Food Cardiff loading now

Allwch chi helpu Caerdydd i gael statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy eleni?

Ar hyn o bryd, dim ond tri lle yn y DU gyfan sy’n Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – erbyn diwedd eleni, mae Caerdydd yn anelu at ymuno â’r grŵp hwnnw!

Bydd y wobr yn cydnabod yr holl waith sy’n digwydd ledled y ddinas tuag at Nodau Bwyd Da Caerdydd. Bwyd Caerdydd sy’n cydgysylltu’r cais, ond mae’r wobr yn wobr i Gaerdydd fel dinas, felly gellir cynnwys yr holl weithgaredd bwyd da (hyd yn oed os nad yw Bwyd Caerdydd wedi cymryd rhan ynddo).

Dyma eich cyfle i ddangos eich gweithgareddau bwyd, coginio a thyfu ac i gael eich cydnabod amdanynt – neu’r gwaith rydych wedi’i wneud ar gyfer un o addunedau Bwyd Da Caerdydd.

Os byddwn yn llwyddiannus o ran y wobr, byddwn hefyd yn darparu pecyn cyfathrebu i chi fel y gallwch ein helpu i ddathlu ein cyflawniadau ar y cyd.

Anogir busnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol i gymryd rhan.

Llenwch y ffurflen hon ar-lein i ddweud wrthym am eich storïau llwyddiant Bwyd Da.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Pearl yn foodsensewales@wales.nhs.uk

Dyma enghreifftiau o rai ceisiadau:

Edible Cardiff

Rhwydwaith llewyrchus ar lawr gwlad o 188 o dyfwyr o 113 o grwpiau tyfu bwyd – pobl, grwpiau a sefydliadau lleol sy’n tyfu eu cynnyrch eu hunain – yw Edible Cardiff. Ers mis Ionawr 2021, mae’r rhwydwaith wedi cynnal dros 120 o ddigwyddiadau ac wedi dosbarthu dros 5000 o eginblanhigion, 1500 o becynnau tyfu gartref a grantiau bach i grwpiau i helpu dros 2000 o bobl sy’n tyfu bwyd.

Hybiau a Chyngor gan Gyngor Caerdydd

Cynhaliodd Cyngor Caerdydd ddwy Her Coginio’n Iach yn 2021 lle yr heriwyd 100 o deuluoedd i greu cyflenwad wythnos o brydau blasus i’r teulu drwy ddilyn gwersi tiwtorial ar ffurf fideos ar-lein neu gardiau ryseitiau hawdd eu dilyn, rhad i’w gwneud, gyda’r holl gynhwysion a’r cyfarpar yn cael eu darparu iddynt.

Caffi’r Ardd Gudd

Mae tua 80% o’r cynhwysion a ddefnyddir gan Gaffi’r Ardd Gudd yn organig/cefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i natur. Mae hyn yn hynod o bwysig o ran helpu i liniaru’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfwng hinsawdd yn ogystal â chynnig bwyd o ansawdd gwell sy’n llawn maeth, a chyfrannu at bridd iach.

Orchard Cardiff

Yn 2022, yn ystod 20 o gynaeafau, fe wnaethom arbed dros 60 crât o ffrwythau, a oedd yn cynnwys afalau a gellyg yn bennaf, y gwnaethom eu rhannu â phrosiectau bwyd cymunedol, fel Oasis, Canolfan Ffoaduriaid Trinity, a Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot. Rydym hefyd yn dod â chymunedau ynghyd drwy weithdai lle’r ydym yn creu lleoliad ar gyfer rhannu sgiliau gwneud sudd a choginio gyda ffrwythau dros ben.