Heddiw (14.6.21), cyhoeddwyd bod Caerdydd wedi ennill gwobr Arian Sustainable Food Places, sy’n golygu mai dyma’r lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i gyflawni’r gamp hon, sy’n cydnabod gwaith arloesol y ddinas wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.
Mae Caerdydd, ynghyd â Chaergrawnt, wedi ennill statws Arian y wobr Sustainable Food Places, gan ymuno â Middlesbrough; Awdurdod Llundain Fwyaf; Bryste, a Brighton a Hove. Ers hynny mae Brighton a Hove a Bryste wedi mynd ymlaen i gyflawni statws Aur ac mae Caerdydd yn gobeithio dilyn yr un trywydd.
Dyfarnwyd statws Efydd i Gaerdydd ym mis Mawrth 2015 pan ddaeth yn un o’r lleoedd cyntaf yn y DU i ennill gwobr Sustainable Food Places, ac mae’r cyhoeddiad heddiw am y wobr Arian yn cydnabod dros saith mlynedd o waith ledled y ddinas i sicrhau bwyd da i bawb.
Mae’r gwaith yng Nghaerdydd yn cael ei gydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd y ddinas sy’n prysur dyfu ac sydd wedi esblygu i fod yn rhwydwaith deinamig, cryf a chynhwysol o ymgyrchwyr dros fwyd da. Mae Bwyd Caerdydd, sy’n cael ei letya gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, bellach yn cynnwys 127 o unigolion ar draws 74 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy’n cynnwys ystod o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Wrap Cymru, Riverside Real Food, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a llu o sefydliadau eraill.
Drwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Caerdydd yn ysgogi newid ar lefel y ddinas ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y dydd.
Mae Gwobr Arian Sustainable Food Places Caerdydd yn cydnabod y ddinas fel un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU ac mae’r wobr yn seiliedig ar gyflawniadau mewn chwe maes allweddol:
- 1. Mabwysiadu dull strategol a chydweithredol mewn perthynas â llywodraethu a chamau gweithredu’n ymwneud â bwyd da.
- 3. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithgar a mudiad bwyd da lleol.
- 4. Mynd i’r afael â thlodi bwyd, salwch sy’n gysylltiedig â diet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy.
- Creu economi fwyd gynaliadwy fywiog, ffyniannus ac amrywiol.
- 6. Trawsnewid y meysydd arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi bwyd lleol a chynaliadwy.
- 7. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi terfyn ar wastraff bwyd.
Meddai Tom Andrews o Sustainable Food Places : “Ers ymuno â’r Rhwydwaith Sustainable Food Places fel un o’i sylfaenwyr bron 10 mlynedd yn ôl, mae Bwyd Caerdydd wedi codi’r safon yn barhaus o ran bwyd iach a chynaliadwy. O’r Rhaglen Gwella Gwyliau Haf arloesol i’r fenter Pantri a Tyfu Gyda’n Gilydd, mae Caerdydd wedi bod yn arloeswr ysbrydoledig sydd ar flaen y gad o ran bwyd da nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Mae Bwyd Caerdydd, y Cyngor a’r myrdd o sefydliadau ac unigolion sy’n rhan o fudiad bwyd da y Ddinas yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl angerddol ac ymroddedig yn gweithio gyda’i gilydd i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble maen nhw byw.”
Mae Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd ac awdur y cais am statws Arian, wrth ei bodd bod Caerdydd wedi ennill statws arian Sustainable Food Places ac mae’n ddiolchgar i bobl Caerdydd am chwarae rhan mor weithredol yn llwyddiant y bartneriaeth fwyd.
“Mae’r wobr hon yn destament i’r ymgyrch fawr rydym wedi’i gweld gan ddinasyddion, grwpiau, busnesau a sefydliadau i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn beth cyffredin, i bawb, yng Nghaerdydd” meddai Pearl.
“Mae’n wobr y gellir ei phriodoli i deuluoedd sy’n tyfu berwr ar y silff ffenestr am y tro cyntaf; i gymdogaethau sy’n sefydlu cydweithfeydd bwyd neu bantri; i’r busnesau bwyd sy’n cyflenwi bwyd o’r radd flaenaf i’n dinas; i sefydliadau sy’n gwneud addunedau Dinasoedd Llysiau ac yn dylunio bwydlenni cynaliadwy, ac i bawb sydd wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol yn ymwneud â bwyd.
“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn bod cam nesaf y daith ar gyfer Bwyd Caerdydd – Strategaeth Bwyd Da 2021-24 – wedi’i gyd-ddylunio gan filoedd o bobl yng Nghaerdydd. Mae’r cynllun hwn, sy’n cwmpasu’r ddinas gyfan, eisoes wedi’i gydnabod fel y strategaeth ehangaf a mwyaf cynhwysol o ran ei hymgysylltiad ledled y DU gyfan – ac rydym yn bwriadu mynd ymhellach fyth wrth i ni anelu at y wobr Aur, gan wybod bod creu dinas fwyd dda yn rhywbeth i ni i gyd gyfrannu ato.”
