Ar gefndir o gostau cynyddol a phobl yn profi mwy o ddiffyg diogeledd bwyd, mae un grŵp cydweithredol, a sefydlwyd yn y Sblot, wedi creu model cynaliadwy i helpu pobl i gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy.
Mae Splo-Down yn cynnig bagiau llysiau a ffrwythau wythnosol i’w 90 aelod, ynghyd ag eitemau rhydd fel pasta, reis a choffi, y talwyd am y cyfan ar raddfa symudol i’w gwneud yn fforddiadwy i bawb. Mae bwyd yn dod o gyfanwerthwyr lleol, gyda chyflenwadau yn cael eu prynu mewn swmp i gadw costau’n isel.
Er bod llawer o brosiectau cymunedol yn dibynnu ar ymgyrchoedd codi arian a cheisiadau grantiau cyson, mae Splo-Down yn gallu talu ei chostau gweithredu trwy ei ffioedd aelodaeth, sy’n dechrau ar £3 y flwyddyn, a’r incwm o werthiant ei chynnyrch. Mae’r system yn un nid-er-elw ac yn cydbwyso’n ariannol, gydag unrhyw warged yn cael ei ail-fuddsoddi yn y prosiect.
Mae aelodaeth a mynediad at fwyd ffres fforddiadwy yn agored i unrhyw un yn y Sblot, Adamsdown a Thremorfa yn ogystal â cheiswyr lloches a ffoaduriaid o bob rhan o Gaerdydd.
Esboniodd trefnydd ac aelod gwirfoddol Splo-Down, Ali Taherzadeh:
“Pan sefydlwyd cydweithfa fwyd gymunedol Splo-Down yn 2020 gan grŵp o gymdogion, gwnaethon ni ei seilio ar y gred bod pawb yn haeddu bwyd ffres, o ansawdd da y mae ganddyn nhw ddewis drosto. Rydym yn gwneud hyn yn bosib yn gyntaf trwy archebu mewn swmp – nid bwyd dros ben o archfarchnadoedd ond bwyd ffres gan gyfanwerthwyr o ansawdd da.
“Bob wythnos, mae grŵp bach o’n haelodau yn cymryd ei dro i ddeffro ar doriad gwawr i fynd i’r cyfanwerthwr llysiau i brynu bocsys mawr a bagiau o lysiau ffres yn seiliedig ar faint o archebion bocsys llysiau sydd gennym. Trwy roi ein pŵer prynu at ei gilydd gallwn gael prisiau rhatach. Mae hyn wedyn yn mynd i’n bagiau llysiau wythnosol ac yn stocio ein siop ddiwastraff ar gyfer bwydydd.
“Rydyn ni wedyn yn gwerthu i’n haelodau yn seiliedig ar raddfa symudol – mae’r rheini sy’n gallu fforddio llai yn talu llai, y rheini sy’n gallu fforddio mwy yn talu mwy, ond mae pawb yn cael yr un bwyd.”
Splo-down has also been supported by others in the community, with neighbouring project Splott Community Volunteers lending the van used to collect from the wholesalers and Cardiff Council providing a rent-free site. A crowdfunder and some grants were used during the establishment of the project to cover costs such as the on-site container, which operates as the zero-waste refill shop for dried goods, and a marquee.
Wrth sefydlu a gweithredu’r system, mae’r tîm o wirfoddolwyr sy’n rhedeg y prosiect wedi dysgu llawer o wersi y maent bellach yn eu trosglwyddo i helpu grwpiau tebyg eraill. Yn ddiweddar, maent wedi cydweithio â Bwyd Caerdydd, ‘mudiad bwyd da’ y ddinas i greu fideo sy’n rhannu egwyddorion allweddol eu prosiect llwyddiannus.
Mae’r awgrymiadau a rennir yn y ffilm yn cynnwys y canlynol:
- Mae’r dull cydweithredol yn gweithio orau mewn cymdogaeth amrywiol lle mae gwahanol lefelau incwm yn cefnogi’r model graddfa symudol. Mae pob aelod yn cael ei drin yn gyfartal ac mae ganddynt fynediad at yr un bwyd, waeth pa lefel maen nhw’n ei thalu.
- Mae prynu mewn swmp a chymryd archebion ymlaen llaw yn sicrhau bod y tîm yn effeithlon yn eu prynu, yn osgoi gwastraff, ac yn gallu trosglwyddo’r arbedion a wnaed i aelodau. Mae hyn yn berthnasol i ffrwythau a llysiau, yn ogystal â bwydydd sych a nwyddau glanhau’r cartref.
- Mae’r holl gostau craidd yn cael eu talu trwy aelodaeth a’r system graddfa symudol. Mae aelodaeth hefyd ar raddfa symudol, talu beth y gallwch chi. Mae grantiau wedi eu defnyddio ar gyfer gwariant mwy, ond mae costau gweithredu bob amser yn cael eu talu gan yr aelodaeth.
- Mae gweithio gyda’r gymuned yn gwneud i’r model weithio – o fenthyg y fan, i’r safle di-rent, mae cydweithio wedi bod yn allweddol.
- Mae pawb yn ‘aelod’. Nid yw’r grŵp yn gwahaniaethu rhwng y rheini sy’n rhedeg y gwasanaeth, a’r rheini sy’n ei ddefnyddio. Gall pawb gymryd rhan ar ba bynnag lefel sy’n addas iddyn nhw – o redeg y stondin, coginio bwyd ar gyfer digwyddiad neu helpu gyda’r cyllid ac archebu.
- Mae technoleg wedi helpu i gadw’r gydweithfa i redeg yn ddidrafferth. Mae’r tîm yn defnyddio cronfa ddata i reoli manylion aelodau, tanysgrifiadau ac archebion ar-lein. Mae’r system yn dweud wrth y tîm beth i’w brynu a faint o archebion i’w paratoi bob wythnos.
Dywedodd Lucinda Sehic, Cydlynydd Bwyd Caerdydd:
“Mae Splo-Down yn enghraifft sefydledig a llwyddiannus o gymuned sy’n dod ynghyd i gynnig mynediad i bawb at fwyd iach, fforddiadwy a phriodol. Fel y sbardun y tu ôl i’r mudiad bwyd da yng Nghaerdydd, rydym yn falch o’u cefnogi i rannu eu model a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd.
“Mae gennym rwydwaith gweithredol yng Nghaerdydd, ac rydym yn gobeithio gweld mwy o bobl yn cael eu hysbrydoli gan y model Splo-Down i sicrhau bod pawb ledled y ddinas yn cael y bwyd ffres sydd ei angen arnynt gyda chefnogaeth cymuned gref o’u cwmpas i’w helpu i’w goginio a’i fwynhau.”





