Ddydd Iau, 9 Tachwedd, cymerodd Bwyd Caerdydd ran mewn Uwchgynhadledd Llysiau, wedi’i chynnal gan Synnwyr Bwyd Cymru yn Yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau’r fenter Pys Plîs yng Nghymru.
Menter a ariennir gan y loteri sy’n cwmpasu’r DU gyfan yw Pys Plîs ac mae bellach yn ei blwyddyn olaf. Sefydlwyd y fenter Pys Plîs yn 2019, a’i chenhadaeth oedd gwneud pethau’n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen pedair blynedd, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru a thros y blynyddoedd wedi dod â ffermwyr, manwerthwyr a chadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth at ei gilydd a gyda’r un nod o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau.
Partneriaid eraill y prosiect ar draws y DU sy’n ymwneud â’r fenter hon yw The Food Foundation, Nourish Scotland, Food NI a Nourish NI.
Nod y rhaglen arloesol hon sy’n canolbwyntio’n benodol ar lysiau, yw sicrhau bod diwydiant a’r llywodraeth yn ymrwymo i wella argaeledd, derbynioldeb (gan gynnwys cyfleustra), fforddiadwyedd ac ansawdd y llysiau sydd ar gael mewn siopau, ysgolion, bwytai a thu hwnt, ac yn ei dro, ysgogi’r cyhoedd yn y DU, yn enwedig plant a’r rhai ar incwm isel, i fwyta mwy o lysiau.
Ers lansio’r prosiect Pys Plîs bedair blynedd yn ôl, mae 1.1 biliwn o ddognau ychwanegol o lysiau wedi’u gwerthu neu eu gweini ac fe wnaeth 110 o sefydliadau addunedu i chwarae eu rhan i helpu pawb yn y DU i fwyta dogn ychwanegol o lysiau bob dydd. Gelwir yr addunedau hyn yn Addunedau Llysiau ac yng Nghymru, roedd Synnwyr Bwyd Cymru yn gyfrifol am reoli 8 o addunedwyr cenedlaethol, 24 o addunedau lleol drwy Bwyd Caerdydd a 25 o addunedwyr Dinasoedd Llysiau mewn partneriaeth â Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Llwyddodd wyth o fanwerthwyr i ychwanegu gwerth at y cynllun Cychwyn Iach ar draws y DU ac yng Nghymru, cafodd 22 o bobl eu recriwtio i fod yn Hyrwyddwyr Llysiau, gan weithio fel asiantau newid unigol yn eu cymuned leol a helpu i ysgogi’r newidiadau enfawr sydd eu hangen yn ein hymgyrch i gael pawb i fwyta mwy o lysiau.
Yn ystod yr Uwchgynhadledd Llysiau, cyflwynodd Pearl Costello wybodaeth am effaith yr ymgyrch Dinasoedd Llysiau yng Nghaerdydd:
“Datblygwyd yr ymgyrch Dinasoedd Llysiau yn 2018 ochr yn ochr â Pys Plîs, o dan arweiniad Cynnal Cymru, er mwyn cynorthwyo partneriaethau bwyd i gymryd camau gweithredu lleol i dyfu, coginio, gwerthu, gweini ac arbed mwy o lysiau. Ers sefydlu’r ymgyrch, mae’r ymgyrch Dinasoedd Llysiau yng Nghaerdydd wedi arwain at weini cannoedd ar filoedd o ddognau ychwanegol o lysiau yn y ddinas.
“Diolch i ymdrechion diflino y tyfwyr, grwpiau cymunedol, cyrff cyhoeddus a dinasyddion lleol, cafwyd chwyldro llysiau yng Nghaerdydd. Yn bwysicach oll, roedd yr ymgyrch nid yn unig yn canolbwyntio ar un agwedd ar y cylch bwyd, ond yn hytrach yn mynd i’r afael â phob cam yn fanwl,” meddai.
Ar y panel gyda Pearl roedd addunedwr lleol (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), Hyrwyddwr Llysiau (Poppy Nicol, prosiect Global Gardens) a thyfwr llysiau a gymerodd ran yng ngweithdy rhaglen Pontio’r Bwlch gan Syniadau Mawr yng Nghaerdydd.
Os na chawsoch gyfle i fynychu Uwchgynhadledd Llysiau Cymru a’ch bod yn awyddus i holl drafodaethau a sgyrsiau’r panel, gallwch wylio’r digwyddiad yma.