Food Cardiff loading now

Beth am gynnal Sgwrs Bwyd Da Caerdydd yn eich cymuned?

Mae ‘Sgyrsiau Bwyd Da Caerdydd’ yn gyfle mawr ei angen i ddinasyddion Caerdydd drafod yr hyn maen nhw ei eisiau mewn perthynas â bwyd.

Mae bwyd yn ganolog i rai o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu. Mae penawdau am ddiogeledd bwyd, salwch sy’n gysylltiedig â deiet, effaith cynhyrchu bwyd ar natur a hinsawdd, y defnydd o fanciau bwyd (a mwy) i’w gweld yn gyson yn y cyfryngau ac maent yn rhan o’n sgwrs ddyddiol.

Mae Bwyd Caerdydd wedi bod yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, drwy strategaeth uchelgeisiol i sicrhau mai Caerdydd yw’r lle bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU. Ond gwyddom fod mwy i’w wneud.

Nod Sgyrsiau Bwyd Da Caerdydd yw newid hyn a rhoi darlun, wedi’i ategu gan dystiolaeth gadarn, o’r hyn y mae dinasyddion yn ei feddwl am fwyd – gan edrych ar sut y mae preswylwyr Caerdydd yn deall y cymhlethdodau a’r angen i gyfaddawdu.

Er mwyn gwneud hyn rydym am weithio gyda grwpiau a sefydliadau i gynnwys cymunedau lleol mewn sgyrsiau.

Mae Sgyrsiau Bwyd Da Caerdydd yn rhan o raglen genedlaethol o’r enw Sgwrs am Fwyd, sy’n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad.

Pam cymryd rhan?

  • I fod yn rhan o sgwrs am fwyd sy’n digwydd ledled y DU ar raddfa na welwyd ei thebyg erioed o’r blaen
  • Creu cysylltiadau, datblygu perthnasoedd a chlywed barn pobl yn eich cymuned
  • Cyfrannu at ymdrech y mae dirfawr ei hangen i newid y system fwyd
  • Ymchwilio i sut i ddod yn fwy gweithgar wrth ddylanwadu ar ddyfodol bwyd

Yr hyn rydyn ni angen i grwpiau ei wneud:

  • Trefnu lleoliad a lluniaeth ar gyfer sesiwn hanner diwrnod (4 awr) ar gyfer 10-15 o fynychwyr ar ddyddiad addas rhwng 20 Chwefror ac 17 Mawrth
  • Hysbysebu a hyrwyddo’r digwyddiad i’ch cymuned
  • Ymdrin â’r broses gofrestru ac unrhyw daliadau i fynychwyr
  • Byddwn yn gofyn i gyfranogwyr feddwl am wrthrych sy’n cynrychioli’r hyn y mae bwyd yn eich cymuned yn ei olygu i chi. Gallai’r gwrthrych hwn fod yn rhywbeth personol sy’n eich cysylltu’n uniongyrchol â’ch cymuned, neu gallai fod yn rhywbeth sy’n symbol o achos neu fater sy’n bwysig i chi.

Yr hyn y bydd Bwyd Caerdydd yn ei ddarparu:

  • £500 ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb fesul sefydliad i dalu am logi ystafell, lluniaeth, creche a thaliadau i fynychwyr. Byddem yn awgrymu taleb o £20 fesul mynychwr, yna £200 ar gyfer lluniaeth a llogi ystafell, ond efallai y byddwch am addasu hynny ar gyfer eich cymuned leol (e.e. efallai y byddwch yn teimlo bod angen darparu creche)
  • Gallwn hefyd ddarparu cyfradd is fesul sefydliad ar gyfer Sgwrs am Fwyd ar-lein
  • Rydym yn cyflwyno ac yn hwyluso’r Sgwrs am Fwyd 4 awr
  • Byddwn yn cynnig cyfle i fynychwyr fynd i sesiynau hyfforddiant arweinwyr bwyd dilynol i ddatblygu eu sgiliau
  • Bydd eich sefydliad a’ch mynychwyr hefyd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad dathlu ym mis Ebrill
  • Gallwn ddarparu deunyddiau hyrwyddo y gellir eu golygu e.e. taflenni ac ati.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni: