Mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd, sy’n cael ei chynnal drwy gydol misoedd Medi a Hydref, wedi dychwelyd am y chweched flwyddyn yn olynol.
Bob blwyddyn ers 2020, mae Caerdydd yn dathlu’r pleser a geir o dyfu, coginio a rhannu bwyd da yng Ngŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd. Eleni, mae’r ŵyl hefyd yn dathlu’r ffaith bod Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill y teitl mawreddog.
Dechreuodd yr ŵyl yn Ardal Bwyd Da Caerdydd yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan, a groesawodd dros 20,000 o bobl.
Mae rhaglen o weithgareddau am ddim yn mynd rhagddi mewn cymdogaethau ledled y ddinas drwy gydol mis Medi a mis Hydref. Uchafbwynt yr Ŵyl yw digwyddiad Y Tu Hwnt i’r Aur: Dyfodol Bwyd yng Nghaerdydd a gynhelir gan Bwyd Caerdydd ar 23 Hydref. I fynychu, cofrestrwch yma.
Dros y pum gŵyl flynyddol ddiwethaf, mae’r sefydliadau sy’n aelodau o Bwyd Caerdydd wedi cymryd rhan, gan gynnal dros 100 o ddigwyddiadau a chroesawu bron i 9,000 o bobl. Rhannwyd bron i 2,500 o brydau bwyd a dosbarthwyd dros 5,000 o blanhigion a phecynnau hadau.
Eleni, dosbarthodd Bwyd Caerdydd, sy’n cydlynu’r ŵyl, £7,500 drwy grantiau bach i gefnogi grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau’r trydydd sector i gynnal gweithgareddau.
RHAGLEN GŴYL HYDREF BWYD DA CAERDYDD 2025
Grŵp Ymddiriedolaeth Gymunedol Alhusna
- Teitl y Digwyddiad: Food Joy
- Dyddiad: 13.09.25
- Disgrifiad: Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Alhusna (ACT) yn dod â theuluoedd lleol ynghyd i rannu a dathlu bwyd iach da a mwynhau Gŵyl yr Hydref. Mae croeso i deuluoedd BAME a’u plant sy’n byw yn ardal CF24 ymuno â’r digwyddiad Food Joy a gynhelir gan ACT.
Urban Crofters
- Teitl y Digwyddiad: Dathlu Cynnyrch yr Hydref
- Dyddiad: 14.09.25
- Disgrifiad: Dathlwch gyda’ch cymuned leol yng Ngerddi Shelley yn y Rhath. Gweithgareddau am ddim gan gynnwys arddangosiadau bwyd, helfa drysor a phaentio gyda mwyar duon. Dewch â’ch eitemau cartref sydd wedi torri a byddwn yn gwneud ein gorau i’w trwsio i chi. Cewch gyfle i wneud ffrindiau newydd a rhannu bwyd da gyda’ch gilydd. Mae’n mynd i fod yn HWYL!
Cwmni Buddiant Cymunedol Igbo Union of Wales
- Teitl y Digwyddiad: Blas ar Affrica: Dathlu Bwyd a Diwylliant Tymhorol
- Dyddiad: 14.09.25
- Disgrifiad: Dewch i gael profiad o galon ac enaid Affrica yn nigwyddiad Blas ar Affrica sy’n ddathliad hwyliog o gymuned, diwylliant a blas a gynhelir gan y Cwmni Buddiant Cymunedol Igbo Union of Wales. Rhannwch bryd o fwyd wedi’i baratoi gyda chariad, gyda chynhwysion ffres, tymhorol tra’n mwynhau dawnsfeydd diwylliannol bywiog, dillad traddodiadol a sgyrsiau cynnes. Peidiwch â cholli’r foment hon o undod i bawb, ymunwch â ni a byddwch yn rhan o rywbeth arbennig.
