Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd rhwng 10 Medi a 18 Hydref gyda dwsinau o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar draws y ddinas.
Bydd prosiect Dyfodol Cynaliadwy TYY ar waith rhwng 18 Medi ac 15 Hydref. Bydd plant Blwyddyn 6 yn datblygu’r rhandir a grëwyd gan ddosbarthiadau B6 blaenorol ymhellach. Bydd y plant yn ymchwilio i ba gynnyrch bwyd y gallant ei blannu ac yna’n plannu’r rhandir gyda’r nod o werthu unrhyw gynnyrch a dyfir i’r gymuned leol. Mae’r digwyddiad yn gaeedig – bydd plant TYY ac unrhyw wirfoddolwyr o’u teuluoedd yn gallu cymryd rhan.