Fis nesaf, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob rhan o’r ddinas ar gyfer cyfarfod Haf rhwydwaith Bwyd Caerdydd.
Yn cael ei gynnal o 5pm-7pm ar y 10fed o Orffennaf, cofrestrwch yma i archebu tocyn am ddim.
Cofiwch, nid oes rhaid i chi fod wedi bod i unrhyw gyfarfodydd blaenorol er mwyn ymuno; mae ein cyfarfodydd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb ym mudiad bwyd da y ddinas.
Y tro hwn, Gardd Cegin Grangetown sy’n ein croesawu. Gyda dau Polycrub, llu o welyau uchel a choed a llwyni ffrwythau, mae digon i’w ddysgu a’i wneud yn yr ardd lysiau, lle mae cnydau’n cael eu tyfu i’r safon orau bosibl i’w defnyddio yng nghaffi cymunedol yr Ardd Cegin, i’w rhannu gyda’r gymuned yn y Farchnad Gardd Cegin wythnosol, ac i gyflenwi cynhwysion ffres ar gyfer y cyrsiau coginio ar y safle.
Fel rhan o’r cyfarfod hwn, mae gwahoddiad agored hefyd i bobl ymweld â Gardd Cegin Grangetown yn ystod y dydd i weld y prosiectau ar waith.
Cyn cyfarfod Bwyd Caerdydd ym mis Rhagfyr, beth am fanteisio ar y cyfle i ddarllen Strategaeth Bwyd Da Caerdydd 21-24, a darganfod mwy am ein gwaith hyd yma? Dros y naw mlynedd diwethaf, rydym wedi tyfu bwyd er mwyn cael effaith weladwy ar lefel y ddinas gyfan, ac yn 2021, enillodd y ddinas statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (y lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i wneud hynny). Gallwch ddarganfod mwy drwy glicio yma.