Ar ôl chwe mlynedd ryfeddol o ddatblygiad a llwyddiant gan ddod yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU, mae cydlynydd Bwyd Caerdydd, Pearl Costello, sydd ar fin gadael ei swydd, yn cymryd eiliad i fyfyrio a chroesawu pennod newydd i’r bartneriaeth:
Braint o’r mwyaf oedd cael arwain Bwyd Caerdydd, i helpu i dyfu a llunio’r bartneriaeth hon sydd wedi bod yn bosibl oherwydd yr angerdd a’r awydd anhygoel sydd gan bobl Caerdydd i drawsnewid system fwyd y ddinas.
Yr hyn sy’n unigryw am fod yn gydlynydd partneriaeth bwyd fel Bwyd Caerdydd yw eich bod yn cael cyfle i weithio i gyflawni newidiadau hirdymor, trawsnewidiol i’r holl systemau ac, ar yr un pryd, gweld y newidiadau bach, rhyfeddol sy’n gwneud gwahaniaethau mawr i fywydau beunyddiol pobl ar hyd y daith.
Er enghraifft, drwy gydol fy nghyfnod gyda Bwyd Caerdydd, Cyngor Caerdydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU i gyhoeddi ei Strategaeth Fwyd ei hun, arweiniodd ymgyrch Dinasoedd Llysiau Caerdydd at gannoedd o filoedd yn fwy o ddognau o lysiau yn cael eu gweini mewn ysgolion ac ysbytai, mae’r Cynllun Peilot Courgettes wedi paratoi’r ffordd ar gyfer Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion; ac mae Fframwaith Bwyd Da a Symud y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn newid yr amgylchedd bwyd gyda’i gilydd i alluogi pawb i gael bwyd da.
Cipolwg yn ôl – mae llawer i’w ddathlu
Mae yna lawer o uchafbwyntiau i mi – y rhai cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw:
- Gweld cymunedau’n dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig Covid-19, gan weithio i ddosbarthu dros 20,000 o eginblanhigion, hadau a phecynnau hau ar y cyd i ysbrydoli gobaith yn ystod cyfnod o argyfwng.
- Hwyluso taith i aelodau Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd ymweld â phartneriaethau bwyd, gerddi cymunedol a chydweithfeydd bwyd yn Llundain, gan ysbrydoli’r grŵp i gydweithio i geisio mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
- Gweithio gyda grŵp o ddinasyddion, deietegwyr, ffermwyr a manwerthwyr i ddatblygu syniadau mawr i wneud bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd yn fwy hygyrch, gan arwain at y cynllun peilot Cerdyn y Blaned. Cefais hwb mawr o glywed cyfranogwr yn dweud wrthym eu bod yn aml yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar bethau nad ydynt byth yn digwydd, ond bod hyn yn wahanol – a chlywed adborth nawr gan aelodau fel “O’r blaen, roeddwn i’n cyfyngu fy hun i brynu nifer bach o gynhyrchion a dim ond ychydig o lysiau. Nawr, rwy’n bwyta’n well ac yn iachach diolch i’r cerdyn [Cerdyn y Blaned].”
- Hwyluso ymweliad gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn ystod y cynllun Bwyd a Hwyl i Ardd Salad Caerdydd, i weld y llysiau’n cael eu tyfu yng nghanol y ddinas: “Cyn Bwyd a Hwyl dim ond pecyn bwyd sych yr oedd un disgybl yn ei fwyta i ginio. Rydyn ni wedi bod yn blasu llawer o bethau dros yr wythnosau diwethaf ac mae hi nawr yn bwyta cinio ysgol. Mae hi’n mynd i gael cinio ysgol ym mis Medi. Rydyn ni’n ei galw hi’n seren oherwydd faint o lysiau mae hi wedi bod yn eu blasu.”
