Mae bwyd wrth wraidd llawer o’r problemau amgylcheddol sy’n ein hwynebu. Gydag 20% o gyfanswm allyriadau carbon uniongyrchol byd-eang yn gysylltiedig â bwyd ac amaethyddiaeth, mae’n amlwg bod angen i ni leihau effaith ein system fwyd bresennol ar fyrder. Bydd newid yn hanfodol os ydym am gadw’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang ymhell o dan y 2 radd a nodir yng Nghytundeb Paris.
Mae canllawiau Livewell y WWF, sydd wedi’u diweddaru, wedi’u creu i ddangos y newidiadau deietegol lleiaf sydd eu hangen i gyrraedd y targed 2 radd hwnnw. Drwy ddilyn y camau syml a amlinellir yn yr adroddiad – fel bwyta mwy o blanhigion, codlysiau a grawn – gallem helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 30% erbyn 2030. A’r peth gwych am Livewell yw ei fod ar gael i bawb.
Cliciwch ar ein hadnoddau i ddysgu mwy am sut i ddewis bwyd iach, cynaliadwy.