Cwmni Buddiant Cymunedol Breathe Creative
- Teitl y Digwyddiad: Gŵyl Hydref Gymunedol Tir Cyffredin
- Dyddiad: 20.09.25
- Disgrifiad: Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Hydref Gymunedol Tir Cyffredin. Bydd y prynhawn calonogol hwn yn cynnwys cynaeafu, garddio ymarferol, cerddoriaeth fyw, gweithdai creadigol ar gyfer llesiant, a chyd-fwyta pryd sy’n seiliedig ar blanhigion. Dan arweiniad Cwmni Buddiant Cymunedol Breathe Creative, mae’r digwyddiad cynhwysol hwn yn dod â deiliaid rhandiroedd a grwpiau cymunedol lleol ynghyd i ddathlu cysylltiad, cynaliadwyedd, a’r pleser a geir o dyfu a rhannu bwyd da.
Coed Treganna
- Teitl y Digwyddiad: Dathliad o’r hydref gyda sudd afal a finegr seidr afal iach
- Dyddiad: 20.09.25
- Disgrifiad: Dewch draw i Goed Treganna ym Mharc Sanatoriwm i helpu i wasgu a blasu afalau a dyfir yn lleol i wneud sudd. Dewch â’ch cynwysyddion ffrwythau a sudd eich hun gyda chi. Dysgwch sut i wneud finegr seidr afalau wedi’i eplesu o ddeunyddiau yr oeddech chi’n arfer eu compostio.
Tyfu Caerdydd
- Teitl y Digwyddiad: Gŵyl Gynhaeaf i Ddathlu Pen-blwydd Tyfu Caerdydd yn 10 oed
- Dyddiad: 25.09.25
- Disgrifiad: Fe’ch gwahoddir i Ŵyl Gynhaeaf fawreddog ac arbennig! Dewch i ddathlu deng mlynedd o dyfu cymunedol gyda’r elusen leol Tyfu Caerdydd yn y Dusty Forge yn Nhrelái. Mae bwyd blasus o’r ardd, straeon am dyfu bwyd a gobaith, cerddoriaeth a siaradwr gwadd arbennig yn eich aros chi.
- Lleoliad: Canolfan Gymunedol Dusty Forge, CF5 5BZ
- I fynychu: Cofrestrwch drwy Eventbrite
Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot
- Teitl y Digwyddiad: Cinio a Chwis Bwyd Da
- Dyddiad: 26.09.25, 13:00-14:00
- Disgrifiad: Hogwch eich ymennydd ar gyfer y Cinio a Chwis Bwyd Da! Dewch i fwynhau cinio cymunedol poeth blasus a chymryd rhan yn ein cwis ar y thema bwyd. Bydd gwobr i’r tîm buddugol a phecynnau cynhwysion i fynd adref gyda chi.
- Lleoliad: Canolfan Hamdden STAR y Sblot, CF24 2BZ
- I fynychu: Cofrestrwch drwy e-bost – info@splottcommunityvolunteers.co.uk
Orchard Cardiff
- Teitl y Digwyddiad: Diwrnod yr Afal
- Dyddiad: 27.09.25, 12:00-15:00
- Disgrifiad: Casglu Gwyllt – Dewch i ymweld â stondin Orchard Cardiff i ddysgu am gyfleoedd casglu ffrwythau lleol a chreu cerdyn post print leino neu grys-t ar y thema afalau. Addas i deuluoedd – mae angen i blant gael eu goruchwylio.
- Lleoliad: Global Gardens, CF14 3NE
- I fynychu: Cofrestrwch drwy TicketTailor
Cymdeithas Tai Unedig Cymru
- Teitl y Digwyddiad: Garddwest Bwyd Da
- Dyddiad: 01.10.25
- Disgrifiad: Dathliad arbennig i’n preswylwyr tai â chymorth, gan ddod â thri chynllun ynghyd am brynhawn o fwyd cartref, ysbrydoliaeth ar gyfer gerddi, a cherddoriaeth wych. Mwynhewch gyd-fwyta cinio sy’n cynnwys prydau amrywiol, cysylltwch â chymdogion, a gwrandewch ar ein garddwyr preswyl yn rhannu eu straeon a’u llwyddiannau wrth dyfu cynnyrch ffres yng nghanol y ddinas.
- Drwy wahoddiad yn unig.
