Mae’r Rhaglen Ffermio Ymylol, sy’n cael ei harwain gan Sustain, yn gydweithrediad â phartneriaid ledled y DU er mwyn deall rhwystrau, canfod cyfleoedd a chamau gweithredu lleol, a datblygu polisi cenedlaethol er mwyn galluogi ffermio amaethecolegol ar gyrion dinasoedd fel rhan o adferiad economaidd gwyrdd.
Yn 2022, ymunodd Caerdydd â’r rhaglen i ymgymryd â chynllunio gweithredol i dynnu sylw at gyfleoedd, rhwystrau, a’r adnoddau y gallai fod eu hangen ar gyfer y camau nesaf.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r rhwystrau, y cyfleoedd a’r camau gweithredu posibl y gwnaeth y 22 o randdeiliaid eu nodi yn ystod y gweithdy.
Yn 2023, o ganlyniad i hyn, bydd Bwyd Caerdydd a phartneriaid yn cynnull gweithgor Ffermio Ymylol, a fydd yn ystyried sut i fwrw ati gyda’r gwaith hwn ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y prosiect neu fod yn rhan o drafodaethau yn y dyfodol, cysylltwch â foodsensewales@wales.nhs.uk