Mae Carol Adams yn Gyfarwyddwr Food Adventure Social Enterprise Limited, ac yn sylfaenydd Back To Our Roots; prosiect sy’n dysgu pobl yng Nghymru sut i dyfu llysiau fel ocra a chalalŵ (callaloo).
Yn ein blog diweddaraf, mae Carol yn dweud wrthym pam bod hyn yn bwysig iddi…
“Fi yw sylfaenydd prosiect o’r enw Back To Our Roots: Growing and Sharing Without Borders, a ddaeth i fodolaeth yn sgil fy aelodaeth o raglen Fy Nghymuned Fwyd Cymdeithas y Pridd. Roeddem wedi cael sesiwn wyneb-yn-wyneb yn Birmingham a thrwy hap a damwain, roeddwn yn eistedd o amgylch bwrdd gyda gŵr o Gamerŵn. Dangosodd luniau i mi o’r llysiau o Gamerŵn yr oedd yn eu tyfu – yn Birmingham – a meddyliais “Wel, pam na allwn ni wneud hyn yng Nghaerdydd?”
Mae yna siopau yng Nghaerdydd sy’n gwerthu llysiau Affro-Caribïaidd, ond dydyn nhw ddim ar gael ym mhobman. Er enghraifft, mae’n rhaid i mi yrru 30 munud i gyrraedd siop o’r fath. Yna meddyliais, “Rargol, rwy’n ymgyrchydd ar yr hinsawdd ac yn gyrru i brynu ocra sydd wedi’i fewnforio. Beth am weld beth alla i ei wneud fel ymgyrchydd a rhywun sy’n poeni am leihau fy effaith ar yr argyfwng hinsawdd.”
Y rheswm arall pam roeddwn i eisiau gwneud hyn oedd fforddiadwyedd. Mae llysiau wedi’u mewnforio, yn enwedig rhai Affro-Caribïaidd, yn ddrud iawn. A pho fwyaf yr oeddwn i’n rhyngweithio â phobl yn rhwydwaith Bwyd Caerdydd a rhwydweithiau eraill yng Nghaerdydd, y mwyaf yr oeddwn i’n sylweddoli bod gan y mwyafrif byd-eang awydd cynyddol i dyfu llysiau o’u diwylliant nhw. Roeddwn i’n gwybod y gallai rhai ohonyn nhw dyfu yma. Roeddwn i hefyd yn gwybod bod pobl yn poeni am y gost ac am yr hinsawdd. Dyna sut y ganed Back To Our Roots.
Yn ein sesiynau personol, nid yw llawer o’r cyfranogwyr erioed wedi tyfu unrhyw beth yn y DU o’r blaen. Felly, bob yn ail fis, rydyn ni’n dod at ein gilydd ac yn edrych ar ble rydyn ni yn y tymor tyfu. Fe ddechreuon ni drwy hau hadau, yna eu plannu ymlaen. Heddiw, mae gennym aelodau o Ardd Kushinga yn rhannu gwybodaeth am greu gerddi cymunedol, yr hyn y gallech fod eisiau ei ystyried wrth eu cynllunio, a beth wnaethon nhw. Mae hefyd yn adeg o’r tymor lle mae’n rhaid i ni feddwl am gadw hadau. Wrth gwrs, gallwch fynd allan i brynu hadau bob blwyddyn, ond os ydych chi wir yn mwynhau’r cnwd rydych chi wedi’i dyfu, yn lle gwario arian ar hadau bob blwyddyn, gallwch gadw’r hadau a pharhau i dyfu a thyfu, ac yn bwysicaf oll, rhannu’r hadau gyda’ch cymuned.
Daeth cyfran o’n cyllid gan Gymdeithas y Pridd, ac wrth i mi siarad â phobl am fy syniad, dechreuodd mwy o bobl ddangos diddordeb. Meddyliais, “O rargol, dw i ddim eisiau cyfyngu ar y niferoedd.”
Felly, cysylltais â Bwyd Caerdydd a wnaeth fy nghyfeirio at grant a allai helpu, ac yn ffodus, dyfarnwyd y grant i mi er mwyn i mi allu cynyddu’r niferoedd.
Mae bod yn rhan o’r Mudiad Bwyd Da yng Nghaerdydd yn bwysig iawn i mi oherwydd rwy’n teimlo bod gwir angen i fwyd da fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb, yn deg i bawb a’r bobl ac i’r bobl sy’n ei dyfu. Os mai dyna beth rwy’n ei gredu, alla i ddim sefyll ar y cyrion yn gwylio’r drafodaeth a dim ond dweud wrth bobl, “Wel, dyma beth rwy’n credu ynddo.” Mae prosiectau fel hyn yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd o roi pethau ar waith, a dyna beth rwy’n ei wneud mewn gwirionedd. Os byddaf yn gweld angen, rwy’n awyddus i weithredu, ac rwy’n meddwl bod Bwyd Caerdydd yn rhwydwaith o bobl wych sy’n edrych ar y system fwyd drwy lygaid gwahanol.
Os byddwn ni i gyd yn dod o gwmpas y bwrdd, gallwn ni wneud gwahaniaeth.”
Mae Carol hefyd yn rhedeg rhwydwaith ‘back to our roots’ ledled y DU drwy fenter Fy Nghymdeithas Fwyd Cymdeithas y Pridd. Mae hwn yn fan lle y gall pobl ledled y DU rannu adnoddau a gwybodaeth am dyfu llysiau byd-eang.
I ddarganfod mwy, ewch i https://my-food-community.circle.so/c/back-to-our-roots-network/