Cymdeithas Gerddi Cymunedol Glan yr Afon
- Teitl y Digwyddiad: Dathlu Cynnyrch yr Hydref
- Dyddiad: 04.10.25, 10:30-14:30
- Disgrifiad: Dewch i grwydro o amgylch ein gardd gyda’i hamrywiaeth eang o lysiau a ffrwythau hyfryd a blasus. Dewch i gwrdd â’n gwirfoddolwyr cyfeillgar a mwynhewch fwyd blasus wedi’i baratoi o’n cynnyrch tymhorol. Cymerwch ran mewn gweithdy ar biclo ac eplesu llysiau, rhowch gynnig ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r ardd i oedolion a phlant o bob oed a gwnewch eich bathodyn gardd eich hun.
- Lleoliad: Rhandiroedd Pontcanna CF5 2YB
- I fynychu: trowch i fyny
CEYZ
- Teitl y Digwyddiad: Cegin Gymunedol Ceyz
- Dyddiad: 08.10.25
- Disgrifiad: Dewch draw i ddigwyddiad Cegin Gymunedol Ceyz a rhoi cynnig ar ryseitiau tymhorol blasus, ewch â chynhwysion gartref i roi cynnig arnynt eich hunan, gwnewch ffrindiau newydd a mwynhewch!
- Drwy wahoddiad yn unig.
Cwmni Buddiant Cymunedol Aubergine
- Teitl y Digwyddiad: Cyfarfod yr Hydref Aubergine
- Dyddiad: 11.10.25, 13:00 – 15:30
- Disgrifiad: Dewch i ymuno ag Aubergine i gael profiad o chwilota am fwyd hydrefol. Dan arweiniad chwilotwyr profiadol, byddwn yn mynd ar daith dywys drwy Cathays, gan gasglu cynhwysion sy’n tyfu’n wyllt. Ar ôl dychwelyd i’r caffi, bydd ein cynhaeaf o gynhwysion gwyllt yn cael ei ddefnyddio i baratoi pryd ysgafn i chi gyd ei flasu. Archebwch eich lle am ddim heddiw!
- Lleoliad: 36-38 Cathays Terrace, CF24 4HX
- I fynychu: I’w gadarnhau
Pantri Cymunedol Tremorfa
- Teitl y Digwyddiad: Parti Dathlu
- Dyddiad: 12.10.25
- Disgrifiad: Digwyddiad i ddathlu aelodau cymunedol a gwirfoddolwyr gwych Pantri Tremorfa sy’n cyfrannu at y Mudiad Bwyd Da yng Nghaerdydd drwy gwblhau cyrsiau Sgiliau Maeth Cymunedol a Dechrau Coginio a Hylendid Bwyd.
- Drwy wahoddiad yn unig.
ACE
- Teitl y Digwyddiad: Parti Cynhaeaf yng Ngardd Diana
- Dyddiad: 14.10.25, 14:00
- Disgrifiad: Dewch i ymuno â ni am bryd o fwyd cymunedol am ddim yn ein parti cynhaeaf! Rhannwch bryd blasus wedi’i wneud â llysiau a dyfir yn ein gardd brydferth. Dewch i gwrdd â ffrindiau newydd yn yr ardal a darganfod sut y gallwch gymryd rhan mewn tyfu bwyd yn Nhrelái a Chaerau.
- Lleoliad: Gardd Diana, Ffordd Hiles, CF5 4JB
- I fynychu: trowch i fyny
Women Chat
- Teitl y Digwyddiad: Diwrnod Lles a Bwyd Da
- Dyddiad: 17.10.25, 14:00
- Disgrifiad: Ymunwch â Women Chat am Ddiwrnod Lles a Bwyd Da am ddim yng Nghaerdydd—yn dathlu iachâd, diwylliant a chymuned drwy fwyd. Mwynhewch blannu perlysiau, blasu bwyd tymhorol, a sgyrsiau ar sut y mae bwyd yn cefnogi llesiant meddyliol, pob un wedi’i wreiddio yn nhraddodiadau cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan wrthdaro. Mae’r digwyddiad ysbrydoledig hwn yn dod â phobl ynghyd ar draws diwylliannau i dyfu, coginio a rhannu bwyd maethlon mewn lle croesawgar a chynhwysol.
- Lleoliad: Pantri Stryd Wyndham, SRCDC CF11 6DQ
- I fynychu: trowch i fyny