Yn ddiweddar, daeth Caerdydd yn ddinas Bwyd Cynaliadwy Aur – un o ddim ond pedwar lle yn y DU i gael y teitl mawreddog hwn. Mae bellach yn galw ar drigolion i helpu i gynllunio cam nesaf ei hymdrechion parhaus i wella diogeledd a chynaliadwyedd bwyd ledled y ddinas.
Mae arolwg cyhoeddus newydd wedi cael ei lansio i gasglu gwybodaeth hollbwysig am arferion, dewisiadau a heriau’n ymwneud â bwyd lleol, gyda’r nod o greu amgylchedd bwyd iachach, mwy cynaliadwy, ffyniannus, grymusol a chysylltiedig i bawb.
Mae’r arolwg yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:
- Lle mae pobl yn siopa am fwyd
- Hyder wrth goginio, cyllidebu a bwyta’n iach
- Blaenoriaethau wrth brynu bwyd
- Arferion bwyta iach
- Ymwybyddiaeth o’r Mudiad Bwyd Da yng Nghaerdydd
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd
Dywedodd Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Caerdydd:
“Mae Caerdydd wedi dangos ymrwymiad aruthrol i fwyd cynaliadwy, ac rydym yn hynod falch o ennill statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.”
“Ond er mwyn esblygu ein system o ddifrif, mae angen i ni glywed lleisiau’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn bwyta yma. Mae’r arolwg hwn yn gam hollbwysig o ran deall anghenion a safbwyntiau amrywiol ein cymuned, gan sicrhau bod ein strategaethau bwyd yn y dyfodol yn adlewyrchu trigolion Caerdydd. Rydym yn annog pawb i gymryd ychydig funudau i rannu eu barn a’n helpu i greu dyfodol bwyd gwyrddach ac iachach.”
Mae’r arolwg byr ar agor i holl drigolion Caerdydd a gellir ei gwblhau ar-lein yma: Strategaeth Fwyd Dinas Gyfan 2025