Rydym yn cymryd cipolwg yn ôl ar Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd â’r uchafbwyntiau o’r 32 o ysgolion a grwpiau cymunedol y mae Bwyd Caerdydd wedi’u cefnogi â grantiau.
Ar draws y digwyddiadau hynny, cymerodd 600 o bobl ran a chafodd mwy na 460 o brydau eu gweini – yn ogystal â hynny, bragwyd 25 potel o gwrw a chafodd 45 cilogram o afalau eu troi’n 12 litr o sudd!
Drwy gydol mis Medi, cynhaliodd grwpiau cymunedol, ysgolion, gerddi a busnesau amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a oedd yn canolbwyntio ar goginio, rhannu a thyfu bwyd da. Dyma rai o’r uchafbwyntiau, a rannwyd gan drefnwyr y digwyddiadau:
Cwmni Buddiannau Cymunedol Aubergine Cafe and Events
Fe wnaeth staff a gwirfoddolwyr Aubergine Cafe goginio a rhannu cinio Sul teuluol ‘pasiwch y pys’ wedi’i wneud yn gyfan gwbl o blanhigion a oedd yn cynnwys dau Wellington figan anferth ac amrywiaeth eang o lysiau organig o Farchnad y Rhath, a chrymbl afal bendigedig a hufen ia fanila figan yn bwdin. Ar ôl i bawb lanhau eu platiau, roedd digon o fwyd yn weddill i bobl fynd ag ef gartref gyda nhw ac i’w ddosbarthu ymysg gwirfoddolwyr a staff Canolfan Gymunedol Cathays, ac i lenwi’r oergell gymunedol sy’n rhad ac am ddim i bawb.
Uchafbwynt: Fe wnaeth y cyfranogwyr fwynhau ansawdd y bwyd a’r awyrgylch cyfeillgar.
Coed Organic
Cynhaliodd sefydliad cydweithredol gweithwyr Coed Organic ddigwyddiad ‘cwrdd â’r tyfwr’ yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Galwodd pobl heibio i ddysgu am dechnegau tyfu organig, pwysigrwydd yr Hydref fel tymor cynaeafu, a’r prydau blasus y gellir eu gwneud gyda’r cynnyrch yr adeg hon o’r flwyddyn.
Uchafbwynt: Siarad â phobl am fwyta bwyd yn ei dymor a phwysigrwydd yr Hydref.
Family Action
Diolch i’r cyllid gan Bwyd Caerdydd, rydym wedi gallu cynnal gweithgaredd bach dychwelyd i’r ysgol ochr yn ochr â’n Clwb BWYD sy’n canolbwyntio ar becynnau bwyd iach i ginio. Yn ystod y sesiwn, fe wnaethom:
- Ddarparu amrywiaeth o eitemau ecogyfeillgar i’r plant (e.e. bagiau cinio wedi’u gwneud o blastig wedi’i ailgylchu)
- Cynnig byrbrydau iach (e.e. clementinau, pupurau bach)
- Dosbarthu taflenni ryseitiau ar gyfer eitemau iach a rhad i’w rhoi mewn pecyn cinio.
Gwahoddwyd y teuluoedd i fynd ag eitemau gwahanol o fwyd adref a chreu byrbrydau iach ar gyfer pecyn cinio eu hunain (e.e. tiwna, bagelau, ciwcymbr), ac fe wnaethom eu cyfeirio hefyd at yr adnoddau dychwelyd i’r ysgol ar-lein gan Family Action. Roeddem hefyd wedi gallu darparu ‘bagiau nwyddau’ ychwanegol (yn cynnwys pennau a phadiau ysgrifennu, cyfrifianellau, ac ati) a roddwyd gan gefnogwr corfforaethol. A diolch i un o’n gwirfoddolwyr am ddarparu’r afalau o Orchard Cardiff hefyd!
Uchafbwynt: Adborth gwych gan y rhai a gymerodd ran.
Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon
Ymunodd teuluoedd â’r disgyblion i helpu i baratoi cawl cennin a thatws, tra bo’r disgyblion wedi dysgu am ystyr y cynhaeaf a mwynhau cymryd rhan mewn cwis am y cynhaeaf. Rhoddwyd taflenni gweithgaredd â thema’r cynhaeaf a bagiau papur i’w haddurno i’r disgyblion, a fyddai’n cael eu llenwi’n ddiweddarach â ffrwythau iddynt fynd adref gyda nhw. Ar ôl coginio, eisteddodd y teuluoedd a’r disgyblion gyda’i gilydd i fwynhau’r cawl a wnaethant. Yn ystod sesiwn flasu, cyflwynwyd pawb i’r bwydydd cynhaeaf amrywiol ac, wedi hynny, dewisodd y plant ffrwythau’n frwdfrydig i’w rhoi yn eu bagiau addurnedig i’w rhannu â’u teuluoedd gartref.
