Mae 1.1 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei daflu gan y diwydiant Lletygarwch a Gwasanaeth Bwyd bob blwyddyn.
Ar gyfer pob gram o fwyd sy’n dod i ben ei daith yn y bin mae cost amgylcheddol. Mae’r broses o gynhyrchu pob pysen, taten a thafell o fara yn rhyddhau CO2 i’r atmosffer, ac mae’r broblem yn gwaethygu pan fydd y bwyd hwnnw’n cyrraedd y bin. Yn wir, pe bai gwastraff bwyd yn wlad, byddai’n drydydd o ran cyfraddau allyrru nwyon tŷ gwydr ar ôl Tsieina a’r Unol Daleithiau.
Gallwch helpu drwy gymrmyd camau i atal gwastraff bwyd er mwyn helpu eich busnes, yr amgylchedd a’ch cymuned.
Defnyddiwch Gyfrifiannell Arbedion Guardians of Grub i’ch helpu i gyfrifo faint o arian y gallech ei arbed pe baech yn rhoi’r gorau i wastraffu bwyd.
Ystyriwch ddefnyddio un o’r apiau rhannu bwyd i leihau gwastraff fel Too Good to Go.
Ar gyfer gwastraff bwyd anochel, mae’n rhaid i hwn gael ei wahanu a’i gasglu ar wahân erbyn hyn. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu canllawiau ar sut y dylid storio a rheoli bwyd gwastraff. Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ar wahân.
Edrychwch ar yr adnoddau isod, a’r astudiaethau achos hyn i gael rhagor o ysbrydoliaeth.
- Asiantaeth Safonau Bwyd – sefydlu safle eich busnes bwyd (opens new window)
- Guardians of Grub – Cyfrifiannell Costau* (opens new window)
- Guardians of Grub – Adnoddau* (opens new window)
- Wrap – astudiaeth achos Dileu Gwastraff Bwyd* (opens new window)
- Cymdeithas Bwytai Cynaliadwy – Gwastraff Bwyd* (opens new window)
- Llywodraeth Cymru – Ailgylchu yn y Gweithle (opens new window)
- Canllaw Ailgylchu yn y Gweithle WRAP i Gymru (opens new window)
- Pasture yw’r Bwyty Annibynnol Cyntaf yng Nghymru i gael 3* gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy (opens new window)