill y wobr.
Fe wnaethom ofyn i bobl beth fydden nhw’n hoffi ei newid o ran sut mae ein system fwyd yn gweithio yn y ddinas a beth oedd yr heriau mawr yr oedd angen i ni eu goresgyn.
Cymerodd miloedd o bobl ran yn y sgyrsiau hynny a arweiniodd at ddatblygu ein 5 Nod Bwyd.
I ddarganfod mwy, cliciwch ar bob Nod i weld sut y gallwch addunedu i weithredu.