Mae Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd o 2-28 Medi; bydd grwpiau cymunedol, ysgolion, gerddi a busnesau yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn canolbwyntio ar goginio, rhannu a thyfu bwyd da.
Mae Bwyd Caerdydd wedi rhoi grantiau i 32 o ysgolion a grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau fel rhan o raglen Gŵyl yr Hydref yn ystod y pedair wythnos.
ae Bwyd Caerdydd yn ‘bartneriaeth bwyd’ dinas gyfan sy’n cynnwys unigolion a sefydliadau sy’n cysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, sy’n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas.
Mae Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd yn cael ei lansio yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn ystod penwythnos y 7-8 Medi.
Bydd Parth Bwyd Da Caerdydd yn rhan o’r ŵyl gyda rhaglen o weithdai a sesiynau arddangos drwy gydol y deuddydd sy’n cynnwys sesiwn Trafod a Blasu Salad gyda Gardd Salad Caerdydd; Sesiwn Coginio Plantain gyda Pantri Tremorfa; Sesiwn Gwneud Bara Surdoes gyda Pettigrew Bakeries; a gweithdy Piclo dros y Blaned gyda Green Squirrel.
Mae digwyddiadau eraill yn ystod mis Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd yn cynnwys y canlynol:
- Gweithdy ‘cawl campus’ yng nghaffi Pedal Power; dysgwch y gyfrinach am sut i wneud cawl blasus Taz. Cewch wybod am yr holl awgrymiadau defnyddiol a thechnegau i ail-greu eich hoff gawl gartref.
- Dathliad Diwrnod yr Afal gydag Orchard Cardiff; dathliad i’r teulu cyfan gyda gweithgareddau gwneud sudd, gwneud finegr seidr afal, cwis afalau a thaith o amgylch y berllan.
- Pecyn stiw swmpus y Sblot yng nghanolfan hamdden STAR; dewch i gasglu pecyn pryd iach a cherdyn rysáit i goginio pryd iach a blasus tymhorol.
- Sesiwn bragu cwrw yn Railway Gardens; dysgwch sut i droi hopys wedi’u tyfu’n lleol yn gwrw blasus (gobeithio!) a gweld y broses bragu cwrw ar waith.
- Diwrnod agored cymunedol yng Ngardd Cegin Grangetown; dathlu gwaith anhygoel y gwirfoddolwyr ymroddedig gyda theithiau tywys o amgylch yr ardd a’r rhandir, cerddoriaeth fyw i’w mwynhau drwy gydol y dydd a phrydau blasus am bris gostyngol yn y caffi ar y safle.
- Digwyddiad cwrdd â’r tyfwyr gan Coed Organic; Dewch i glywed am bopeth sy’n ymwneud â garddio marchnad a dulliau a thechnegau tyfu organig heb ddefnyddio unrhyw wrtaith anifeiliaid, sydd wedi’u hardystio gan gymdeithas y pridd, y mae Coed Organig yn eu defnyddio i gynhyrchu llysiau blasus a maethlon 20 munud o ganol Caerdydd!
Mae pob un o’r digwyddiadau hefyd yn cefnogi Strategaeth Bwyd Da Bwyd Caerdydd ar gyfer y ddinas sydd â phum nod ar gyfer bwyd – Caerdydd iach; Caerdydd amgylcheddol gynaliadwy; economi fwyd leol ffyniannus; system fwyd deg a chysylltiedig; a mudiad bwyd grymusol.
Pearl Costello yw trefnydd yr ŵyl a chydlynydd Bwyd Caerdydd. Meddai:
“Mae ein gŵyl Hydref flynyddol yn gyfle i gymunedau, ysgolion a busnesau lleol ddod at ei gilydd o amgylch bwyd da. Tra bod gwyliau blaenorol wedi targedu materion fel ansicrwydd bwyd, unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn sgil y pandemig, mae’r ŵyl eleni yn ddathliad o fudiad bwyd da ffyniannus y ddinas ac, yn bwysicach fyth, yn gyfle i unrhyw un ddysgu mwy am yr hyn y maen nhw’n ei fwyta a meithrin sgiliau newydd wrth goginio a thyfu bwyd.”
Hon yw pumed Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd a drefnwyd gan Bwyd Caerdydd i gefnogi a hyrwyddo’r genhadaeth i wneud Caerdydd yn un o Ddinasoedd Bwyd mwyaf Cynaliadwy y DU. Mae rhaglen lawn Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd bellach ar gael: