Mae bwyta’n iach yn hanfodol ar gyfer iechyd da ac yn cyfrannu at lesiant cadarnhaol. Mae llawer o brif achosion afiechyd – megis clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2, rhai mathau o ganser, salwch meddwl ac osteoporosis – yn gysylltiedig â maeth gwael.
Mae’r gweithle yn fan pwysig lle y gall pobl gynyddu faint o fwydydd iach y maen nhw’n eu bwyta er lles eu hiechyd, er mwyn gwella ymdeimlad o lesiant, a’u diogelu rhag salwch.
Mae deiet iach a chytbwys hefyd yn helpu pobl i wella’n gyflymach o salwch, felly mae’n gwneud synnwyr masnachol cadarn hefyd.
Yn ogystal â chael effaith ar ein corff, mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, a’r hyn rydyn ni’n ei yfed yn gallu cyfrannu at ein hiechyd meddwl hefyd, gan arwain at lefelau uwch o ganolbwyntio, bywiogrwydd meddwl a’r gallu i ymdopi â phwysau a straen o ddydd i ddydd.
Er mwyn cefnogi eich staff (ac ymwelwyr â’ch sefydliad) a gwella eu cyfleoedd i gael bwyd iach, gallech:
- Gyfnewid y bisgedi a’r danteithion melys sy’n cael eu darparu am ddim am fasged ffrwythau ffres, gan gyflenwr lleol
- Dewis arlwywyr a lleoliadau digwyddiadau sy’n gallu darparu dewisiadau cynaliadwy, cytbwys ac iach
- Cyfnewid y peiriant oeri dŵr a/neu ddiodydd pefriog am opsiwn cynaliadwy; buddsoddi mewn dyfais carboneiddio i wneud dŵr tap pefriog yn ôl y galw
- Trefnu cinio tîm wythnosol mewn lleoliad sy’n gweini opsiynau iach, neu annog y staff i ddod â phrydau cartref i mewn i’w rhannu
- Cofiwch y dylai digwyddiadau ‘ar ôl gwaith’ gynnig dewisiadau iach i bobl hefyd
Am syniadau eraill i hybu bwyta’n iach yn y gweithle, edrychwch ar yr adnoddau isod.
- HR Magazine – Sut i Gyflwyno Bwyta’n Iach yn y Gweithle* (opens new window)
- Sugar Smart – Canllawiau ar Beiriannau Gwerthu* (opens new window)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru – pecyn cymorth Cymru Iach ar Waith (opens new window)
- HungryCityHippy – Cynlluniau Ffrwythau a Llyisau yng Nghaerdydd* (opens new window)