Y mis diwethaf, ar y 10fed o Fawrth, daeth 30 o unigolion, sefydliadau a busnesau i gyfarfod chwarterol rhwydwaith Bwyd Caerdydd. Fe wnaeth ein cyfarfod rheolaidd ddwyn ynghyd amrywiaeth eang o brosiectau bwyd cymunedol, cynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr bwyd, deietegwyr, addysgwyr a swyddogion y sector cyhoeddus o bob cwr o’r ddinas.
Fe’i cynhaliwyd yng Nghanolfan Gymunedol Butetown (sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau a gwasanaethau bwyd lleol, gan gynnwys y Pantri Cymunedol) a dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn rwydweithio anffurfiol a ‘bingo cymdeithasu’ – a oedd yn golygu bod pobl o’r cychwyn cyntaf yn sgwrsio ac yn gwneud cysylltiadau newydd gydag eraill yn y gymuned.
I’r rhai yr oedd ein cyfarfodydd chwarterol yn newydd iddynt, dechreuodd y cyfarfod gyda chrynodeb gan Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd, a gyflwynodd Strategaeth Bwyd Da Caerdydd 21 -24, gan gadarnhau yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn. Dros y naw mlynedd diwethaf, mae Bwyd Caerdydd wedi tyfu’n sylweddol, gan gael effaith amlwg ar draws y ddinas, ac yn 2021, cafodd y ddinas statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (y lle cyntaf yng Nghymru ac yn un o ddim ond chwe lle yn y DU). Gallwch ganfod mwy yma.
Nesaf, cafwyd sesiwn anffurfiol i gyflwyno syniadau a digwyddiadau a roddodd gyfle i bobl rannu’r hyn y maent wedi bod yn ei wneud yn eu prosiectau perthnasol, i helpu i gysylltu ag eraill a rhannu syniadau. Cyfeiriwyd at gymysgedd eang o brosiectau a digwyddiadau arfaethedig – fel Egin, prosiect i ddatgloi grym cyfunol cymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd; Communiti, platfform dosbarthu sy’n cefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol, annibynnol a chynaliadwy; ac Edible Cardiff, rhwydwaith llawr gwlad cyffrous o dyfwyr bwyd sy’n cynllunio Gŵyl Wanwyn Caerdydd 2023 ar hyn o bryd.
Yn olaf, rhoddodd Kervin Julien, sydd â degawdau o brofiad o ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael â thlodi bwyd (gan sefydlu Pantri Cymunedol Butetown yn 2022 yn fwyaf diweddar), gyflwyniad a thaith ysbrydoledig o amgylch y pantri, sy’n cefnogi’r gymuned leol drwy roi mynediad urddasol, fforddiadwy at fwyd sy’n ddiwylliannol briodol, ac sy’n darparu prydau i hyd at 75 o deuluoedd y dydd.
Dyma flas o’r adborth o’r cyfarfod:
“Roeddwn i wrth fy modd yn rhannu gydag eraill ac yn clywed ganddynt. Bwffe gwych hefyd! Roeddwn i wrth fy modd gyda’r amgylchedd hamddenol ac anffurfiol – gan nad oedd yn rhy ffurfiol, roedden ni’n gallu dod â gwirfoddolwyr gyda ni heb iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus neu eu bod yn cael eu gadael allan o bethau.
“Fe wnes i ambell gysylltiad defnyddiol a mwynhau clywed am ddigwyddiadau eraill a chael llwyfan i rannu fy nigwyddiadau a gwasanaethau.”
“Fe wnes i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, yn ogystal â thrafod syniadau newydd!”
Os oes gennych syniad, prosiect neu ddigwyddiad yr hoffech eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf rhwydwaith Bwyd Caerdydd, neu ddim ond diddordeb mewn bwyd da, gallwch ymuno â ni yn gynnar yn yr haf (am ddim!) – cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau ac i gofrestru eich lle.