Food Cardiff loading now

Cynllun peilot ‘Cerdyn y Blaned’ Caerdydd yn dangos sut y gall cynlluniau talebau ffrwythau a llysiau fod o fudd i iechyd, yr hinsawdd a’r economi

Mae cynllun peilot bwyd yng Nghaerdydd sy’n rhoi credyd wythnosol i aelwydydd incwm isel i brynu ffrwythau a llysiau organig wedi helpu’r rhai a gymerodd ran ynddo i fwyta mwy na’r pum dogn y dydd a argymhellir, gan gefnogi tyfwyr lleol cynaliadwy, a chryfhau cysylltiadau cymunedol ar yr un pryd.

Rhannwyd y canfyddiadau mewn digwyddiad a gynhaliwyd ddoe yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, gan ddod â phartneriaid, llunwyr polisïau, sefydliadau bwyd a chynrychiolwyr cymunedau ynghyd i drafod yr hyn y gall y cynllun peilot ei ddysgu i Gymru am fynediad tecach at fwyd da.

Yn y digwyddiad, lansiodd Bwyd Caerdydd a Synnwyr Bwyd Cymru adroddiad newydd, sy’n archwilio sut y gall arian cyhoeddus greu cyfoeth cymunedol drwy sianelu cyllid ar gyfer argyfyngau drwy economïau lleol er budd pobl a’r blaned.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar waith monitro a wnaed gan y rhaglen Pontio’r Bwlch a gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd gan Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, a ganfu fod Cerdyn y Blaned wedi cynyddu ymddygiad iach, wedi cryfhau cydlyniant cymunedol ac wedi gwella llythrennedd bwyd ymhlith aelwydydd incwm isel.

Cafodd y cynllun Cerdyn y Blaned ei ddatblygu yng Nghaerdydd fel rhan o’r rhaglen Pontio’r Bwlch, sy’n cwmpasu’r DU gyfan ac yn cael ei harwain gan Sustain a’i bartneriaid gan gynnwys Synnwyr Bwyd Cymru. Wedi’i gydlynu’n lleol gan Bwyd Caerdydd (Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy prifddinas Cymru) mewn cydweithrediad â Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd, rhoddodd y cynllun gredyd wythnosol o £11 i aelwydydd cymwys i’w wario ar ffrwythau a llysiau organig a chyfeillgar i’r blaned ym marchnadoedd ffermwyr Caerdydd yn y Rhath a Glan yr Afon.

Cymerodd 120 o gartrefi ran yn y cynllun peilot, amcangyfrifir ei fod wedi arwain at 1,744 o ymweliadau â’r marchnadoedd, cafodd £19,000 o dalebau Cerdyn y Blaned eu gwario’n uniongyrchol gyda ffermwyr lleol sy’n cynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur, ac fe wnaeth yr aelodau hefyd wario o leiaf £1,000 o’u harian eu hunain ym Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod yr effaith wedi mynd y tu hwnt i gyllidebau bwyd. Disgrifiodd yr aelodau’r marchnadoedd fel mannau cymdeithasol, croesawgar a grymusol, lle y gallent siarad yn uniongyrchol â thyfwyr, dysgu sut i goginio cynnyrch anghyfarwydd, teimlo’n rhan o gymuned, a siopa gydag urddas.

Dywedodd un aelod o’r cynllun Cerdyn y Blaned, “Mae dyddiau Sul yn ddiwrnodau hapus iawn i mi nawr.” Esboniodd un arall, “Mae gennyf lawer mwy o barch at ffermwyr organig yn awr. Rwy’n credu bod diffyg cysylltiad enfawr gyda bwyd yn yr archfarchnadoedd, ond rydych yn dod i ddeall y broses yn llawer gwell a sut mae’r bwyd yn cyrraedd eich bwrdd pan rydych yn gallu siarad gyda ffermwyr bob wythnos a gwrando ar eu storïau .”

Mae adroddiad Bwyd Caerdydd a Synnwyr Bwyd Cymru yn dadlau bod Cerdyn y Blaned yn dangos sut y gall ymyriadau cyhoeddus i fynd i’r afael â thlodi bwyd greu elw cymdeithasol sylweddol ar fuddsoddiad, yn ogystal â gwella deiet, cryfhau cymunedau, cefnogi’r byd ffermio yng Nghymru a bod o fudd i’r hinsawdd a natur ar yr un pryd.

Mae gwaith modelu economaidd gan Brifysgol Portsmouth a’r Ganolfan Ymchwil Organig sy’n seiliedig ar naw cynllun peilot gwahanol y rhaglen Pontio’r Bwlch ledled y DU yn amcangyfrif bod pob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus, ynghyd â £1.10 gan gwsmeriaid, yn cynhyrchu £8.78 mewn gwerth cymdeithasol, gan gynnwys manteision i iechyd, cymunedau cryfach, twf economaidd lleol a hinsawdd a natur.

Mae’r adroddiad yn gwneud dau argymhelliad allweddol ar gyfer Caerdydd a Chymru:

  1. Dylai Bwyd Caerdydd ymestyn ac ehangu cynllun Cerdyn y Blaned; a
  2. Dylai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd, drwy Bartneriaethau Bwyd Lleol, gydweithio i gyflwyno Cynllun Talebau Ffrwythau a Llysiau Organig yng Nghymru ar gyfer aelwydydd incwm isel.