Uchafbwynt: Teuluoedd yn dod ynghyd i baratoi bwyd, a’r disgyblion yn dysgu am y cynhaeaf.
Prosiect Global Gardens
Fe wnaethom gynnal diwrnod yr afal yn Global Gardens ar y cyd ag Orchard Cardiff. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gwneud sudd afal, gwneud pizzas a dysgu sut i wneud finegr seidr afal.
Uchafbwynt: Dod â phobl ynghyd i rannu sudd afal a pizza!
Cwmni Buddiannau Cymunedol Green Squirrel
Yn Railway Gardens yn Sblot, fe wnaethom blannu hopys yn 2022, a bellach, yn 2024, maent yn barod i’w casglu, felly fe wnaethom benderfynu ceisio bragu ein cwrw ein hunain. Yn gyntaf, treuliodd y gwirfoddolwyr brynhawn yn cynaeafu’r hopys er mwyn i ni eu sychu. Yna fe wnaethom gynnal diwrnod bragu cwrw, dan arweiniad y gwirfoddolwr Leo, sy’n bragu gartref, i droi’r hopys yn bum galwyn o gwrw. Fe wnaeth Leo ein dysgu am bob cam o’r broses, o’r stwnshio a’r gwlychu, i’r hopysu, ychwanegu burum, a photelu. Cawsom gyfle i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd yn ymarferol wrth i ni baratoi’r cwrw a’i eplesu am ychydig dros bythefnos. Fe wnaeth Leo hefyd ein helpu i ddeall sut i fragu’n ddiogel, sut i ddylunio ein ryseitiau cwrw ein hunain, a manteision cynaliadwyedd bragu gartref o gymharu â phrynu cwrw mewn siop.
Uchafbwynt: Yr enwau a awgrymodd pawb ar gyfer y cwrw! Eau de Splott a Pale By the Rail oedd y ffefrynnau. Gweld y broses o’r dechrau i’r diwedd, o gasglu’r hopys i botelu’r cwrw. Clywed pobl yn sôn am ei wneud eto’r flwyddyn nesa.
Ysgol Gynradd Greenway
Archwiliodd disgyblion a theuluoedd Ysgol Gynradd Greenway fwydydd y cynhaeaf ac fe wnaethant baratoi pryd tro-ffrio, y gwnaethant ei fwynhau gyda’i gilydd. Rhoddwyd rysáit i’r teuluoedd a chynhwysion i ail-greu’r pryd gartref. Roedd y plant yn gyffrous i rannu’r pryd a’u gwybodaeth newydd am y cynhwysion â gweddill eu teulu.
Uchafbwynt: Plant a theuluoedd yn mwynhau bwyd, yn dysgu am y cynhaeaf, ac yn rhoi cynnig ar fwydydd newydd.
Ysgol Gynradd Herbert Thompson
Fe wnaeth Caffi Dros Dro Herbie feithrin undod rhwng Trelái a Chaerau, gan bontio bylchau rhwng y cenedlaethau a chryfhau balchder cymunedol. Fe wnaeth cyfranogwyr o bob oed fwynhau bwydydd blasus wedi’i ysbrydoli o bob cwr o’r byd, man chwarae meddal, a gwneud crefftau. Dysgodd y plant ganeuon am amrywiaeth o ddiwylliannau a chyfnodau, gan eu perfformio i breswylwyr Regency House, a rhoi mwynhad a chysylltu’r cenedlaethau. Cafodd rhieni a babanod fwynhau man chwarae penodol a ddarparwyd gan staff yr ysgol, a oedd yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar i rieni newydd leihau ynysu cymdeithasol. I gefnogi llesiant y gymuned ymhellach, roedd cynrychiolwyr o Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, a’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol yn bresennol, yn darparu adnoddau, cymorth a chyngor gwerthfawr i bawb.
Uchafbwynt: Plant yn perfformio caneuon i breswylwyr Regency House a chyflwyno basgedi nwyddau’r cynhaeaf.
