Gan Amanda Wood – Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd
Gan ddangos ysbryd cymunedol a chydweithio ar ei orau, daeth 30 o aelodau Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd at ei gilydd yn ddiweddar yng Nghanolfan Gymunedol Butetown ar gyfer eu cyfarfod misol diweddaraf. Bu’r digwyddiad, a gynhaliwyd gan Bantri Cymunedol Butetown ac a arweiniwyd gan yr ymgyrchydd tlodi bwyd profiadol Kervin Julien, yn gyfle i gael trafodaethau, llunio strategaeth a chynllunio camau gweithredu i fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd ar draws y ddinas.
Fe wnaeth Julien, sy’n 61 oed ac yn hanu o Lundain, sefydlu Pantri Bwyd Butetown ym mis Ionawr 2022, a chafodd y rhai a oedd yn mynychu eu hysbrydoli gan ei daith tuag at sefydlu’r fenter. Gosododd ei stori y llwyfan ar gyfer sesiwn ddifyr, lle yr ymrannodd yr aelodau’n grwpiau i gyfnewid syniadau ar wella rhwydweithiau bwyd, gwella’r gefnogaeth i wirfoddolwyr, a datblygu darpariaethau bwyd cynaliadwy.
Mae Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd yn dod â chynrychiolwyr o bantris bwyd, ceginau cymunedol, a rhandiroedd ynghyd ac mae’n cynnwys deietegwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n rhannu’r un genhadaeth:
- Sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd fforddiadwy, maethlon sy’n ddiwylliannol briodol.
- Lleihau ynysu cymdeithasol drwy ddefnyddio bwyd fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd.
- Hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar le, a arweinir gan y gymuned i fynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd.
Drwy gydweithio, mae’r grŵp yn cryfhau mudiad bwyd da Caerdydd, sy’n cael ei redeg yn bennaf gan wirfoddolwyr ymroddedig. Mae’r aelodau’n cydweithio drwy fforwm ar-lein, sesiynau hyfforddi ar y cyd, ac eiriolaeth ar y cyd i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
Pwysleisiodd un mynychwr bwysigrwydd y cydweithio hwn:
“Mae bod yn rhan o rwydwaith pantris bwyd a phrosiectau tyfu bwyd yn golygu y gallwn gefnogi ein gilydd, rhannu syniadau, a throsglwyddo unrhyw fwyd dros ben ein hunain i bantris eraill fel nad yw’n mynd yn wastraff. Mae dod at ein gilydd yn ysbrydoledig bob amser.”
Ychwanegodd Clare o Ardd Gegin Grangetown:
“Roedd yn wych dysgu am brosiectau bwyd lleol eraill a rhannu gwybodaeth. Roedd y cinio yn flasus iawn, diolch i dîm y gegin yng Nghanolfan Gymunedol Butetown.”
Tynnodd Sue, hefyd o Ardd Gegin Grangetown, sylw at werth rhwydwaith bwyd cysylltiedig:
“Mae’n wych bod yn rhan o brosiect bwyd cymunedol dinas gyfan gyda phobl o’r un anian. Os oes gennym fwy o fwyd nag sydd ei angen arnom, gallwn ei rannu â phantri arall – gan barhau i ddarparu help a gofal yn y gymuned.”
Yn rhan o Bwyd Caerdydd, mae Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd yn croesawu rheolwyr, cydlynwyr, a gwirfoddolwyr i ymuno â hi – ac mae ymaelodi’n rhad ac am ddim.Part of Food Cardiff, the Cardiff Community Food Collective welcomes managers, coordinators, and volunteers to join – membership is free.


