Mae Bwyd Caerdydd a Bwyd y Fro wedi lansio canllaw newydd ar gyfer Caffael Bwyd Cynaliadwy yn y sector cyhoeddus. Nod y canllaw yw helpu cyrff cyhoeddus i gymryd camau mawr tuag at system fwyd fwy cynaliadwy ac iach i gefnogi cynllun Symud Mwy Bwyta’n Iach Cymru.
Datblygwyd y canllaw gan Menter a Busnes i gynnig trosolwg cynhwysfawr o pam fod cefnogi gweithdrefnau lleol yn bwysig, sut i ganolbwyntio ar fwyd cynaliadwy ac iach a sut i reoli heriau ariannol. Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos, ymchwil ac adnoddau i gefnogi gweithwyr caffael proffesiynol i wneud y newid.
Lansiwyd y canllaw ar 6 Mawrth yn Green Shoots, caffi Prifysgol Caerdydd sy’n canolbwyntio ar fwydlen iach sy’n seiliedig ar blanhigion. Daeth y digwyddiad â rhanddeiliaid y prosiect at ei gilydd gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, GIG Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, a’r Big Fresh Catering Company.
Yn y lansiad, dangosodd Prifysgol Caerdydd ganlyniadau’r gwaith gyda Menus of Change, menter gydweithredol gan brifysgolion a The University Catering Organisation (TUCO). Hyd yn hyn, mae effaith mabwysiadu’r egwyddorion newydd hyn eisoes wedi lleihau eu heffaith amgylcheddol. Er enghraifft, yn 2023 gwnaeth cynllun cwpanau amldro Prifysgol Caerdydd atal defnyddio dros 125,000 o gwpanau untro. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad allyriadau CO2e o 4,607kg – sy’n cyfateb yn fras i 9,215 o gawodydd 5 munud gyda chawod drydan!
Y tu hwnt i ddathlu llwyddiannau hyd yma, roedd y digwyddiad yn fan cychwyn ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol. Mynegodd yr holl fynychwyr awydd cryf i barhau i gydweithio, gan gyfuno eu lleisiau a’u huchelgeisiau ar gyfer prynu bwyd lleol, iach a chynaliadwy.