Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, medrus a llawn cymhelliant i arwain Bwyd Caerdydd, y rhwydwaith bwyd cynaliadwy ar gyfer prifddinas Cymru.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Bwyd Caerdydd gan fod ei strategaeth uchelgeisiol i greu rhwydwaith bwyd da cryf yn y ddinas yn golygu bod Caerdydd yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar.
Partneriaeth o unigolion a sefydliadau ar hyd a lled y ddinas yw Bwyd Caerdydd sy’n gweithredu fel hyb i gysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach sy’n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas.
Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n anelu at ddylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.
Bydd Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd yn gyfrifol am arwain a datblygu Partneriaeth Bwyd Caerdydd, gan ddefnyddio ei wybodaeth arbenigol i wella proffil Bwyd Caerdydd a sicrhau ei fod yn bwrw gwreiddiau ar draws y ddinas a ledled Cymru.
Yn cau: 28/04/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad: 12/05/2025