Mae hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu cynllun garddwriaeth uchelgeisiol er mwyn ehangu cynhyrchu ffrwythau, llysiau a chodlysiau organig, a bod cyrff cyhoeddus yn cefnogi’r gwaith o ehangu seilwaith manwerthu bwyd lleol a chymunedol fel marchnadoedd ffermwyr, hybiau bwyd cymunedol a siopau ffrwythau a llysiau annibynnol.

Meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod gormod o bobl yng Nghymru sy’n methu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd. Ar yr un pryd, rydym yn ddibynnol ar gadwyni cyflenwi byd-eang anwadal am ein ffrwythau a’n llysiau – bwyd y gallem fod yn ei dyfu yma. Mae Cerdyn y Blaned Caerdydd yn dangos i ni ei bod yn bosibl gwneud ffrwythau a llysiau’n fforddiadwy i’r teuluoedd sydd eu hangen fwyaf – ac y gallwn hybu tyfwyr Cymru a chadwyni cyflenwi lleol gan wella iechyd a llesiant ar yr un pryd.

“Rwy’n falch o weld ymrwymiad ym maniffesto Llywodraeth newydd Cymru i gynyddu cynhyrchiant garddwriaeth yn raddol ac i sicrhau bod 25% o’r llysiau sy’n cael eu gweini yn ysgolion Cymru yn llysiau o Gymru erbyn 2030. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn blaenoriaethu tyfu ein sector garddwriaeth ac yn buddsoddi mewn cynlluniau talebau ffrwythau a llysiau fel y gall y teuluoedd sydd eu hangen fwyaf fwyta bwyd iach o Gymru, nawr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd Pearl Costello, Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Synnwyr Bwyd Cymru, “Mae’n galonogol iawn gweld cymaint o bartneriaid a oedd yn rhan o gyd-greu Cerdyn y Blaned yn dod ynghyd i fyfyrio ar ganfyddiadau’r adroddiadau ac i ystyried y camau nesaf. Ar ôl cefnogi Bwyd Caerdydd i ddatblygu’r cynllun hwn, drwy’r rhaglen Pontio’r Bwlch, mae Synnwyr Bwyd Cymru bellach yn argymell ymestyn ac ehangu Cerdyn y Blaned. Byddem hefyd yn annog Llywodraeth newydd Cymru, yn ogystal ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i weithio gyda’u Partneriaethau Bwyd Lleol i gyflwyno Cynllun Talebau Ffrwythau a Llysiau Organig Cymru ar gyfer aelwydydd incwm isel. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid ledled Caerdydd a Chymru benbaladr, i helpu i hwyluso a chyflawni’r uchelgais hon.”

Ychwanegodd Lucinda Sehic, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy yn Bwyd Caerdydd, “Bydd yr hyn a ddysgwyd o Gerdyn y Blaned yn sail i gam nesaf ein gwaith i wella mynediad at fwyd da yn y ddinas. Gan adeiladu ar y gwerthusiad annibynnol gan Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd ac adroddiad Bwyd Caerdydd, rydym yn awyddus i ymchwilio i sut y gellid ehangu’r cynllun i gyrraedd mwy o aelwydydd, sut y gellid gwneud mynediad yn fwy hyblyg y tu hwnt i’r model marchnad ffermwyr, a sut y gall Caerdydd gryfhau’r cyflenwad lleol o fwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur.”

Roedd y digwyddiad yn nodi moment allweddol yn y broses honno, gan roi cyfle i randdeiliaid, dinasyddion a phartneriaid fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o’r cynllun peilot a helpu i ddylanwadu ar fersiwn Cerdyn y Blaned ar gyfer y dyfodol yng Nghaerdydd a thu hwnt.

I ddarllen adroddiad llawn Cerdyn y Blaned 2023–2025 gan Bwyd Caerdydd a Synnwyr Bwyd Cymru, cliciwch yma.

Mae adroddiad gwerthusiad annibynnol Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, Planet Card: Good Food for All, hefyd ar gael yma.

Cerdyn y Blaned mewn Rhifau

  • 120 o aelwydydd wedi cymryd rhan
  • £11 o gredyd wythnosol i brynu ffrwythau a llysiau organig
  • Amcangyfrifir y bu 1,744 o ymweliadau â Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd
  • Gwerth £19,000 o dalebau Cerdyn y Blaned wedi’u gwario’n uniongyrchol gyda ffermwyr lleol
  • Aelodau wedi gwario o leiaf £1,000 o’u harian eu hunain
  • Ar gyfartaledd, 4.76 → 5.33 o ddognau o ffrwythau a llysiau dyddiol yn cael eu bwyta ar ôl 20 wythnos
  • Amcangyfrif o £8.78 o werth cymdeithasol wedi’i gynhyrchu am bob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus, ynghyd â £1.10 gan y rhai oedd yn siopa
  • Dywedodd yr aelodau fod eu harferion iach wedi cynyddu, eu bod yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau a llai o fwydydd llawn siwgr ac wedi’u prosesu, bod mwy o ymdeimlad o gymuned a bod eu llythrennedd bwyd wedi gwella.