Dathlu pŵer y rhwydwaith
Yr hyn sydd gan yr uchafbwyntiau hyn yn gyffredin yw pŵer pobl a chydweithio. Ni fyddai’r un o’r rhain wedi bod yn bosibl heb egni, creadigrwydd ac ymrwymiad pobl ledled Caerdydd. Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith bod Caerdydd wedi llwyddo i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024, gydag adborth a oedd yn dweud:
“Yr hyn sy’n sefyll allan yn arbennig yng Nghaerdydd yw bod mudiad bwyd da cryf iawn ar lawr gwlad yma, y mae pobl yn cymryd rhan ynddo a lle mae’r cymunedau wedi’u cynrychioli’n dda iawn. Ar ben hynny, ceir cefnogaeth wych gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd. Mae gweld y ffyrdd maen nhw’n dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda’i gilydd ym mhrifddinas Cymru, yn eithaf rhyfeddol.”
Mae’r cyflawniadau hyn wedi gwneud cyfraniad mawr tuag at fod yn fodel ac yn ysbrydoliaeth i’r ymdrechion presennol ledled Cymru i greu system fwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned.
Yn 2023, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Cymru Can– strategaeth ar gyfer 2023-2030 sy’n amlinellu ei weledigaeth hirdymor ac yn cyhoeddi’r system fwyd fel ei faes ffocws cyntaf. Yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni (2025), pwysleisiwyd rôl ganolog partneriaethau bwyd lleol gan eirioli dros gynlluniau fel Cerdyn y Blaned.
Roedd Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni hefyd (2025), yn cynnwys astudiaeth achos ar Bwyd Caerdydd ac yn neilltuo dros £2 filiwn o gyllid i ddatblygu’r rhwydwaith Partneriaethau Bwyd Lleol ledled Cymru ymhellach.
Edrych ymlaen at y dyfodol
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio fy mhrofiad a’m llwyddiant wrth feithrin Partneriaeth Bwyd yn fy ngwaith gyda’r rhwydwaith cynyddol hwn o Bartneriaethau Bwyd Lleol ym mhob rhan o Gymru.
Teitl fy swydd newydd yn nhîm Synnwyr Bwyd Cymru yw Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ac rwy’n arwain y gwaith o ddatblygu Partneriaethau Bwyd Lleol ac yn aelod o Fwrdd Rheoli Rhaglen y DU ar gyfer Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Er y byddaf yn parhau i oruchwylio partneriaeth Bwyd Caerdydd, rydym wrth ein bodd o gael croesawu cydlynydd newydd ar gyfer Bwyd Caerdydd a fydd yn dod ag egni a syniadau ffres i symud y bartneriaeth yn ei blaen.
Mae gwaith eisoes ar y gweill ar gyfer y bennod nesaf. Eleni rydym wedi gweithio gyda saith grŵp cymunedol i gynnal Sgyrsiau Bwyd Da Caerdydd, gan ofyn i ddinasyddion beth maen nhw eisiau ei weld o ran bwyd yng Nghaerdydd yn y dyfodol. Mae arolwg cyhoeddus newydd wedi’i lansio i gasglu gwybodaeth hollbwysig am arferion, dewisiadau a heriau bwyd lleol, gyda’r nod o greu tirwedd fwyd iachach, mwy cynaliadwy, ffyniannus, grymusol a chysylltiedig i bawb. Ac ym mis Hydref, byddwn yn cynnal cynhadledd undydd i edrych ymlaen at y degawd nesaf, gan ymchwilio i’r hyn y mae pobl a phartneriaid yng Nghaerdydd eisiau ei weld erbyn 2035 o ran bwyd cynaliadwy – a sut y gallem gyrraedd y nod.
Mae dyfodol Bwyd Caerdydd yn ddisglair. Gyda sylfeini cryf, Strategaeth Bwyd Da uchelgeisiol, a chymuned o bartneriaid a chanddynt angerdd mawr tuag at fwyd, gwn y bydd y bartneriaeth yn parhau i ffynnu.