Bu Cyngor Caerdydd yn allweddol o ran sefydlu partneriaeth fwyd Caerdydd ac mae’n falch iawn bod ymdrechion ac uchelgeisiau’r ddinas wedi cael eu cydnabod.
“Os edrychwch chi ar y gwaith sydd wedi’i wneud ar draws partneriaeth Bwyd Caerdydd i newid ein systemau bwyd a darparu bwyd iach, moesegol a chynaliadwy i bobl Caerdydd, mae’n wirioneddol ryfeddol faint sydd wedi cael ei gyflawni ers 2018, pan wnaethom lansio ein hymrwymiad i ennill y wobr Arian ac, yn y pen draw, statws Aur i’r ddinas,” meddai’r Cynghorydd lr Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.
“Yn ystod y tair blynedd ers hynny, Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i gymeradwyo ei Strategaeth Fwyd ei hun ar draws y Cyngor. Rydym hefyd wedi cynnwys camau uchelgeisiol a chynaliadwy ar fwyd yn ein strategaeth Caerdydd Un Blaned sy’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac wedi cefnogi prosiectau ymarferol fel tyfu 20,000 o blanhigion llysiau ar gyfer grwpiau cymunedol yn ystod y pandemig Covid – a dim ond ein cyfraniad ni at y daith yw hynny.
“Dechreuodd taith fwyd gynaliadwy Caerdydd yn 2013 pan helpodd y cyngor i sefydlu Bwyd Caerdydd, ond mae’r daith ymhell o fod ar ben ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gymryd y camau nesaf tuag at ennill statws Aur.”
Meddai Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi cael statws Arian Sustainable Food Places. Mae’r bwyd rydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau, busnesau a’r amgylchedd hefyd. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae gennym weledigaeth glir i bobl fwyta’n iach a symud mwy. Ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi addunedu i gydweithio i sicrhau bod ein poblogaeth yn gallu dilyn ffordd iach a heini o fyw.
“Yn wir, mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn ac mae’n wych gweld Bwyd Caerdydd yn gweithredu fel hyb i gysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a moesegol. Mae Bwyd Caerdydd hefyd yn gweithredu fel llais dros newid ehangach yn ogystal â bod yn gatalydd ar gyfer newid y system fwyd leol yng Nghaerdydd.
“Ers ennill gwobr Efydd Sustainable Food Places, mae Bwyd Caerdydd wedi datblygu ymhellach ac wedi tyfu’n sylweddol ac mae ei effaith ar lefel y ddinas gyfan yn amlwg iawn bellach. Rwyf yn edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni nesaf.”
Ychwanega Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru a Chadeirydd Bwyd Caerdydd: “Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y wobr hon ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith a wnawn. Mae Bwyd Caerdydd yn enghraifft wych o sut y gall partneriaethau weithio a’r hyn y gellir ei gyflawni os yw pawb yn gweithio gyda’i gilydd. Mae Bwyd Caerdydd ar fin dechrau ar ei gam nesaf a bydd yn cyhoeddi ei Strategaeth Bwyd Da ym mis Medi – dogfen sy’n amlinellu ein nodau a’n huchelgeisiau ar gyfer y tair blynedd nesaf.”
Rhaglen barneriaeth yw Sustainable Food Places a arwineir gan Gymdeithas y Pridd, Food Mattersa Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio Caiff ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae ganddi 55 o aelodau ledled y DU.
Katie Palmer, Rheolwr RhaglenSynnwyr Bwyd Cymru “Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi ennill Statws Arian Sustainable Food Places sy’n golygu mai’r ddinas yw’r lle cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr bwysig hon.
“Roedd Bwyd Caerdydd yn un o sylfaenwyr Sustainable Food Places ac mae wedi helpu i arloesi gyda gweithredu cydweithredol tuag at fwyd sy’n seiliedig ar le.
“Mae’r wobr hon yn dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnes yn cydweithio i ysgogi newid. Mae gennym nawr uchelgais i weld partneriaeth fwyd yn cael ei sefydlu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, er mwyn creu rhwydwaith a fyddai’n sylfaen i ddatblygu’r weledigaeth, y seilwaith a’r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru yn addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol – rhywbeth y gellid ei gydnabod drwy gynlluniau Llesiant awdurdodau lleol,” ychwanega Katie.
“Cafodd y weledigaeth hon ei chydnabod yn ddiweddar hefyd gan y Tasglu Adferiad Gwyrdd a bydd yn rhan o gydweledigaeth i roi iechyd a bwyd cynaliadwy wrth galon cymunedau a helpu i ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yng Nghymru ymhellach.”
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gobeithio y bydd llwyddiant Caerdydd yn annog rhannau eraill o Gymru i ymuno â’r ymgyrch ac i helpu i arwain y ffordd o ran sefydlu a datblygu seilwaith yn seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ a strategaethau bwyd cymunedol ehangach a fydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ledled De Cymru.