Ysgol Gynradd Meadowlane
Dysgodd y disgyblion meithrin am Ŵyl y Cynhaeaf a sut y mae gwahanol fwydydd yn cael eu cynaeafu o ffermydd a gerddi. Yn ddiweddarach, ymunodd eu teuluoedd â nhw yn y dosbarth i flasu amrywiaeth o fwydydd tymhorol y cynhaeaf, gan gynnwys ffrwythau a llysiau ffres. Gyda’i gilydd, fe wnaethant fwynhau blasu’r bwydydd, trafod y blasau, a dysgu mwy am darddiad eu bwyd.
Uchafbwynt: Teuluoedd yn cael eu croesau i’r ysgol, yn ymgysylltu â’r staff, yn cwrdd â rhieni eraill, ac yn blasu bwyd newydd gyda’r disgyblion.
Ysgol Gynradd Oakfield
Cafodd y disgyblion meithrin a’u teuluoedd yn Ysgol Gynradd Oakfield ddiwrnod yn llawn hwyl yn defnyddio bwydydd y cynhaeaf i wneud pizzas, yn blasu sudd ffrwythau ffres, ac yn peintio pwmpenni. Aeth pob plentyn â’i bwmpen addurnedig gartref, ynghyd â cherdyn rysáit i’w droi’n bryd blasus!
Uchafbwynt: Anfonodd rhiant lun ohonynt a’u plentyn yn defnyddio’r cynhwysion a’r cerdyn rysáit i goginio gartref.
Orchard Cardiff
Fe wnaethom ymuno â Diwrnod Pizza Global Gardens, lle y gwnaeth 50 o gyfranogwyr dorri, gwasgu a throi 45kg o afalau’n sudd, a blasu dros 12 litr o sudd afal ffres. Cynaeafwyd yr afalau dros ben hyn gan ein gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd a’r Fro a Bro Morgannwg. Ymunodd Cath Little â ni hefyd, sy’n storïwr, a rannodd storïau Cymreig am afalau a pherllannau.
Uchafbwynt: Y flwyddyn brysuraf eto, yn sgil ymuno â Diwrnod Pizza Global Gardens.
Pedal Power
Er gwaethaf y gwynt a’r glaw, roedd gweithdy Taz’s Soupa-soup yn llawn! Dysgodd y cyfranogwyr wybodaeth a thechnegau i ail-greu’r pryd gartref ac yna fe wnaethant aros i sgwrsio ar ôl yr arddangosfa, gyda hen ffrindiau a rhai newydd sbon yn llenwi’r caffi gydag arogleuon blasus cawl sylweddol, a sgwrsio a chwerthin llawen. Roeddem wrth ein boddau’n bod yn rhan o bumed Gŵyl y Cynhaeaf Bwyd Da Caerdydd a byddem wrth ein boddau’n bod yn rhan o’r chweched ŵyl!
Uchafbwynt: Gweld faint y gwnaeth pobl fwynhau’r arddangosfa gwneud cawl a’r amgylchedd hamddenol.
Cydweithfa Fwyd Splo-down
Cynhaliodd Cydweithfa Fwyd Splo-down “Prydau o’n Cymuned” lle y creodd pum aelod o’r gydweithfa bryd i’w rannu ag eraill gan ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau Splo-down. Cawsom empanadas o Golombia, teisennau cri, caserol o Dwrci, biryani, gwahanol fathau o gyri, a chacennau coffi. Cafodd pawb a ddaeth i’r digwyddiad flasu’r gwahanol brydau a mynd â chardiau rysáit gartref gyda nhw ar gyfer pob un. Cawsom ymweliad arbennig iawn hefyd gan Jenipher Sambazi o Uganda, is-gadeirydd y gydweithfa o ffermwyr y mae Splo-down yn prynu coffi ganddi
Uchafbwynt: Aelodau’r gydweithfa fwyd yn teimlo’n falch o’u ryseitiau ac yn gyffrous i rannu eu prydau.
United Welsh
Rydym mor ddiolchgar i Bwyd Caerdydd am ein helpu i gynnal digwyddiad amlddiwylliannol a ddaeth â llawenydd, cyfeillgarwch newydd a chwmnïaeth i bobl dros 55 oed yn ein cynlluniau tai. Diolch!
Uchafbwynt: Dod â phawb ynghyd i fwynhau bwyd a chyfeillgarwch, sy’n arbennig o werthfawr mewn cymuned amlddiwylliannol.
I fod y cyntaf i glywed am y cynlluniau ar gyfer Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd 2025, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Bwyd Caerdydd.














