Drwy rannu’r camau cadarnhaol yr ydych yn eu cymryd fel busnes, gallwch wneud mwy o bobl yn ymwybodol o’r mudiad Bwyd Da yn y ddinas. A thrwy osod esiampl wych gallwch ddylanwadu ar eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.
Er enghraifft:
- Rhannu eich camau gweithredu ar Fwyd Da drwy eich cylchlythyr i gwsmeriaid a chyflenwyr
- Helpu eich staff i fwyta mwy o fwyd iach, cynaliadwy
- Defnyddio eich gwefan, blog neu bodlediad i godi ymwybyddiaeth o faterion bwyd
- Creu cynnwys am eich gweithredoedd Bwyd Da ar gyfer eich sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Gwneud astudiaethau achos i rannu eich llwyddiannau a chofrestru ar gyfer gwobrau