Food Cardiff loading now

Matt Appleby

Y mis diwethaf, ar y 10fed o Fawrth, daeth 30 o unigolion, sefydliadau a busnesau i gyfarfod chwarterol rhwydwaith Bwyd Caerdydd. Fe wnaeth ein cyfarfod rheolaidd ddwyn ynghyd amrywiaeth eang o brosiectau bwyd cymunedol, cynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr bwyd, deietegwyr, addysgwyr a swyddogion y sector cyhoeddus o bob cwr o’r ddinas.

Gyda chymorth cyllid o Gronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd Am Byth rydym yn cefnogi busnesau i ‘addunedu’ i gymryd camau a fydd yn helpu Caerdydd i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy; ac rydym wedi creu’r pecyn cymorth hwn er mwyn gwneud y broses yn symlach byth.

Nid dim ond busnesau bwyd neu fusnesau lletygarwch sy’n gallu creu effaith – yma cawn glywed gan Gareth Cartwright, rheolwr cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol banc Hodge yng nghanol y ddinas.

Gwasanaethau ariannol arbenigol sydd â’i bencadlys yn Un, Sgwâr Canolog yw un o’r sefydliadau diweddaraf yng nghanol y ddinas i gefnogi’r ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU erbyn 2024.

Mae Bwyd Caerdydd partneriaeth fwyd sy’n tyfu’n gyflym yn y ddinas, yn arwain ymgyrch i ddod â busnesau, sefydliadau’r trydydd sector a phrif sefydliadau’r ddinas at ei gilydd i helpu Caerdydd i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy dros y ddwy flynedd nesaf.

Ein hymgyrch #BwydDaCaerdydd yw ein cenhadaeth i wneud Caerdydd yn un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU – drwy ofyn i bobl o

Mae miloedd o bobl ar hyd a lled Caerdydd wedi mynychu gweithdai, gwleddoedd cymunedol, a digwyddiadau’n ymwneud â bwyd da dros y pedair wythnos diwethaf, fel rhan o drydedd Gŵyl Hydref flynyddol Bwyd Da Caerdydd – sef rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ar hyd da lled y ddinas.

Darparodd Bwyd Caerdydd a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) grantiau i 20 o wahanol ysgolion a grwpiau cymunedol i dalu cost cynnal digwyddiad fel rhan o ŵyl – gyda sefydliadau cymunedol eraill hefyd yn ymuno drwy gynnal eu digwyddiadau eu hunain a hunanariannwyd.