Roedd yr wythnos diwethaf yn garreg filltir arwyddocaol i bolisi bwyd yng Nghymru yn sgil rhyddhau dau gyhoeddiad pwysig – Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru – gyda gwaith Bwyd Caerdydd yn ymddangos fel astudiaeth achos sy’n esiampl i eraill yn y ddwy ddogfen.
Mae’r ddau gyhoeddiad yn pwysleisio rôl ganolog Partneriaethau Bwyd Lleol fel Bwyd Caerdydd yn y broses o lunio dyfodol bwyd yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at y ffordd y mae mentrau arloesol fel Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, yn gallu manteisio ar botensial prosesau caffael cyhoeddus drwy greu system fwyd fwy cynaliadwy.
Ochr yn ochr â’r ddau adroddiad polisi newydd, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru adroddiad ar Statws Partneriaethau Bwyd Lleol hefyd sy’n rhoi cipolwg ar y sefyllfa bresennol ac yn amlygu arferion gorau ar draws y 22 Partneriaeth Bwyd Lleol yng Nghymru, gan gynnwys gwaith Bwyd Caerdydd.
Gallwch wylio fideo o astudiaeth achos Bwyd Caerdydd Synnwyr Bwyd Cymru yma.
Fel y bartneriaeth bwyd gyntaf yng Nghymru, fe wnaeth Bwyd Caerdydd baratoi’r ffordd ar gyfer Synnwyr Bwyd Cymru sydd bellach yn gweithio i gefnogi a meithrin partneriaethau bwyd lleol ledled Cymru mewn partneriaeth â Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Llywodraeth Cymru.
Yn 2023, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y ddogfen Cymru Can – strategaeth ar gyfer 2023-2030 sy’n amlinellu ei weledigaeth hirdymor ac yn cyhoeddi mai’r system fwyd yw ei faes ffocws cyntaf. Ers hynny mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyrff Cyhoeddus i integreiddio polisïau bwyd cynaliadwy yn eu cynlluniau llesiant, gan roi pwyslais arbennig ar gynlluniau bwyd cymunedol sy’n meithrin newid ar lefel leol.
“Mae’n wych gweld adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn hyrwyddo llu o gamau gweithredu sy’n ymwneud â bwyd, gan gynnwys datblygu Cynllun Gwydnwch Bwyd Cenedlaethol; y gefnogaeth barhaus i Bartneriaethau Bwyd yn ogystal â chymorth pellach i arddwriaeth a Llythrennedd Bwyd,” meddai Katie Palmer, Sylfaenydd a Phennaeth Synnwyr Cymru.
“Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi buddsoddi llawer o adnoddau yn y maes bwyd ac rydym yn sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â gwaith y Partneriaethau Bwyd er mwyn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu cyngor i Gyrff Cyhoeddus ar Fwyd. Mae’r gwaith hwn wedi’i driongli â Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi’i chyhoeddi heddiw.
“Mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi cael eu cydnabod yn adroddiad y Comisiynydd a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol fel grym sy’n hanfodol i ddod â rhanddeiliaid, polisïau a mentrau ynghyd, gan alluogi gweithredwyr lleol i gydweithio i greu a chyflawni gweledigaeth a strategaeth gyffredin ar gyfer system fwyd fwy cynaliadwy, teg a gwydn,” meddai Katie.
Gallwch ddarllen Adroddiad Statws y Partneriaethau Bwyd Lleol yma a gwylio’r ffilmiau cysylltiedig yma.
Gallwch hefyd ddarllen adroddiad Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yma.