Mae llawer o ffyrdd y gall y ffordd rydych chi’n siopa gael effaith gadarnhaol ar eich cymuned leol:
- Mae siopa gyda busnesau lleol yn golygu bod yr arian rydych chi’n ei wario yn parhau i gylchredeg yn lleol
- Rydych yn cefnogi busnesau bach sy’n creu swyddi lleol ac yn cadw ein strydoedd mawr i ffynnu
- Mae gennym lawer o siopau bwyd arbenigol sy’n cynrychioli bwyd o bob cwr o’r byd – ffordd wych o ehangu eich gorwelion bwyd
- Drwy siopa mewn marchnadoedd gallwch gael gafael ar y bwyd mwyaf ffres. Yn aml bydd ffrwythau a llysiau wedi cael eu casglu y diwrnod hwnnw.
- Mae prynu’n uniongyrchol gan dyfwyr a chynhyrchwyr yn golygu eich bod yn gwybod o ble mae eich bwyd yn dod – byddant yn aml yn rhoi cyngor gwych i chi ar sut i’w baratoi, ei storio a’i goginio
- Mae siopa gyda chyflogwyr Cyflog Byw yn golygu bod pawb yn cael bargen deg a hefyd yn helpu i gefnogi eich economi leol
- Mae prynu gan fenter gymdeithasol yn golygu bod eich arian hefyd yn cefnogi’r gwaith cymunedol y maen nhw’n ei wneud
- Yn gynyddol, mae manwerthwyr ar-lein yn cynnig cynnyrch ffres a dyfir yn lleol gan ei gwneud hyd yn oed yn haws i siopa
- Gall prynu bwyd a gynhyrchir yn lleol leihau milltiroedd bwyd ac, os yw’n organig, mae’n golygu ei fod o fudd i’n pridd, ein bywyd gwyllt a’n pobl
- Gall chwilio am siop ddiwastraff, neu brynu cynnyrch rhydd o farchnadoedd a siopau bwyd cyflawn leihau’n fawr faint o ddeunydd pacio a ddefnyddiwch
Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i leoedd yng Nghaerdydd er mwyn helpu’ch cymuned drwy’r bwyd rydych chi’n ei brynu:
MARCHNADOEDD
- Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd – Glan yr Afon, Y Rhath a Rhiwbeina* (opens new window)
- Marchnad Ganolog Caerdydd* (opens new window)
- Marchnad Pontcanna, King’s Road, Pontcanna* (opens new window)
- Marchnadoedd Indie Superstore Caerdydd yn y Boneyard ac Ystum Taf* (opens new window)
- Marchnad y Corp yn y Corporation, Treganna* (opens new window)
SIOPAU AIL-LENWI
BWYDYDD RHYNGWLADOL
- International Food Centre – City Road, Y Rhath* (opens new window)
- Cardiff Korean & Japanese Foods – Heol Woodville, Cathays* (opens new window)
- Siam Thai Market – Heol y Crwys, Cathays ac ar-lein* (opens new window)
- Clare Foods – Heol Penarth, Grangetown* (opens new window)
- Masala Bazaar – Heol Richmond, Y Rhath ac ar-lein* (opens new window)
- Bwyty a siop groser Madhav – Lower Catherdral Road, Glan yr Afon* (opens new window)
MANWERTHWYR AR-LEIN
MANWERTHWYR ANNIBYNNOL