Food Cardiff loading now

Cynnig grantiau i ddod â chymunedau ynghyd ar gyfer Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd i’r ddinas ym mis Medi ac mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol er mwyn eu helpu i gymryd rhan.

Bob blwyddyn ers 2021, mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd wedi bod yn dathlu’r mwynhad a geir yn sgil tyfu, coginio a rhannu bwyd da.

Drwy gydol y mis, cynhelir gweithgareddau am ddim mewn cymdogaethau ar draws y ddinas gan ddechrau gydag Ardal Bwyd Da Caerdydd bwrpasol i groesawu’r 25,000 o ymwelwyr sy’n mynychu Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan.

Mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau bach o hyd at £200 i alluogi grwpiau dielw i gynnal digwyddiadau neu weithgareddau fel rhan o’r ŵyl. Gall unrhyw un wneud cais cyn belled â bod y digwyddiad yn hyrwyddo 5 Nod ar gyfer Bwyd Da Bwyd Caerdydd sy’n cefnogi cais y ddinas i ddod yn un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy’r DU.

Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau dielw wneud cais am raglen grantiau bach Bwyd Caerdydd ar sail dreigl tan 10 Gorffennaf .

Gall unrhyw sefydliad, p’un a yw wedi cael grant ai peidio, gyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiad perthnasol drwy wefan Bwyd Caerdydd i’w gynnwys yn yr ŵyl.


GWNEUD CAIS

Gwybodaeth grant

Telerau ac Amodau’r Grant