Mae ymgyrch #BwydDaCaerdydd yn dod â busnesau a sefydliadau o bob cwr o’r ddinas at ei gilydd i gyflawni un nod gyffredin – helpu Caerdydd i ddod yn un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU erbyn y flwyddyn 2024.
Gyda chymorth cyllid o Gronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd Am Byth rydym yn cefnogi busnesau i ‘addunedu’ i gymryd camau a fydd yn helpu Caerdydd i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy; ac rydym wedi creu’r pecyn cymorth hwn er mwyn gwneud y broses yn symlach byth.
Nid dim ond busnesau bwyd neu fusnesau lletygarwch sy’n gallu creu effaith – yma cawn glywed gan Gareth Cartwright, rheolwr cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol banc Hodge yng nghanol y ddinas.
“Banc arbenigol yw Hodge sy’n darparu cynnyrch cynilo a benthyca wedi’i deilwra’n dda ar gyfer ein cwsmeriaid ar yr ‘adegau sy’n bwysig’ iddyn nhw. Ac mae hon yn egwyddor yr ydym yn ei chymhwyso i’n cydweithwyr – gweithio i greu gweithle hynod bleserus a rhywle i bobl allu cydweithio gyda’r un ethos i wneud y peth iawn.
“Mae bwyd yn rhan bwysig o’n bywyd cymdeithasol yma – mae’n gyfle i ddod â phobl at ei gilydd ac yn gyfle i ni fel cyflogwr ofalu am eu hiechyd a’u llesiant. Rydym yn darparu opsiynau bwyd gwahanol i’r tîm drwy gydol yr wythnos – drwy brynu ffrwythau ffres yn lleol o Farchnad Caerdydd a sicrhau bod dewis o frecwast iach yn barod ar eu cyfer ar ôl iddyn nhw gyrraedd yn y bore.”
Fel rhan o’r ymgyrch Bwyd Caerdydd, sy’n cael ei chefnogi gan Caerdydd Am Byth, aethom ati i gyflwyno Gareth a’r tîm i dîm arlwyo Oasis, yr elusen sy’n darparu croeso cynnes Cymreig i ffoaduriaid ac i geiswyr lloches.
Matt Davenport yw uwch reolwr arlwyo a lletygarwch Oasis Caerdydd. Meddai:
“Canolfan i geiswyr lloches ac i ffoaduriaid yw Oasis yn y Sblot, ac rwy’n gyfrifol am y gegin ble y gwneir dau brif beth – darparu prydau bwyd poeth am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd a’r cylch, a darparu gwasanaeth arlwyo allanol sy’n helpu i gefnogi’r ganolfan.
“Prosiect The Plate yw ein prif fenter sy’n gysylltiedig â bwyd, ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i geiswyr lloches a ffoaduriaid drwy gynnig gwasanaeth arlwyo allanol neu arlwyo’n fewnol, gan greu platfform i ddatblygu sgiliau ac i fod yn rhan o’r sector arlwyo a lletygarwch yn fwy cyffredinol.
“Mae’r prosiect hefyd yn helpu pobl i ymgartrefu yn y DU, gan ddefnyddio bwyd fel cyfrwng i adrodd eu hanesion ac i rannu gwybodaeth bersonol – gan ddileu’r label ‘ceisiwr lloches’ neu ‘ffoadur’.
“Fel cogydd, rwy’n teimlo’n freintiedig iawn cael arbrofi gyda chymaint o wahanol ryseitiau, a chymaint o ffyrdd gwahanol o ymdrin â bwyd gan yr holl unigolion gwahanol sy’n defnyddio’r ganolfan – ac mae eu hanesion yn gwneud popeth yn fwy diddorol byth. Rwy’n gwybod bod fy newis o ryseitiau wedi mynd o nerth i nerth dros y pum mlynedd diwethaf wrth i mi weithio ochr yn ochr â’r bobl rydym yn eu cefnogi yn Oasis – ac mae’r digwyddiadau arlwyo allanol rydym yn eu cynnal yn blatfform arbennig i ni allu rhannu’r ryseitiau a’r straeon hynny gyda’r gymuned ehangach.”
Ychwanegodd Gareth:
“Yn aml, bwyd yw canolbwynt y digwyddiadau y mae ein pwyllgor cymdeithasol yn eu cynnal a bydd yn aml yn trefnu bwffe neu ginio i ddod â phobl at ei gilydd. Rydym mor falch ein bod yn gwybod am Oasis Caerdydd a’r gwaith y mae’n ei wneud.
“Rydym yn defnyddio llawer o gyflenwyr bwyd ac arlwyo lleol a gwahanol, ond drwy ddefnyddio menter gymdeithasol fel Oasis, gall y digwyddiadau rydym yn eu cynnal i ddod â phobl at ei gilydd yn y gweithle gefnogi’r gwaith y mae’n ei wneud i gefnogi pobl yn y gymuned hefyd.
Efallai ei fod yn ymddangos yn rhywbeth bach, ond pe bai mwy o fusnesau yn y ddinas yn gwneud yr un peth, gall gael effaith llawer mwy.
“Mae’n llwyddo i gyfuno nifer o’n safbwyntiau; rydym yn awyddus iawn i greu cyswllt cymdeithasol yn y gweithle. Hoffem roi cyfle i’n timau fynd allan i’r gymuned drwy gynllun gwirfoddoli ‘Four to do More’ – ac mae helpu pobl i fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol yn hynod bwysig i ni.
Efallai nad yw’r effaith y gall busnes gwasanaethau ariannol fel ein busnes ni ei chael ar greu system fwyd mwy cynaliadwy, teg ac iach yng Nghaerdydd yn amlwg i ddechrau. Ond gallwn greu effaith drwy feddwl am ble i brynu ein bwyd a’r opsiynau sydd ar gael i gydweithwyr.
P’un a ydych yn fusnes bwyd ai peidio, gall eich addunedau drwy ymgyrch Bwyd Caerdydd gael effaith bwerus iawn. Diolch i ymgyrch Bwyd Caerdydd am ein cyflwyno i Oasis, ac rydym wedi addunedu i sicrhau y byddwn yn manteisio ar unrhyw gyfle i ddod â chydweithwyr at ei gilydd dros fwyd i gefnogi un o fentrau cymdeithasol rhagorol y ddinas, fel Oasis, sydd â phwrpas cymdeithasol gwych yn ganolbwynt i’r hyn y mae’n ei wneud.”