![](https://foodcardiff.com/wp-content/uploads/2022/02/IMG_2113-1200x800.jpg)
ADDUNEDU
Mae Caerdydd yn anelu at ddod yn un o'r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gofyn i unigolion, grwpiau a busnesau wneud adduned i gefnogi’r genhadaeth hon. Cliciwch ar bob adduned isod i ddarganfod mwy am y camau y gallwch eu cymryd. P'un a ydych yn gwneud rhywbeth bach, neu rywbeth mawr, mae'r cyfan yn cyfrif.
![](https://foodcardiff.com/wp-content/uploads/2022/02/riverside-1110x624.png)
Byddaf yn cefnogi busnesau bwyd lleol
Mae siopa gyda busnesau lleol yn sicrhau bod yr arian rydych chi’n ei wario yn parhau i gylchredeg yn eich cymuned leol. Mae’n ffordd dda o gefnogi’r economi o’ch cwmpas, i helpu busnesau bach annibynnol ac i ddod o hyd i fwyd sy’n cael ei dyfu neu ei gynhyrchu’n lleol.