Bydd cynrychiolwyr o Bwyd Caerdydd yn cwrdd ag AS(au) lleol a thros 110 o arweinwyr bwyd lleol eraill yn Senedd San Steffan i ofyn i bob prif blaid wleidyddol addunedu i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a chostau byw cyn yr Etholiad Cyffredinol a gynhelir yn ddiweddarach eleni, ac i gydnabod grym camau gweithredu a pholisïau bwyd lleol i ysgogi newid.
Byddant yn dod at ei gilydd mewn undod i ddathlu’r hyn y maent wedi’i gyflawni ac i ddangos pa mor gadarn a dyfeisgar yw eu hatebion llawr gwlad, a sut y gall llywodraethau’r Gwledydd datganoledig gefnogi’r gwaith ar ffurf cyllid, polisïau a thrwy integreiddio’r model partneriaeth bwyd o fewn pob awdurdod lleol yn y DU.
Ddydd Mercher, Tachwedd 13eg, bydd arweinwyr lleol o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac ASau yn dod ynghyd yn Nhŷ Portcullis, San Steffan, i ddathlu pen-blwydd y rhwydwaith yn 10 oed. Bydd y digwyddiad yn amlygu rôl partneriaethau bwyd yn y gwaith o ddarparu atebion hirdymor i rai o broblemau mwyaf dybryd ein system fwyd, gan gynnwys diffyg diogeledd bwyd, annhegwch a tharfu ar y gadwyn gyflenwi, a’r argyfwng hinsawdd a natur byd-eang.
Ymunodd Bwyd Caerdydd â’r rhwydwaith yn 2014 ac ers hynny mae wedi ennill statws Aur ar gyfer yr ardal.
Bydd y rhwydwaith yn gofyn i’r Llywodraeth gefnogi partneriaeth fwyd ym mhob awdurdod lleol a’r Mesur Bwyd Da yn y pedair gwlad, er mwyn sicrhau y gall holl breswylwyr y DU elwa ar y cymorth, arloesedd a’r atebion hirdymor a ddaw yn sgil y mudiad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
Yn cymryd rhan yn y digwyddiad bydd siaradwyr o Aberdeen, Sir Gaerfyrddin, Newry, Mourne a Down, a Plymouth, yn ogystal ag Emma Lewell-Buck, AS South Shields, sy’n noddi’r digwyddiad ac yn hyrwyddo iechyd plant, diogeledd bwyd a mynediad i fwyd.
Rhaglen bartneriaeth yw Lleoedd Bwyd Cynaliadwy wedi’i chydlynu gan dair elusen fwyd genedlaethol: Food Matters, Cymdeithas y Pridd a Cynnal. Y rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy sy’n ysgogi’r mudiad partneriaeth bwyd sy’n tyfu’n gyflym yn y DU. Rydym yn annog partneriaethau bwyd i dyfu ac i ffynnu drwy ddarparu cymorth, cyfarwyddyd a hyfforddiant. Drwy greu a chydlynu rhwydwaith genedlaethol o randdeiliaid y system fwyd rydym yn cefnogi newid ar raddfa fawr. Mae ein dull yn sicrhau mai cymunedau lleol sydd wrth wraidd y gwaith hwn, gan sicrhau bod systemau bwyd lleol yn ystyried anghenion y bobl maent yn eu gwasanaethu.
Rhwydweithiau yw partneriaethau bwyd sy’n dod â rhanddeiliaid o bob rhan o’r system fwyd ynghyd i ddatblygu’r un weledigaeth er mwyn creu dyfodol bwyd mwy cynaliadwy, ac i gydlynu’r camau gweithredu sydd eu hangen i wireddu’r weledigaeth hon. Maent yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector gwirfoddol, ffermwyr, busnesau lleol a phreswylwyr. Drwy hyrwyddo dull system gyfan at fwyd, maent yn cysylltu materion megis tlodi bwyd, salwch, amaethyddiaeth, diogelwch bwyd, a newid hinsawdd i ddatblygu atebion sy’n trawsnewid bwyd a ffermio mewn ffordd deg a chynaliadwy.